Jan 172019
 

Mae 13 o’r Ysbytai Cyffredinol Dosbarth yng Nghymru yn cydweithio â 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, i wella’r gofal y maen nhw’n ei ddarparu i gleifion sy’n cael llawdriniaeth laparotomi brys (llawdriniaeth brys ar y coluddyn).

Mae’r gwaith hwn yn rhan o raglen gwella ansawdd Cymru gyfan, o’r enw Laparotomi Brys Cymru (ELC), a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2018.

Mae ELC yn canolbwyntio ar ofal cleifion, o’r cyfnod y daw’r unigolyn i’r ysbyty, trwy gydol ei daith amdriniaethol, ac yn ystod ei gyfnod gwella.

Mae ysbytai’n defnyddio ymagwedd pecyn gofal ar sail tystiolaeth 6 cham i gyflwyno gwelliannau.

Defnyddir system casglu data o’r enw NELA (Archwiliad Cenedlaethol Laparotomi Brys) i ddeall safonau gofal unigol yn well, a defnyddio data i wneud gwelliannau.

Mae tri arweinydd clinigol wedi cael eu penodi i ddatblygu’r gwaith ar draws rhanbarthau lleol. Dros y misoedd nesaf, byddan nhw’n rhannu eu meddyliau ynghylch pam mae’r rhaglen hon mor bwysig, a byddant yn trafod sut mae’n datblygu. Bydd pob arweinydd yn gweithio’n agos ag aelodau eraill o dîm amlddisgyblaeth o bob ysbyty yn eu rhanbarth. Bydd yn cynnwys staff ar draws adrannau brys, radioleg, theatr, gofal critigol, a wardiau llawfeddygol.

Yn y blog cyntaf hwn, rydym ni’n siarad â Dr Babu Muthuswamy, arweinydd clinigol y de-ddwyrain. Mae Babu yn Ymgynghorydd Anaesthesia a Gofal Dwys, a Chyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Gofal Critigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

 Yn eich barn chi, pam mae ELC mor bwysig?

Yng Nghymru, mae gan nifer o ysbytai lwybrau clinigol da i wella gofal a chanlyniadau cleifion sy’n cael laparotomi brys, ond mae amrywiaeth o ran prosesau a chanlyniadau cleifion sy’n cael y llawdriniaeth risg uchel hon.

Lansiwyd ELC i gefnogi GIG Cymru i wella canlyniadau cleifion ledled Cymru. Rydym ni’n ymdrechu i sicrhau bod canlyniadau a lefelau bodlonrwydd cleifion a’u haelodau teulu ehangach ymhlith y gorau yn y DU.

Pam yr oeddech chi eisiau bod yn gysylltiedig?

Rwyf wedi bod yn rhan o archwiliad NELA ers ei gyflwyno yn 2014 ac mae wedi bod yn arweinydd ar gyfer Ysbyty Brenhinol Gwent trwy gydol y cyfnod hwn. Mae nifer o heriau wedi bod ar hyd y ffordd mewn perthynas â gwella prosesau gofal i gleifion laparotomi brys. Mae bod yn rhan o brosiect cenedlaethol fel hwn yn helpu i godi proffil y gwaith hwn, ac amlygu natur risg uchel y weithdrefn lawfeddygol hon. Mae hefyd yn helpu i ffocysu meddyliau timau amlddisgyblaeth ym mhob ysbyty i weithio tuag at un nod, sef gwella gofal a chanlyniadau cleifion.

 Beth rydych chi’n gobeithio y bydd yn ei gyflawni?

Trwy ELC, rwy’n gobeithio y gallwn ni wella canlyniadau cleifion yn sgil:

  • Cael canllawiau ymarfer ar sail tystiolaeth fel elfennau o’r pecyn ELC;
  • Darparu rhwydwaith cymorth ar gyfer arweinwyr NELA ym mhob un o’r ysbytai cysylltiedig;
  • Gwella cwmpas ymchwil i fireinio ymarfer presennol; a
  • Lledaenu llwybrau clinigol llwyddiannus sydd wedi cael eu mabwysiadu mewn ysbytai eraill (ledled y DU).

Mae ELC yn dilyn model y DU sydd wedi cael ei brofi, ar ôl cyflawni canlyniadau llwyddiannus.

I gael mwy o wybodaeth:

E-bost:  Arweinydd Cenedlaethol Rhaglen ELC:  Margaret.Rennocks@wales.gov.uk

Gwefan:  http://www.1000livesplus.wales.nhs.uk/elc-cymru

Dilynwch y sgwrs ar Twitter #EmergencyLaparotomyCymru

 Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>

(required)

(required)