Jul 092018
 

Mae OBS Cymru, prosiect gwella ansawdd cydweithredol Cymru gyfan sydd â’r nod o leihau niwed yn sgil gwaedlif ôl-enedigol, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr eleni yn y Gwobrau Diogelwch Cleifion a Gwobrau GIG Cymru.

Rydym ni wedi bod yn cael diweddariad ar y prosiect gan ei ddwy fydwraig arweiniol genedlaethol, Elinore Macgillivray a Kathryn Greaves.

 

Ar gyfer unrhyw un sydd heb glywed am OBS Cymru, allwch chi ddechrau trwy roi trosolwg?

Elinore: Gwaedlif ôl-enedigol (gwaedlif gormodol ar ôl geni plentyn) yw’r ail achos mwyaf o farwolaethau mamol uniongyrchol yn y DU, ac mae’n cyfrif am  80% o farwolaethau mamol. Bydd 1 o bob 20 menyw yn colli dros 1 litr o waed ôl-enedigol, ac ar gyfer 1 o bob 200, bydd gwaedu sy’n bygwth bywyd yn digwydd, sy’n arwain at nifer o ganlyniadau corfforol ac emosiynol niweidiol. Mewn achosion prin (oddeutu unwaith bob 3 blynedd yng Nghymru), bydd gwaedlif ôl-enedigol (PPH) yn arwain at faban yn mynd adref heb ei fam. Gan ystyried hyn, roedd angen amlwg i wella ansawdd rheoli gwaedlif ôl-enedigol, a chytunodd yr holl Fyrddau Iechyd yng Nghymru i gymryd rhan yn y prosiect.

Kathy: Mae gwaedlif ôl-enedigol yn un o’r pum prif risg ansawdd a diogelwch a amlygwyd ar gyfer pob uned famolaeth yng Nghymru. Mae OBS Cymru – Strategaeth Gwaedu Obstetrig i Gymru yn brosiect gwella ansawdd tair blynedd cenedlaethol, bellach yn ei ail flwyddyn, sy’n ceisio lleihau niwed yn sgil gwaedlif ôl-enedigol. Prif nod y prosiect yw lleihau nifer y menywod sy’n dioddef gwaedlif obstetrig enfawr.

Sut mae’r prosiect yn cyflawni ei nodau?

Elinore:  Ers lansio’r prosiect ym mis Tachwedd 2016, mae nifer o ymyriadau wedi cael eu rhoi ar waith ar draws wardiau geni dan arweiniad obstetrig yng Nghymru, gan arwain at ganlyniadau cadarnhaol:

  • Mae asesu risg ar gyfer gwaedlif ôl-enedigol nawr yn dod yn rhan arferol o’r broses dderbyn mewn lleoliadau geni dan arweiniad obstetrig, sydd wedi arwain at ymwybyddiaeth gynyddol o ganfod, atal a rheoli gwaedlif ôl-enedigol a chynllunio’n gynnar ar gyfer hynny.
  • Mae amlygu cynnar trwy fesur colli gwaed yn cael ei ymsefydlu mewn ymarfer, a chaiff faint o waed ôl-enedigol a gollir gan dros 90% o fenywod ei fesur.
  • Mae gwaith tîm amlddisgyblaethol yn gwella o ganlyniad i’r hyfforddiant a ddarparwyd gan dimau OBS Cymru. Mae clinigwyr, gan gynnwys bydwragedd, cynorthwywyr gofal iechyd, anesthetyddion, obstetryddion, ymarferwyr yr adran lawdriniaethau, a myfyrwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau mamolaeth, wedi derbyn hyfforddiant OBS Cymru, ac maent wedi defnyddio’r ymagwedd 4 cam i reoli gwaedlif ôl-enedigol.
  • Mae peiriannau profi pwynt gofal ROTEM wedi cael eu gosod ym mhob ward geni yng Nghymru i ganiatáu mynediad at ganlyniadau tolchi cyflym ac arwain rheoli cynhyrchion gwaed. Mae data cynnar yn awgrymu bod hyn yn arwain at ostyngiad mewn rhoi cynhyrchion gwaed yn sgil gwaedlif ôl-enedigol.

Kathy:   Caiff yr ymyriadau hyn eu cefnogi gan system gadarn o gasglu data gan dimau hyrwyddo OBS Cymru lleol, ac mae gennym ni dîm pwrpasol ym mhob ward geni dan arweiniad obstetrig yng Nghymru. Mae timau lleol yn defnyddio’r data a gesglir i ddadansoddi a sefydlu meysydd i’w gwella o fewn eu byrddau iechyd eu hunain. Mae’r timau hyrwyddo yn mynychu cyfarfodydd cenedlaethol lle mae enghreifftiau clinigol a gyflwynir yn dangos sut mae egwyddorion OBS Cymru wedi cefnogi penderfyniadau a chanlyniadau gwell i fenywod.  Yn ogystal â hyn, mae bydwragedd o bob bwrdd iechyd yn cyfarfod yn flynyddol i adolygu a rhannu dysgu, a chyflwyno hyn i’w byrddau iechyd i ledaenu arfer da.

