Oct 112017
 

HeatherJane Coombs – SANDS

Yn 2004, roeddwn yn meddwl eich bod yn ddiogel ar ôl eich sgan 12 wythnos yn ystod eich beichiogrwydd, ac mai aros i’ch babi gyrraedd oedd y cam nesaf. Dyna naïf roeddwn i! Roeddwn wedi clywed am fabis marw-anedig ac am fabis yn marw ar ôl cael eu geni ond dim ond mewn operâu sebon. Doedd hyn ddim yn digwydd mewn bywyd go iawn ac i bobl arferol….Nag oedd?

Ar 1 Medi 2004, sylweddolais fod pobl arferol fel fi yn cael babis marw-anedig pan ddywedwyd wrthyf am 10.31pm fod fy mab Xander wedi marw y tu mewn i mi oherwydd toriad yn y brych. Doeddwn ddim yn gwybod sut roeddwn yn disgwyl iddo ddod allan, ond fe wnaeth y sylweddoliad fy mod yn mynd i roi genedigaeth i fabi na fyddai byth yn crio dorri fy nghalon yn ddwy.

Parhaodd yr enedigaeth am y 2 ddiwrnod nesaf ac, yn y diwedd, am 2.43pm ganwyd bachgen bach 5lb 5.5oz hynod hardd (ydw, dw i’n unochrog, ond mae’n wir) a enwyd gennym yn Xander Dangerfield Coombs.  Gallen i ddweud pob manylyn wrthoch chi am yr amser y treuliais yn yr ystafell honno yn aros i roi genedigaeth, hyd yn oed pa mor anghyffyrddus oedd y gwely a’r posteri o fabis ar y waliau. Y noson gyntaf honno, fe glywais 7 babi yn cael eu geni ac roedd gwybod na fyddai fy mabi i byth yn crio yn artaith.

Pan ddywedwyd wrthyf nad oedd gan fy mabi guriad calon ac yna’r newyddion ei fod wedi marw, myfyrwraig o fydwraig ddaliodd fy llaw a chrio gyda mi. Mae ei thosturi hi wedi aros gyda mi. Dwi wedi rhoi fy mydwraig, Cath, oedd yna am ddyddiau’r enedigaeth ac a’m helpodd i drwy oriau anodd iawn, ar bedestal a hi fydd brenhines y bydwragedd am byth yn fy marn i. Roedd hi’n anhygoel. Dw i hefyd yn gwybod bod ei shifft gwaith hi wedi dod i ben am 2pm ar y dydd Mercher hwnnw, ond roedd hi’n dal yna yn gofalu am ei “poppet”, sef yr enw roddodd hi ar Xander, a mi tan wedi 9pm pan adewais i. Fe’i gwisgodd, siaradodd ag e a rhoi amser i ni gael bod gydag e, ac roedd hi yno pan oedd angen unrhywbeth arnon ni. Roedd hi’n anhygoel… Dw i’n rhyfeddu at fydwraig sy’n gallu ymdrin mor gariadus a pherffaith â theulu yn ystod torcalon ac yna’n mynd drws nesaf at deulu y mae eu bywydau wedi newid mewn ffordd arall, yn wahanol i’n bywyd ni.

Trwy fy ngwaith gyda  Sands (elusen ar gyfer babis marw-anedig a marwolaeth ar ôl genedigaeth), yn gyntaf fel gwirfoddolwr ac yna fel gweithiwr, dw i wedi clywed gymaint o straeon ac wedi cwrdd â chymaint o weithwyr iechyd proffesiynol, rhai’n dda a rhai nad ydynt cystal. Pan ofynnwyd i mi ymuno â’r Gweithgor Marw-anedig Cenedlaethol, roeddwn wrth fy modd ac yn ofnus! O ran fy ngwaith, roeddwn yn arweinydd tîm mewn canolfan alwadau, ac yn ystod fy nghyfarfodydd cyntaf roeddwn yn teimlo allan o fy nyfnder, yn aros i rywun ddweud wrthyf fy mod yn twyllo a gofyn i mi beth oeddwn i’n ei wneud yno. Doeddwn i ddim yn deall y siarad meddygol, a byddwn yn aml yn mynd adref â llawer o nodiadau fel y gallwn chwilio ystyr geiriau ar y we, er mwyn deall am beth oedd y sgwrs. Serch hynny, hoffwn feddwl fy mod wedi dechrau cyfrannu dros amser, fel llais y rhieni, ac wedi gwneud rhywfaint o wahaniaeth o fewn y gweithgor.

Roedd bod yn rhan o lansio’r Ymgyrch Beichiogrwydd Mwy Diogel Cymru a bod yn ddigon ffodus i allu rhannu Xander gyda phawb yn anhygoel, ac mae’r bartneriaeth rhwng Sands a’r Rhwydwaith Mamolaeth/Gwella 1000 o Fywydau i’w weld wedi mynd o nerth i nerth, gyda lansio’r Llwybr hyd yn oed yn fwy cyffrous. Pan fyddwn yn dechrau gweld niferoedd y marw-anedig yn gostwng fel y gwnaethon nhw yn yr Alban, bydd hynny wir yn ardderchog. Efallai bod ei draed yn fach, ond mae Xander yn sicr yn gadael ei ôl.

Byddwn yn ymuno i godi ymwybyddiaeth yn ystod wythnos ymwybyddiaeth o golli babis. Am ragor o fanylion am ddigwyddiadau, ewch i www.babyloss-awareness.org

 Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>

(required)

(required)