Aug 292017
 

Allwch chi gofio pryd aethoch chi i’r theatr? Beth oedd yn gofiadwy ac yn bleserus?
Ydych chi’n edrych ymlaen at ymweld â’r theatr eto?

Petai’n theatr llawdriniaethau, a fyddech chi’n teimlo’n wahanol? Dychmygwch:

  • Pe na fyddech yn deall pam neu beth oedd yn digwydd.
  • Petai’n rhaid i chi wisgo dillad rhywun arall (gŵn ysbyty).
  • Ar eich ffordd i’r theatr, roedd pobl yn syllu/ edrych i ffwrdd.
  • Bod y theatr yn arogleuo a bod y goleuadau’n llachar iawn.
  • Yn y theatr, bod golau’n fflachio ar y peiriannau swnllyd.
  • Nad oeddech chi’n adnabod dim un o’r bobl, a oedd yn gwisgo’r un dillad.
  • Eich bod chi’n parhau i ddweud eich bod chi wedi drysu ac yn ofnus, ond bod neb yn cymryd unrhyw sylw. Eich bod chi eisiau gadael, ond eu bod nhw wedi eich atal chi. Bod y bobl yn ymddangos yn flin?

Byddai’n gofiadwy, ond a fyddech chi eisiau ymweld eto?

Allwn ni amgyffred beth yw profiad unigolyn ag anabledd dysgu o ysbyty? A ydym ni’n deall sut mae profiadau blaenorol yn dylanwadu ar ymddygiad yn y dyfodol? Efallai ei fod yn ddiwrnod nodweddiadol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd, ond yn ddiwrnod gwahanol iawn i ddefnyddwyr ysbyty. Mae’n hanfodol ein bod ni’n dangos empathi, tosturi, a deall sut gall yr amgylchedd a’r prosesau mewn ysbyty fod yn anodd iawn i bobl eraill. P’un ai a ydym ni’n ymwybodol yn sgil y pasbort ysbyty anabledd dysgu, ein gwybodaeth, neu oherwydd ein bod ni wedi gwrando ar yr unigolyn a’i ofalwyr, mae’n hanfodol ein bod ni’n bodloni’r addasiadau hanfodol, rhesymol hynny ar gyfer triniaeth.

Datblygodd ein tîm Profiad Lleddfu Pryder Cleifion (Soothing Patients Anxiety) “SPA”, i gyflwyno diwrnod llai gofidus a phrofiad cadarnhaol yn y theatr mewn ysbyty. Cyflawnom hyn trwy ddefnyddio cylchau ailadroddol Cynllunio, Gwneud, Astudio, Gweithredu, a thechnegau eraill a addysgwyd gan y cwrs IQT Arian i sicrhau y caiff ein prosesau eu mireinio’n barhaus. Mae cleifion a/neu eu gofalwyr yn bartneriaid cyfartal wrth gynllunio eu gofal. Mae myfyrio ar bob rhyngweithiad ac adborth cyson yn cynnig dysgu newydd i wella’r gwasanaeth yn barhaus. Cyflawnir diwrnod cofiadwy a phleserus trwy dechnegau tynnu sylw y mae’r claf yn eu dewis, wrth roi’r anesthetig cyffredinol, yr ydym yn ei alw’n “anaesthesia diarwybod neu anaesthesia â thema”, sy’n lleihau/osgoi tawelyddiad a/neu reoli ymddygiad yn gadarnhaol (ataliaeth). Caiff yr holl dechnegau eu hymarfer yn y theatr gyda’r claf a’i ofalwyr cyn diwrnod y llawdriniaeth, sesiwn “ymarfer”.

  • Anaesthesia diarwybod – rhoi’r anaesthetig tra bod yr unigolyn dan sylw yn cymryd rhan yn ei hoff weithgarwch a’r dechneg tynnu sylw dewisol.
  • Anaesthesia â thema – caiff y daith ei hadeiladu o gwmpas hoff beth. Fe wnaeth dyn ag anabledd dysgu wneud sylw yn ystod ein clinig asesu cyn anaesthetig pwrpasol, bod y mwgwd wyneb anaesthetig yn ei atgoffa o beth yr oedd peilotiaid awyrennau ymladd yn eu defnyddio yn ei hoff ffilm, Top Gun. Fore’r llawdriniaeth, gwyliodd ef y ffilm. Wrth gerdded i’r theatr, gwrandawodd ar gerddoriaeth thema’r ffilm. Yn y theatr, cymerodd ran mewn rhestr wirio cyn hedfan/anaesthetig. Aeth i gysgu yn dal ei fwgwd wyneb wrth wylio golygfa hediad awyrol trwy i-pod o’i flaen. Ar ôl deffro, derbyniodd dystysgrif hedfan Top Gun.

