
Kate Mackenzie
Roedd fy mlog diweddaraf yn trin a thrafod rhifau oer a chaled…ffeithiau, ffigurau a chyngor gwych (!) megis “Byddwch yn ymwybodol o’ch llinell sylfaen” (mae’n werth dilyn y cyngor hwn). Efallai fy mod wedi swnio ychydig fel rhywun ar ‘Wall Street’, a’ch bod yn dychmygu eich hun yn gaeth i gyfrifiannell neu daenlen? Os felly, yna rwy’n gobeithio eich bod wedi gweiddi at y sgrin bod rhedeg ar ôl rhifau yn gallu arwain at bob math o drafferthion. Ac yn wir fe all…rwy’n cytuno’n llwyr â chi…OS mai dyna’r unig beth a gaiff ei ystyried.
Felly beth arall sydd yna? Beth allwch chi ei wneud i sicrhau nad un rhif sych yw hanfod eich prosiect gwella?
Mae’n amser stori.
Beth ydych chi’n ei ddweud wrth eich cleifion, eich cydweithwyr, eich penaethiaid? Sut ydych chi’n cyfathrebu? A pha mor aml?
Yn gyffredinol, mae fy ateb i’r cwestiynau hyn yn cael ei golli mewn pwl o chwifio breichiau a rhefru di-sail. Beth yw eich ymateb chi?
I unrhyw un sydd wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant gwella*, fe wyddoch fod treulio amser yn datblygu cynllun mesur clir yn ddefnydd da o amser. Ond sawl un ohonom sy’n buddsoddi’r un faint o egni neu amser yn cynllunio’r hyn rydym yn ei gyfathrebu? Onid siarad yn unig yw hynny?
Tybed ydych chi wrthi’n ystyried y cwestiynau a ofynnwyd uchod neu’n cwestiynu pam mae person data yn sôn am siarad.
Yn y bôn, nid yw cyfathrebu a mesur mor wahanol i’w gilydd pan mae’n fater o gynllunio.
Ysytyriwch, er enghraifft, y 6 chwestiwn mae fy nghydweithiwr cyfathrebu gwych, Andrew Cooper, wedi’u datblygu ar gyfer “cyfathrebu er mwyn gwella ansawdd”
- Beth ydych chi eisiau ei gyflawni?
- Beth sydd ei angen arnoch i ennyn diddordeb?
- Beth mae angen i chi ei ddweud?
- Sut byddwch chi’n cyrraedd eich cynulleidfa?
- Sut byddwch chi’n ennyn diddordeb eich cynulleidfa?
- Beth fyddwch chi’n ei ddysgu ar gyfer y tro nesaf?
A phe byddech yn siarad â mi am eich cynllun mesur:
- Beth ydych chi eisiau ei gyflawni?
- Beth yw’r sefyllfa bresennol?
- Beth sydd angen i chi gadw llygaid arno?
- Sut byddwch chi’n cadw llygaid arno?
- Sut byddwch chi’n ennyn diddordeb eich cynulleidfa?
- Beth fyddwch chi’n ei ddysgu ar gyfer y tro nesaf?
Iawn – mae’r derminoleg ychydig yn wahanol, ond nid yw’r prif elfennau mor wahanol â hynny.
Felly yn union fel yr oedd Astaire a Rogers yn cydweddu’n berffaith tra bod Ella Fitzgerald yn pendroni a ddylai roi’r gorau iddi, mae cyfathrebu a mesur gyfuniad da… efallai hyd yn oed yn gyfuniad newydd atyniadol gwerth ei drydar, sef “cyfesur”.
Drwy gynllunio eich strategaeth gyfathrebu ar y cyd â’ch cynllun mesur, gall arbed amser i chi mewn gwirionedd wrth i chi archwilio’r un cwestiynau o ddwy agwedd wahanol yn hytrach nag ymgymryd â thasgau gwahanol. Ac mae’n debygol y bydd meysydd yn gorgyffwrdd – er enghraifft, efallai y bydd angen i chi ddilyn gweithgaredd ar twitter os ydych chi’n codi ymwybyddiaeth. Ac yn ddi-os bydd angen i chi gyflwyno eich data i rywun yn rhywle. Er mwyn bod yn effeithiol, mae angen i chi feddwl am y darlun cyflawn er mwyn rhoi eich hun yn y lle perffaith i gyflawni “Newid” – lle mae pobl yn deall, ac yn ymroddedig i wneud rhywbeth yn wahanol, ac yn awyddus i wella.
Yn yr oes hon lle mae pawb fel pe baent yn codi bwganod, efallai y bydd rhai yn datgan ar unwaith eich bod yn wynebu eich tranc os byddwch yn esgeuluso un o’r rhain, ond mae’n well gen i ddweud eich bod yn fwy grymus o ran sicrhau gwelliannau os byddwch yn apelio at galonnau YN OGYSTAL Â meddyliau eich tîm, eich cleifion a’ch penaethiaid.
Os ydych yn anobeithio oherwydd bod angen cynnwys rhywbeth arall eto yn eich gwaith cynllunio, dyma <https://www.youtube.com/watch?v=tU2i2Qzv1-4> fideo defnyddiol i’ch atgoffa o’r camau allweddol hynny…
Pob hwyl wrth gyfesur!
*Llongyfarchiadau i gydweithwyr Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd – os nad ydych wedi gwneud eisoes, cymrwch gip ar eu gwefan: mae Hyfforddiant Efydd yn wych.