May 112018
 

Joanna Doyle, Rheolwr Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan

Mynychais Fforwm IHI yn Amsterdam ym mis Mai 2018, fel rhan o dîm 1000 o Fywydau, yn arddangos y gwaith ansawdd a diogelwch sy’n cael ei gyflawni yng Nghymru. Mae’r Rhaglen Staff Nyrsio yn cefnogi GIG Cymru i fodloni gofynion Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru), sy’n gosod dyletswydd gyfreithiol ar Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd i sicrhau eu bod nhw’n darparu digon o nyrsys i ganiatáu amser i’r nyrsys ofalu am gleifion yn sensitif. Gan mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i ddeddfu ar lefelau staff nyrsio, rhoddodd y fforwm gyfle i arddangos y gwaith arloesol sy’n cael ei wneud yng Nghymru, sy’n ennyn diddordeb rhyngwladol. Fel arweinydd Rhaglen Staff Nyrsio Cymru, roeddwn yn falch iawn o gael cyfle i gyflwyno poster ar y rhaglen waith i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a rheolwyr o bob cwr o’r byd. Bydd y Ddeddf Staff Nyrsio yn ddylanwadol o ran grymuso nyrsys a rhoi’r dystiolaeth sydd ei hangen arnynt i ategu eu barn broffesiynol wrth bennu’r lefelau staff nyrsio sydd eu hangen arnynt i gynnig gofal diogel ac effeithiol i’w cleifion.

Fe wnaeth y Fforwm ddarparu cyfle unigryw i ehangu fy ngwybodaeth ar amrywiaeth o brosiectau a mentrau ansawdd a diogelwch. Roeddwn i’n gallu rhwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol sy’n ymglymedig â gwella ansawdd, ac mae gen i ddiddordeb brwd mewn gwella ansawdd a diogelwch gofal a ddarperir i gleifion sy’n cyrchu gwasanaethau gofal iechyd. Roedd ehangder a chwmpas y profiad a’r arbenigedd yn helaeth, yn goleuo, ac yn darparu llawer i feddwl amdano.

Hefyd, enillais fwy o brofiad yn cyflwyno ar waith staff nyrsio cenedlaethol, ar lwyfan rhyngwladol y tro hwn. Bu modd i mi siarad â chynrychiolwyr o wledydd gwahanol am yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu mewn perthynas â staff nyrsio yn eu hardaloedd nhw a sut maen nhw’n rhagweld y bydd y Rhaglen Staff Nyrsio o fudd i gleifion, nyrsys a byrddau iechyd yng Nghymru. Roedd llawer o gynrychiolwyr yn awyddus i ddarganfod mwy am y rhaglen waith genedlaethol, y gwnaethant gydnabod yr oedd yn ddatblygiad cadarnhaol â llawer o fuddion i randdeiliaid.

Enillais gyfoeth o wybodaeth am fentrau ansawdd a diogelwch newydd a phresennol, sy’n cael eu cyflwyno mewn gwledydd gwahanol, ac mae’r wybodaeth hon wedi rhoi llawer o syniadau i mi eu rhannu ag aelodau o grŵp Staff Nyrsio Cymru a chydweithwyr sy’n ymwneud â’r rhaglen waith hon.

 

 Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>

(required)

(required)