Nov 162016
 
Paul Myres, Programme Lead, Choosing Wisely Wales

Paul Myres, Dewis Doeth Cymru

Pan oeddwn yn fachgen, os oeddech yn sâl roeddech yn rhoi cynnig ar feddyginiaethau cartref yn gyntaf – ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn erchyll. Pan gefais annwyd ynghyd â pheswch a “snot” gwyrdd, rhoddodd y meddyg wrthfiotigau i mi. Wnes i ddim cwestiynu hynny.

Pan hyfforddais i fod yn feddyg cefais lawer o wybodaeth dechnegol a meithrin sgiliau diagnostig ardderchog gan ddysgu pa driniaeth oedd yn cyd-fynd â pha ddiagnosis.

Fel meddyg teulu roeddwn yn arfer gofyn i gleifion beth oedden nhw’n credu oedd yn bod arnynt. Roedd y rhan fwyaf yn ateb gan ddweud mai fi ddylai ddweud hynny wrthyn nhw ac yna rhagnodi’r bilsen gywir. Weithiau roeddwn yn dweud wrth gleifion am sgil-effeithiau ac weithiau roedden nhw’n gwrando, ond roedden nhw’n synnu’n aml pan fyddent yn dioddef y sgil-effeithiau hynny.

Roeddwn yn arfer penderfynu pa brofion oedd eu hangen ac roedd cleifion yn cadw’r apwyntiadau hynny fel arfer. Weithiau mae profion yn creu mwy o ansicrwydd nag o atebion.

Felly “y meddyg sy’n gwybod orau”.  Dwi ddim yn credu rhywsut. Ac nid yw Dewis Doeth Cymru‘n credu hynny ychwaith na sawl un arall.

Choosing Wisely Wales

Y clinigydd (nid dim ond y meddyg) yw’r arbenigwr ar ddiagnosis a gwybod pa brofion a thriniaethau all helpu. Y claf (neu’r unigolyn gyda’r broblem iechyd) yw’r arbenigwr ar ei gorff, ei fywyd a’i gymuned.

Gall y ddau gael gafael ar wybodaeth am iechyd, clefydau, profion a thriniaeth oddi ar y rhyngrwyd, drwy lyfrau a chylchgronau a chan ffrindiau. Mae gan y clinigydd yr arbenigedd wrth asesu pa mor dda neu berthnasol yw’r wybodaeth honno a’r claf sydd yn y sefyllfa orau i allu cymhwyso hynny i’w amgylchiadau ei hun ar yr amod ei fod yn deall y geiriau a’r negeseuon.

Beth pe bai clinigwyr a chleifion yn cael sgyrsiau mwy cyfartal yn fwy aml? Sgyrsiau sydd efallai’n fwy agored a gonest lle mae’r claf yn cael y cyfle i egluro sut mae’n teimlo, sut mae ei broblem yn effeithio ar ei fywyd, am beth mae’n poeni, yr hyn sy’n bwysig iddo a beth mae’n ei ddisgwyl neu’n gobeithio y bydd (neu na fydd) yn digwydd.

Mae’r clinigydd yn esbonio beth yw’r broblem debygol a’r hyn y mae tystiolaeth (ymchwil) yn ei awgrymu y dylid ei wneud. Mae hefyd yn egluro pa welliant i’w ddisgwyl ond hefyd beth yw’r risgiau a pha mor hawdd fydd hi i ddarparu’r gofal.

Mae’r claf yn gofyn am ragor o wybodaeth. Beth arall y gallem ei wneud? Pa niwed a allai ddigwydd? Pa mor debygol ydw i o wella? A fyddaf yn gallu gwneud beth sydd angen i mi ei wneud yr wythnos nesaf neu’r wythnos ar ôl hynny? Beth fydd yn digwydd os byddwn yn gwneud dim? Beth alla i ei wneud i helpu fy hun?

Ni fydd atebion pendant bob tro ac weithiau ni fydd digon o amser ond bydd y sgwrs hon yn helpu i sicrhau bod penderfyniadau ar y cyd yn dod yn fwy cyffredin. Mae’n golygu bod y claf a’r clinigydd yn cymryd cyfrifoldeb dros y dewisiadau a wneir gan werthfawrogi, er bod canlyniad da yn debygol, bod risg y gall rhywbeth nas bwriadwyd ddigwydd.

Gwyddom y gall llawer o driniaethau yn y GIG achosi niwed. Nid dyna’r bwriad, ond mae’n digwydd. Gwyddom pa fathau o driniaethau neu brofion sy’n fwy tebygol o achosi problemau newydd yn hytrach na datrys rhai cyfredol. Mae’n gwneud synnwyr osgoi’r rheini y rhan fwyaf o’r amser.

Mae Dewis Doeth Cymru yn rhan o fudiad rhyngwladol a arweinir gan glinigwyr mewn partneriaeth â chleifion. Ei nod yw newid neu ailgydbwyso’r sgyrsiau clinigol gan gydnabod bod y claf a’r clinigydd yn bartneriaid cyfartal sy’n cyfrannu gwybodaeth a sgiliau gwahanol er mwyn gwella llesiant un ohonynt.

Mae’n argymell bod cleifion yn dod yn fwy hyderus wrth ofyn pedwar cwestiwn am brofion a thriniaeth a awgrymir. Mae’n annog clinigwyr i esbonio’r opsiynau neu’r dewisiadau ar gyfer cleifion sy’n seiliedig ar dystiolaeth briodol, a rennir yn y sgwrs.

Mae Dewis Doeth Cymru yn awgrymu nifer o brofion a thriniaethau y dylid eu hosgoi fel arfer gan mai prin yw’r budd sy’n deillio ohonynt ond a allai fod o werth o bryd i’w gilydd. Mae’n awgrymu dewisiadau eraill i’w trafod ac yn cydnabod bod y dewis terfynol yn gorffwys gyda’r clinigydd a’r claf ar y cyd.


 

Dr Paul Myres yw arweinydd y rhaglen Dewis Doeth Cymru a Chadeirydd Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru. Mae hefyd yn feddyg teulu yn Wrecsam.

Lansiwyd Dewis Doeth Cymru ym mis Medi ac mae’n rhan o fudiad rhyngwladol. Caiff ei arwain yng Nghymru drwy bartneriaeth sy’n cynnwys Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru, Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  www.choosingwisely.wales.nhs.uk  neu dilynwch @ChoosingWiselyW ar Twitter, neu ei hoffi ar Facebook: ChoosingWiselyWales

 Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>

(required)

(required)