Jul 312018
 

Amy Howells

Yn ystod fy lleoliad gwaith gyda’r tîm Gwella 1000 o Fywydau, dw i wedi mwynhau amrywiaeth o sesiynau mewn gwahanol feysydd yn yr adrannau ac wedi dysgu am y ffyrdd y mae’r tîm yn gwella canlyniadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth y GIG yng Nghymru.

Fy nysgu o gwmpas Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd (IQT) …

Uchafbwynt penodol i fi oedd trafod Hyfforddiant IQT gyda Keely McCarthy (Rheolwr Gwelliant) a gallu cwblhau’r IQT lefel Efydd yn ddiweddarach ar y diwrnod hwnnw. Dysgais am y gwahanol lefelau o hyfforddiant IQT y gellir eu gwneud gan staff GIG. Teimlais y byddai’r ffordd y mae’r lefelau’n cael eu dysgu drwy ehangu meddwl ochrol yn gwella hyder a gwaith tîm.  Mae defnyddio arfer ar sail tystiolaeth drwy gasglu data cyn, yn ystod ac ar ôl gwneud newidiadau bach i adrannau, yn help mawr gyda gweithredu newid ar raddfa fwy, os yn llwyddiannus, a gwneud addasiadau os oes angen. Y peth pwysicaf a ddysgais oedd y gallai unrhyw aelod o staff y GIG gymryd rhan a gweithredu newidiadau i wneud gwelliannau i les cleifion a staff. Mae’n grêt bod yr holl aelodau o staff yn gallu bod yn rhan o wella ansawdd, yn hytrach na bod hyn yn digwydd ar lefel uwch yn unig.

Rhaglen Staffio Nyrsys Cymru Gyfan…

Fe wnes i lwyr fwynhau fy amser yn Ysbyty Tywysog Cymru, lle roeddwn yn gallu gwylio Dawn Parry (Arweinydd Prosiect Pediatrig Rhaglen Staffio Nyrsys Cymru Gyfan) yn siarad â nyrsys pediatrig, meddygon a chynorthwywyr gofal iechyd ynglŷn â chraffter a Rhaglen Staffio Nyrsys Cymru Gyfan. Nid oeddwn yn ymwybodol o lefelau craffter cleifion (graddio cleifion o 1 I 5 ar sail lefel y gofal sydd ei angen a’r amser y mae’n ei gymryd i ddarparu’r gofal hwn) cyn treulio’r bore gyda Dawn. Cafodd pwysigrwydd graddio cleifion yn gywir er mwyn sicrhau lefelau diogel o staff nyrsio ar wardiau ei bwysleisio yn y cyflwyniad, a theimlais fod natur ryngweithiol y sesiynau hyn yn ddiddorol a gwybodus iawn. Treuliais y diwrnod hefyd yn Ysbyty Singleton yn gwylio Joanna Doyle (Rheolwr Rhaglen Staffio Nyrsys Cymru Gyfan) yn cynnal diwrnod gwybodaeth Staffio Nyrsys. Mynychodd gwahanol fandiau o weithwyr iechyd proffesiynol a meysydd eraill o’r bwrdd iechyd y diwrnod staffio hwn, ac roedd yn hynod ddiddorol gwrando ar sut mae’r Ddeddf Staffio Nyrsys Cymru Gyfan yn gweithredu mewn adrannau cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol dwys i oedolion.

Yn ystod yr wythnos, cefais hefyd fewnwelediad i wahanol raglenni yn ymwneud â gwrthsefyll gwrthficrobaidd a heintiau yn gysylltiedig â gofal iechyd, a oedd yn ddiddorol iawn yn fy marn i. Mewn cyfarfodydd gyda Helen Ronchetti (Rheolwr Rhaglen HCAI ) a Paul Gimson (Rheolwr Rhaglen Gofal Sylfaenol Cenedlaethol) dysgais am y mentrau mewn gofal cymunedol ac o fewn ysbytai sy’n anelu at leihau nifer yr heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd ac, yn sgil hynny, gwrthsefyll gwrthficrobaidd. Mae gweithredu sy’n cynnwys cyfyngu ar yr amser y defnyddir dyfeisiadau ymwthiol fel cathetr a chaniwla, lleihau gor-rhagnodi meddyginiaethau, gan gynnwys gwrthfiotigau a chynyddu hydradaeth mewn hen bobl er mwyn lleihau enghreifftiau o Heintiau’r Llwybr Wrinol i gyd yn anelu at leihau heintiau o fewn gofal iechyd. Roedd hi’n ddiddorol gweld sut gallai’r newidiadau bach hyn gael effaith anferth ar heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd a gwrthsefyll gwrthficrobaidd.

 Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>

(required)

(required)