
Kathryn Greaves, Arweinydd Prosiect Cenedlaethol yr Ymgyrch dros Feichiogrwydd Mwy Diogel
Byddaf wastad yn cofio’r fydwraig a’m tywysodd yn ofalus drwy fy meichiogrwydd, gan roi sylw i’r peryglon a’r anawsterau y byddwn yn eu hwynebu ar y daith. Pan ddatblygais gyneclampsia yn ystod camau diweddarach fy meichiogrwydd tra roedd fy ngŵr (milwr ar y pryd) oddi cartref yn llenwi’r bylchau a grëwyd gan y streic ambiwlans yn 1990, byddaf wastad yn cofio’r gofal da a’r sylw a gefais gan fy noctoriaid ac yntau’n absennol. Pan anwyd fy merch yn ddiogel ym mis Awst nid wyf yn credu fy mod wedi gwerthfawrogi pa mor lwcus oeddwn i o fod yn cydio yn fy merch fach iach.
Y dyddiau hyn rydym i gyd yn disgwyl rhoi genedigaeth i glamp o fabi mawr braf pan fyddwn yn feichiog. Rydym yn byw mewn byd lle mae pobl yn cymryd yn ganiataol y bydd popeth yn iawn. Wrth gwrs, mamau a babanod iach a hapus yw’r rheswm pam rydym yn arbenigo mewn proffesiynau megis Bydwreigiaeth ac Obstetreg. Rydym yn ymwybodol o’r peryglon, rydym yn ymwybodol o’r problemau sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd a geni plentyn, ac rydym i gyd yn gwybod mai ar ôl y digwyddiad yn unig y gellir dweud ei fod yn normal.
Mae beichiogrwydd a genedigaeth plentyn yn ddigwyddiadau ffisiolegol beunyddiol, ond y dyddiau hyn, pan nad yw pob un ohonom ar ein gorau o ran ein hiechyd corfforol a lles, nid pawb yn barod am dreialon beichiogrwydd.
Rydym i gyd yn ymdrechu i helpu menywod a’r gymuned ehangach i ddeall yr angen i baratoi ar gyfer beichiogrwydd cyn cenhedlu, ond yn poeni na fyddwn yn cyflawni hynny’n llwyr. Y realiti yw bod menywod yn beichiogi gyda nifer o faterion iechyd a chymdeithasol y mae angen i ni eu cefnogi a’u rheoli gyda’n gilydd yn ystod beichiogrwydd.
Nid pob beichiogrwydd sy’n cyrraedd y cyfnod llawn. Mae deall ac, yn bwysicach, cefnogi menywod i ddeall rhai o’r ffactorau a allai sicrhau beichiogrwydd iachach a mwy diogel yn allweddol wrth fynd i’r afael ag ymwybyddiaeth o ffactorau risg hysbys mewn perthynas â cholli ffetws.
Cyhoeddwyd nifer o ddogfennau gan Lywodraeth Cymru megis Adroddiad Strategaeth Famolaeth Llywodraeth Cymru gan yr Is-grŵp Ansawdd a Diogelwch Mehefin 2013 a Rhwydwaith Mamolaeth i Gymru Gorffennaf 2013 yn nodi pwysigrwydd mynd i’r afael ag effeithiau lloriol colli babi. Mae Rhwydwaith Mamolaeth Cymru wedi bod yn arwain ymateb ar y cyd i fynd i’r afael â’r materion hyn i sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol, y menywod a’u teuluoedd yn rhannu’r cyfrifoldeb.
Mae angen i ni weithio gyda menywod a’r gymuned ehangach i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â cholli babi a pham y gallai rhai o’r dewisiadau a wnawn fel menywod effeithio ar ganlyniad beichiogrwydd. Codi ymwybyddiaeth a chael sgyrsiau anodd â menywod yw’r unig ffordd y gallwn effeithio ar hyn a gobeithio y gallwn leihau nifer y babanod sy’n marw bob blwyddyn. Rydym i gyd yn defnyddio’r pecyn GAP/GROW i fonitro twf babanod. Mae’n rhaid i ni fod yn onest â menywod ynglŷn â’u ffactorau iechyd personol a’u cefnogi i ddeall eu risgiau personol eu hunain.
Felly sut mae cyflawni hyn?
Mae’r Rhwydwaith Mamolaeth, mewn cydweithrediad â 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella yn lansio ymgyrch genedlaethol “Beichiogrwydd Mwy Diogel” ar 28 Mawrth 2017 i gyflwyno bwndel gofal, sy’n cynnwys adnoddau i fenywod a gweithwyr iechyd proffesiynol a fydd yn cyflawni’r hyn a ddywedir ary label, sef “codi ymwybyddiaeth” a sicrhau bod y dewisiadau a’r ffactorau iechyd sy’n dylanwadu ar feichiogrwydd mwy diogel yn hysbys i’r cyhoedd.
Mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod menywod a gweithwyr proffesiynol yn cael y llwyfan cywir i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar feichiogrwydd iach. Fel Arweinydd Prosiect Cenedlaethol yr ymgyrch dros Feichiogrwydd Mwy Diogel, mae gwaith a mewnbwn y Byrddau Iechyd a phartneriaid cefnogi wrth greu bwndel o ofal i’w rannu â’r gymuned ehangach yn destun balchder sylweddol i mi. Ac ar ôl dwy flynedd o waith ar y cyd rydym yn barod i rannu a chydweithio â’n teuluoedd fel partneriaid cyfartal wrth gymryd cyfrifoldeb am ddiogelu ein babanod.
Mae tudalen ymgyrch Beichiogrwydd Mwy Diogel yn cael ei lansio ar 28 Mawrth. Cysylltwch â Kathryn ar Kathryn.Greaves2@wales.nhs.uk
Os oes gennych unrhyw bryderon yn ystod eich beichiogrwydd siaradwch â’ch bydwraig ar unwaith. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r hyn y gallwch ei wneud yn ystod beichiogrwydd, darllenwch “Eich canllaw i feichiogrwydd a’ch baban”
Dolenni defnyddiol: