Aug 082018
 

Dawn Parry

Wrth i fi gerdded i gyfarfod yn Ysbyty Plant Cymru yn ddiweddar, dechreuais fyfyrio ar faint sydd wedi digwydd ers i fi ddechrau yn y swydd ym mis Ionawr, oherwydd cyn fy swydd bresennol roeddwn yn gweithio yn yr union ysbyty hwnnw.

Dechreuodd fy ngyrfa nyrsio ym 1984, pan ddechreuais fy hyfforddiant RGN ym Mangor, Gogledd Cymru, ger fy nhref enedigol ar Ynys Môn. Ar ôl cymhwyso, dechreuais fel Nyrs Staff ar yr uned bediatrig cyn ennill fy RSCN yn Great Ormond Street ym 1989. Yna, symudais i Gaerdydd lle mae fy ngyrfa wedi mynd o nerth i nerth hyd heddiw. Rwyf wedi bod yn lwcus i gael mewnwelediad i faes nyrsio pediatrig mewn lleoliadau gwledig a threfol, mewn gofal trydyddol ac ysbytai cyffredinol rhanbarthol. Mae’r mewnwelediad hwn wedi bod yn amhrisiadwy i fi wrth gysylltu â chydweithwyr newydd mewn ysbytai ledled Cymru ac i ddeall rhywfaint o’r pwysau sydd arnynt, a’r heriau maen nhw’n ceisio eu goresgyn.

Nid yw’r holl newidiadau yr wyf wedi’u gweld yn ystod fy ngyrfa wedi bod yn rhai cadarnhaol, ond yn fy marn i, bydd cyflwyno Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn un o’r newidiadau pwysicaf yr wyf wedi’u gweld. Rwy’n ystyried hwn yn gam cadarnhaol i fyrddau iechyd, staff nyrsio ac, yn bwysicaf oll, i’n plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Mae Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan yn cynorthwyo GIG Cymru i fodloni gofynion Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru), sy’n gosod dyletswydd gyfreithiol ar fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i sicrhau eu bod yn darparu digon o nyrsys i roi amser i nyrsys ofalu am gleifion mewn ffordd sensitif.

Rôl y llif gwaith pediatrig yw dyfeisio dull ar sail tystiolaeth er mwyn pennu lefelau staff priodol o fewn wardiau cleifion mewnol pediatrig a amlygwyd. Rhaid rhoi tystiolaeth mewn cyd-destun Cymreig i’r dull, a dylai ddilyn model cyffredin o driongli, sy’n canolbwyntio ar dair ffynhonnell hanfodol o wybodaeth: aciwtedd cleifion, dangosyddion ansawdd, a barn broffesiynol. Hyd yma, mae 18 o wardiau pediatrig cleifion mewnol dros y pum bwrdd iechyd wedi cymryd rhan mewn cofnodi data am aciwtedd ar gyfer yr archwiliadau ddwy waith y dydd.

Ym mis Mehefin eleni, cynhaliom ddigwyddiad pediatrig llwyddiannus lle daeth nyrsys pediatrig ynghyd o bob cwr o Gymru i rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd am adolygu a diwygio fersiwn ddrafft lefelau gofal pediatrig newydd Cymru i baratoi ar gyfer profi ar y wardiau.

Mae fy mrwdfrydedd am y prosiect hwn wedi tyfu yn ystod y cyfnod hwn, yn sgil adborth gwych yr wyf wedi’i dderbyn gan gydweithwyr ledled Cymru, a’r teimlad y gellir cyflawni pethau arwyddocaol trwy weithio gyda’n gilydd, creu partneriaethau a systemau cymorth a all fynd y tu hwnt i nodau’r prosiect presennol.

 Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>

(required)

(required)