Dec 072018
 

Dr John Boulton, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG, Gwasanaeth Gwella 1000 o Fywydau

Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn brysur ers i fi ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru dros yr haf – ond nid cwyno ydw i! Pan gyrhaeddais i am y tro cyntaf, roeddwn i hefyd yn gweithio’n rhan-amser yn fy swydd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Gwella Parhaus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac felly roeddwn i’n gwisgo dwy het mewn gwirionedd. Bellach, ychydig fisoedd ar ôl dechrau’r rôl amser llawn, rwy’n parhau i gael fy synnu gan faint o waith sy’n cael ei wneud ac ymroddiad tîm Gwasanaeth Gwella 1000 o Fywydau.

Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn daith o ddarganfod a chasglu gwybodaeth, ac rwyf wedi cwrdd â nifer o grwpiau rhanddeiliaid er mwyn cael dealltwriaeth ddofn o sefydliad sydd eisoes yn ei ddegfed flwyddyn – rwyf wedi clywed pethau da iawn.

Yn ystod y daith honno, fodd bynnag, cafwyd cydnabyddiaeth gref bod angen i’r tîm 1000 o Fywydau ddatblygu’r ffordd y maen nhw’n cefnogi Gwella Ansawdd yng Nghymru. Rwy’n credu y bydd 2019 yn gyfnod cyffrous i Wasanaeth Gwella 1000 o Fywydau. Rydym ni’n ystyried ein gwaith ar hyn o bryd a sut rydym ni’n ei wneud er mwyn ein galluogi ni i helpu GIG Cymru a Gofal Cymdeithasol i wella gwasanaethau a chyflawni’r weledigaeth a roddir yng nghynllun Llywodraeth Cymru Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2018).

Mae’r cynllun yn ymateb i’r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (2018), ac mae’n nodi gweledigaeth tymor hir ar gyfer y dyfodol, sef ‘iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu drwy un system gyfan ddi-dor’, sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles, ac ar atal salwch. Mae’n galw am drawsnewid yn system integredig, gyda modelau newydd o iechyd a gofal cymdeithasol lleol di-dor, ac rydym yn datblygu cynlluniau o gwmpas sut gallwn ni eich cefnogi i gyflenwi’r trawsnewidiad hwn. Mae tîm 1000 o Fywydau mewn lle da i gynorthwyo hyn.

Er mwyn llywio ein ffordd o feddwl, hoffem glywed oddi wrth yr holl staff a gwasanaethau am eich profiad o wella gwasanaethau, a sut hoffech chi helpu gan edrych at y dyfodol. Rhannwch eich barn gyda ni trwy ein harolwg ar-lein.

Byddwn yn rhoi adborth yn y flwyddyn newydd ynghylch beth a ddysgwyd a sut gallwn ni eich cefnogi chi wrth symud ymlaen – cadwch lygad ar ein gwefan, cylchlythyr a’r cyfryngau cymdeithasol i weld y newyddion diweddaraf.

 

 

 

 

 Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>

(required)

(required)