Ydych chi wedi gweld unrhyw newidiadau ers lansio’r prosiect ym mis Mai 2016?

Elinore – Mae data cynnar yn dangos bod faint o waed a gollir gan dros 90% o fenywod yn cael ei fesur, sy’n grymuso clinigwyr i roi’r driniaeth gywir i’r menywod cywir, ar yr adeg gywir. Mae’r defnydd o gynhyrchion gwaed yn sgil gwaedlif ôl-enedigol hefyd yn dechrau gostwng.

Kathy: Mae OBS Cymru yn brosiect gwella ansawdd byw a chynhelir sgyrsiau dyddiol yn y byrddau iechyd am arfer da a’i effaith ar arferion. Mae un bwrdd iechyd wedi ymgorffori asesu risg yn rhan o drosglwyddo amlddisgyblaethol wrth adolygu’r menywod sy’n esgor, fel bod y tîm yn ymwybodol o unrhyw risgiau posibl ac yn gwneud paratoadau priodol fel tîm, cyn i’r menywod roi genedigaeth. Mae eraill wedi nodi risg bosibl wrth ddefnyddio gorchuddion yn ystod  esgor, a’r gwaed cudd a gollwyd sy’n cael ei gasglu. Mae ateb syml, sef gosod y tiwb sugno a ddefnyddir yn ystod gweithdrefn yn y gorchudd, wedi datrys y posibilrwydd o fethu gwaedu araf, cyson, na sylwir arno. Mae’r perlau dysgu hyn yn cael eu rhannu ledled Cymru, er mwyn i eraill allu elwa ar enghreifftiau o ymarfer, ac mae ein timau hyrwyddo yn rhan annatod o ledaenu hyn. Rydym ni wrth ein bodd bod y prosiect wedi cael ei gydnabod yn y Gwobrau Diogelwch Cleifion a Gwobrau GIG Cymru. Mae’n fraint cyrraedd y rhestr fer ac rydym ni’n cydnabod ein bod ni’n ffodus i gael cynrychioli holl wasanaethau mamolaeth Cymru, a bod y wobr hon ar eu cyfer nhw, a’u gwaith caled a’u hymrwymiad i’r prosiect.

Beth sy’n eich gwneud chi’ch dwy mor frwdfrydig am y prosiect hwn?

Kathy:  Mae bob amser yn galonogol gweld twf yn fy hyder i fel ymarferwr, a fy nghydweithwyr bydwreigiaeth fel proffesiwn, a’u rôl annatod o ran rheoli gwaedlif ôl-enedigol. Mae’r gwaith papur 4 cam wedi rhoi offeryn dangosol i fydwragedd sy’n mesur gwaedlif ôl-enedigol yn ddiagnostig, ac mae wedi ffurfioli pwyntiau sbardun penodol ar gyfer gweithredu, sy’n ategu ymwybyddiaeth sefyllfaol y tîm wrth reoli gwaedu obstetrig. Bob dydd, mae timau bydwreigiaeth yn mynd i’r gwaith gyda’r bwriad o wneud gwaith da, a dyma un o’r dulliau sydd ganddyn nhw i allu cyflawni hyn bob dydd, o Fangor yn y gogledd, i Gaerfyrddin yn y gorllewin, a Chaerdydd yn y de, unwaith i Gymru.

Elinore: Mae’n fraint bod yn gysylltiedig â phrosiect sydd nid yn unig yn gwella canlyniadau i fenywod, ond hefyd yn grymuso timau i ddefnyddio’r sgiliau y maen nhw wedi’u caffael i gael yr hyder i ddarparu’r driniaeth gywir, i’r menywod cywir, ar yr amser cywir. Mae mesur colli gwaed yn dod yn offeryn pwerus i gyfathrebu yn ystod gwaedlif ôl-enedigol, sy’n gwella gwaith tîm. Rhan bwysig o’r prosiect yw profiad y menywod. Mae ein harolwg cleifion yn dangos, er y gall gwaedlif ôl-enedigol fod yn brofiad brawychus, mae menywod a’u partneriaid geni yn teimlo’n hyderus eu bod nhw’n derbyn gofal o safon uchel, sy’n rhoi boddhad mawr.

Ar ôl dwy flynedd o brosiect tair blynedd, beth yw dyfodol OBS Cymru?

Elinore:  Er ein bod ni wedi cymryd camau breision tuag at wella gofal yn ystod  gwaedlif ôl-enedigol, byddwn ni’n parhau i weithio ar gynnal y newidiadau hyn y tu hwnt i oes y prosiect. Mae ymagwedd OBS Cymru at reoli gwaedlif ôl-enedigol wedi cael ei hymgorffori yn PROMPT Cymru Gyfan, fel rhan annatod o gynnal egwyddorion asesu risg, mesur colli gwaed, ymwneud cynnar gan dîm amlddisgyblaethol, a phrofi pwynt gofal ROTEM. Rydym ni hefyd yn awyddus i weld sut mae’r data’n adlewyrchu’r newidiadau hyn.

Darganfyddwch fwy am OBS Cymru yma a dilynwch y sgwrs ar Twitter #OBSCymru

 Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>

(required)

(required)