Feb 132018
 

Grant Evans, Uwch Reolwr Datblygu Sefydliadol a beirniad Gwobrau GIG Cymru

Mae gwobrau GIG Cymru yn llwyfan cenedlaethol ar gyfer rhagoriaeth ac yn dathlu arfer da o ran cyflwyno gofal gwell ac o ansawdd uchel i gleifion ledled Cymru. Mae wyth categori ac mae gan bob categori banel beirniadu annibynnol. Yn y rownd gyntaf, mae’r panel yn rhoi sgôr i bob ymgeisydd ac yn dewis rhestr fer o dri i fynd ymlaen i’r ail rownd o feirniadu sy’n digwydd trwy ymweliad â safle.

Rydym wedi treulio rhai munudau gyda Grant Evans, Uwch Reolwr Datblygu Sefydliadol a beirniad Gwobrau GIG Cymru, er mwyn glywed rhagor ynglŷn â beth mae’r rôl yn ei olygu…

C – Beth mae’r beirniaid yn chwilio amdano yng ngheisiadau Gwobrau GIG Cymru?

A – Ar lefel sylfaenol, mae beirniaid yn chwilio am ymgeiswyr sydd wedi diwallu meini prawf penodol yn ymwneud â phob categori gwobrwyo. Bydd y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr wedi diwallu’r meini prawf felly rydym yn cymryd cipolwg y tu hwnt i hyn er mwyn ceisio mesur y lefelau cynyddol o dosturi a chwestiynu arfer clinigol neu reolaethol presennol er mwyn deall canlyniadau bwriad y tîm clinigol. Mae timau clinigol yn ymgymryd â newid heb wybod yn llawn ble y bydd yn eu cymryd, mae’n broses o archwilio diarwybod lle mae’r bwriad yn darparu’r ysgogiad sydd yn y pendraw yn ffurfio profiad gwell y cleifion o’r gwasanaeth.

C – Beth yw’r prosiect mwyaf cofiadwy yr ydych wedi ymweld ag ef? A – Ar ôl beirniadu am sawl blwyddyn, mae cymaint o brosiectau cofiadwy i ddewis ohonynt.  Maen fraint bod yn feirniad. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rwyf wedi ymweld â thîm Iechyd Meddwl sydd wedi trawsnewid y modd y mae’n trin cleifion dementia trwy sylweddoli  bod gwrthrychau neu symbolau personol yn tawelu gorbryder yn sylweddol. Rwyf wedi ymweld â ward ble roedd y staff yn arddangos tosturi anhygoel a wnaeth drawsnewid bywydau merched oedd yn agored i niwed.  Hefyd, fe gwrddais â thîm gofal iechyd yn y gymuned a wellodd ansawdd bywyd claf oedd yn sâl iawn drwy ei galluogi hi i symud allan o leoliad gofal eilaidd ac i’w chartref tuag at ddiwedd ei bywyd.

C – Beth yw’r fantais o wneud cais?

A – Mae clinigwyr yn darparu gofal tosturiol bob dydd. Mae’n waith caled a gall fod yn broses ddiddiwedd.  Mae’r gwobrau’n gwneud i ymgeiswyr oedi, meddwl ac ysgrifennu am eu cyflawniadau.  Yn y rhan hon o’r broses mae ymgeiswyr yn aml yn adnabod gweithredoedd a chanlyniadau nad ydynt wedi eu gweld o’r blaen.  Yna maent yn rhannu hyn gyda thîm o wylwyr diduedd sy’n darparu peth adborth ac yn cymharu eu gwaith gydag ymgeiswyr eraill.  Mae hyn yn codi  proffil eu cyflawniadau o fewn eu sefydliad ac yn genedlaethol.  Mae cydnabyddiaeth fel hyn yn dda i forâl a datblygiad pellach o fewn y diwylliant gwella.

Gellir gwneud cais ar gyfer gwobrau eleni tan 23 Ebrill – darllenwch ragor am y categorïau yma a gwnewch gais ar-lein heddiw yma

 

 Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>

(required)

(required)