Claire Roche

Claire Roche is the 1000 Lives Improvement Maternity Network Wales Manager. Find her on Twitter @ ClaireRoche5.

Apr 082016
 
Claire Roche, Maternity Network Wales manager

Claire Roche, Maternity Network Wales manager

A few weeks have now passed since the “Better Together” conference held on the 17th March in Cardiff which has allowed some time for reflection on our first collaborative national maternity conference in Wales.

As the Maternity Network Manager, it was a real privilege to work in partnership with my colleagues in the Royal College of Midwives and the Royal College of Obstetricians and Gynaecologists. Certainly the months and weeks leading up to the conference were extremely busy and I learnt that organising a large event takes a lot of time, requires a huge amount of planning and most importantly cannot be done in isolation! It requires partnerships and good team work and the hard work of the Programme Support Team in 1000 Lives, RCM colleagues and key network members enabled us to achieve things together.

Essentially, as a conference planning team we were “Better Together”!

During the day, there was a positive energy and a real buzz of enthusiasm and commitment. Many colleagues I talked to on the day valued the contribution of speakers such as Dr Bill Kirkup, Professor Cathy Warwick and Professor Alan Cameron. People spoke to me of the value of hearing colleagues from the RCM and RCOG present the colleges’ collaborative work together and they also valued being at a multi-disciplinary conference where the focus was on maternity care, rather than midwifery or obstetrics in isolation.

Concurrent sessions were delivered by a midwife and doctor; obstetrician or anaesthetist, standing together presenting their work. The presentations were informative, interesting and inspirational. It seemed to me that the presenters were also “Better Together”.

Maternity Network Wales is now over a year old. I feel that the conference was a little bit like our first birthday party with lots of friends! We have developed strong relationships with the RCM, the RCOG, Health Boards, Universities and many other stakeholders involved in maternity services in Wales. We are committed to building and nurturing these relationships and developing new relationships that aim to work together to improve outcomes for mothers and babies in Wales. We know that positive, professional, collaborative partnerships create cultures where patient safety and quality improvement are central to the core value of the service. Without the foundation of a positive culture where different professions value each other, improvements in care will be difficult to achieve.

Let’s build on the values of the conference. Let’s be committed to all working together to create, maintain and nurture positive cultures that will be responsive and ready for quality improvement programmes that focus on patient safety and improved outcomes for mothers and babies. As the network manager, I commit that the network will continue to work in partnership with all those that either use or provide maternity care. Ask yourself, your team, your organisation – what will you commit to?

Remember, we are “Better Together”.

Apr 082016
 
Claire Roche, Rheolwr Rhwydwaith Mamolaeth Cymru

Claire Roche, Rheolwr Rhwydwaith Mamolaeth Cymru

Mae ychydig wythnosau wedi mynd heibio bellach ers y gynhadledd “Gweithio’n Well Gyda’n Gilydd” a gynhaliwyd ar 17eg Mawrth yng Nghaerdydd ac mae hyn wedi rhoi amser i mi fyfyrio ar ein cyd-gynhadledd mamolaeth genedlaethol gyntaf yng Nghymru.

Fel Rheolwr y Rhwydwaith Mamolaeth, roedd yn fraint gweithio mewn partneriaeth â’m cydweithwyr yng Ngholeg Brenhinol y Bydwragedd a Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr. Yn sicr roedd y misoedd a’r wythnosau cyn y gynhadledd yn rhai prysur iawn a dysgais fod trefnu digwyddiad mawr yn cymryd llawer o amser, bod angen llawer iawn o waith cynllunio ac yn bwysicach na dim, na ellir ei wneud ar eich pen eich hun! Mae’n gofyn am bartneriaethau a gwaith tîm da a thrwy waith caled Tîm Cymorth Rhaglenni 1000 o Fywydau, cydweithwyr yng Ngholeg Brenhinol y Bydwragedd ac aelodau allweddol o’r rhwydwaith bu modd i ni gyflawni pethau gyda’n gilydd.

Yn y bôn, fel tîm cynllunio’r gynhadledd roeddem yn “Gweithio’n Well Gyda’n Gilydd”!

Yn ystod y dydd, gwelwyd egni cadarnhaol ynghyd â brwdfrydedd ac ymrwymiad. Roedd llawer o’r cydweithwyr y siaradais â nhw ar y diwrnod yn gwerthfawrogi cyfraniad siaradwyr fel Dr Bill Kirkup, yr Athro Cathy Warwick a’r Athro Alan Cameron. Soniodd pobl wrthyf am werth clywed cydweithwyr o Goleg Brenhinol y Bydwragedd a Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr yn gwneud cyflwyniad ar y gwaith a wneir ar y cyd rhwng y colegau ac roeddent hefyd yn gwerthfawrogi bod mewn cynhadledd amlddisgyblaethol lle roedd y ffocws ar ofal mamolaeth, yn hytrach na bydwreigiaeth neu obstetreg yn unig.

Cynhaliwyd sesiynau cydamserol gan fydwraig a meddyg; obstetrydd neu anesthetydd, yn cyflwyno eu gwaith ochr yn ochr. Roedd y cyflwyniadau yn addysgiadol, yn ddiddorol ac yn ysbrydoledig. Roedd yn ymddangos i mi fod y cyflwynwyr hefyd yn “Gweithio’n Well Gyda’i Gilydd”.

IMG_2230 IMG_2346 IMG_2355 IMG_2369

Mae Rhwydwaith Mamolaeth Cymru bellach dros flwydd oed. Rwy’n teimlo bod y gynhadledd ychydig fel parti pen-blwydd cyntaf gyda llawer o ffrindiau! Rydym wedi datblygu perthynas gref gyda Choleg Brenhinol y Bydwragedd, Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr, Byrddau

Iechyd, Prifysgolion a llawer o randdeiliaid eraill sy’n ymwneud â gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu a meithrin y cysylltiadau hyn a datblygu cysylltiadau newydd gan anelu at weithio gyda’n gilydd i wella canlyniadau i famau a babanod yng Nghymru. Gwyddom fod partneriaethau cadarnhaol, proffesiynol, cydweithredol yn creu diwylliannau lle mae diogelwch cleifion a gwella ansawdd yn ganolog i werthoedd craidd y gwasanaeth. Heb ddiwylliant cadarnhaol lle mae gwahanol broffesiynau yn gwerthfawrogi ei gilydd, bydd yn anodd cyflawni gwelliannau mewn gofal.

Gadewch i ni adeiladu ar werthoedd y gynhadledd. Gadewch i bawb ohonom ymrwymo i weithio gyda’n gilydd i greu, cynnal a meithrin diwylliannau cadarnhaol a fydd yn ymatebol ac yn barod am raglenni gwella ansawdd sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch cleifion a gwella canlyniadau i famau a babanod. Fel rheolwr y rhwydwaith, rwy’n ymrwymo i sicrhau y bydd y rhwydwaith yn parhau i weithio mewn partneriaeth â phawb sydd naill ai’n defnyddio neu’n darparu gofal mamolaeth. Gofynnwch i chi eich hun, eich tîm, eich sefydliad – beth fydd eich ymrwymiad chi?

Cofiwch, rydym yn “Gweithio’n Well Gyda’n Gilydd”.

Jul 162015
 
Claire Roche

Claire Roche

Recently, I had the opportunity to take control of the @1000LivesPlus Twitter account and share my working week with followers of the account.

When I was initially asked to do this by our communications team, I have to admit I wondered ‘why me?’. Having only recently been introduced to Twitter and following some embarrassing gaffs tweeting at the International Quality Forum in April (such as sending a blank tweet and needing to send two to finish off a sentence) I thought they were asking me by mistake!

It would seem there was a method on their madness.

Continue reading »

May 082015
 
Claire Roche

Claire Roche

Two weeks have passed since I attended the International Forum on Quality and Safety in Healthcare (#Quality2015) with colleagues from NHS Wales. It was a Forum packed full of learning and here are some of my highlights from across the three days.

 

Continue reading »