
Ellie Whittaker
Am brofiad! Rwy’n teimlo mor freintiedig o fod wedi cael y cyfle i fynd i’r Fforwm Rhyngwladol ar Ansawdd a Diogelwch mewn Gofal Iechyd yn Gothenburg eleni. Roedd y siaradwyr, y sesiynau, yr adeilad a’r lleoliad yn berffaith i mi gael fy nghipolwg cyntaf ar wella ansawdd.
Cafodd pob un o’r 3300 o gynadleddwyr eu cyflwyno i’r Model Gwella yn yr araith agoriadol, a gyflwynwyd gan Dr Donald Berwick, siaradwr diddorol ac ysbrydoledig iawn!
Bob dydd, cawsom ein cyflwyno i ffyrdd newydd ac arloesol y mae pobl ledled y byd wedi bod yn gweithio arnynt er mwyn gwella ansawdd eu system gofal iechyd. Yn Copenhagen maent yn annog cleifion â salwch meddwl i gymryd rhan yn eu gofal eu hunain. Maent yn gofyn i’r cleifion; ‘Beth mae urddas yn ei olygu i chi?’ gan wella gofal sy’n canolbwyntio ar y claf a lleihau’r technegau ataliaeth a ddefnyddir.
Ym Malawi, roeddent wedi creu ap symudol i Gynorthwywyr Arolygu Iechyd ei ddefnyddio i fonitro iechyd babanod newydd-anedig yn y gymuned, yn hytrach na’u cadw yn yr ysbyty. Roedd yr ap hwn eisoes yn dechrau lleihau cyfraddau marwolaeth ymysg babanod. Roeddwn wedi fy syfrdanu y gallai gwlad sy’n datblygu fod mor flaengar a rhoddodd ysbrydoliaeth i mi ddechrau fy mhrosiect fy hun.
Ar ôl gwrando ar y siaradwyr, mynychais y sesiynau i fyfyrwyr a gweithwyr iau, gan gwrdd â phobl broffesiynol iau o Awstralia, Copenhagen a Sweden. Roeddwn yn ffodus o dreulio’r noson gyda dau fyfyriwr o Awstralia a Manceinion, gan rannu syniadau a meddyliau am y gofal iechyd yn ein gwledydd gwahanol.
Gyda’r nos cawsom hefyd gyfle i grwydro o amgylch dinas Gothenburg. Ar ôl croesi nifer o lonydd beicio, llwybrau cerdded a llinellau tram, daethom o hyd i’r harbwr a lleoedd hyfryd i fwyta.
Ar y diwrnod olaf clywsom gan Maureen Bisognano a wnaeth ein grymuso i ofyn i’n cleifion ‘Beth sy’n bwysig i chi?’ sy’n gwestiwn byr hawdd sy’n caniatáu i ni ddarparu mwy o ofal personol penodol i’r rhai rydym yn darparu gofal iddynt. Ac o’r sesiwn lawn olaf, dysgais y bydd gweithio amlbroffesiwn, mewn tîm sy’n cynnwys nifer o genedlaethau a meddylfryd holistaidd yn ein galluogi i wella ansawdd y gofal a ddarparwn i gleifion.
Diolch yn fawr 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella am brofiad anhygoel!