Mae’r Gwobrau’n ymgorffori’r cyfle i rannu dysgu a dylanwadu ar ofal y tu allan i’ch sefydliad. Y llynedd, enillodd y tîm Wobr Dinasyddion wrth Wraidd Ail-ddylunio Gwasanaeth GIG Cymru, ac eleni, Tîm Anaesthesia  y Flwyddyn BMJ. Mae’n anrhydedd cael gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu a’r cyfle cynhenid i herio normau gofal iechyd. Mae ein defnyddwyr gwasanaeth amrywiol ac unigryw yn sicrhau dysgu parhaus a gwella ansawdd, gan fod pob un ohonynt yn ysbrydoli posibiliadau/dewisiadau newydd ar gyfer defnyddwyr yn y dyfodol.

Cwestiwn:

Beth fyddech chi ei angen ar gyfer ymweliad cofiadwy a phleserus â’r theatr?

I gael mwy o wybodaeth:

E-bost: Paul.Harris@wales.nhs.uk

Aug 212017
 

Elinore Macgillivray, Bydwraig Arweiniol Genedlaethol OBS Cymru

Mae’n gyfnod cyffrous ym mywyd unrhyw deulu pan ddisgwylir babi newydd. Gyda’r holl sicrwydd a ddaw yn sgil gofal iechyd modern, y disgwyliad yw y bydd y fam a’r babi’n iach ar ddiwedd y beichiogrwydd. Ond bydd 1 o bob 20 o fenywod yn colli dros 1 litr o waed obstetrig, a bydd 1 o bob 200 o fenywod yn colli cymaint o waed nes rhoi eu bywyd yn y fantol, gan arwain at nifer o ganlyniadau corfforol ac emosiynol andwyol. Mewn achosion prin (tuag unwaith bob 3 blynedd yng Nghymru) bydd gwaedlif ôl-enedigol (gwaedu gormodol ar ôl genedigaeth) yn golygu y bydd y babi’n mynd adref heb ei fam.

Mae gwaedlif ôl-enedigol (PPH) yn parhau i fod yn un o’r prif achosion sy’n cael effaith andwyol ar les (afiachedd) y fam yng Nghymru ac mae’n un o’r 5 prif broblem ansawdd ar gyfer pob uned famolaeth. Mae OBS Cymru – Strategaeth Gwaedu Obstetrig ar gyfer Cymru yn brosiect gwella ansawdd cenedlaethol 3 blynedd sy’n anelu at leihau niwed yn sgil gwaedlif ôl-enedigol. Prif nod y prosiect yw lleihau nifer y menywod sy’n dioddef gwaedlif obstetreg difrifol. Mae hefyd yn anelu at leihau faint o gynhyrchion gwaed a roddir, nifer y derbyniadau gofal critigol a nifer yr hysterectomïau a gaiff eu cynnal oherwydd gwaedlif ôl-enedigol.

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi bod yn arwain ymchwil i ddeall swyddogaeth ceulo gwaed mewn gwaedlif ôl-enedigol. Yn ystod y prosiectau ymchwil dilyniannol a gynhaliwyd, gwelwyd gostyngiad mewn afiachedd sy’n gysylltiedig â gwaedlif ôl-enedigol; teimlwyd bod hyn yn gysylltiedig â nifer o newidiadau mewn ymarfer yn ogystal ag effaith y prosiectau ymchwil.  Yn dilyn trafodaeth rhwng unedau cyflenwi ar draws Cymru, nodwyd y themâu a restrir isod fel rhai sy’n hanfodol i wella canlyniadau i’r fam, gan lywio dull gweithredu OBS Cymru.

Sut yr ydym yn bwriadu cyrraedd ein nod o leihau niwed yn sgil gwaedlif ôl-enedigol?

Mae Cymru mewn sefyllfa freintiedig gan fod ganddi Rwydwaith Mamolaeth pwrpasol sy’n cynnwys rhanddeiliaid o bob cwr o’r wlad, ac mae’n darparu fforwm i rannu syniadau, a chefnogi gwella ansawdd a safoni yn genedlaethol. Mae nifer o ymyriadau sydd eisoes wedi cael eu rhoi ar waith ar draws yr holl wardiau esgor sy’n cael eu harwain gan Obstetreg yng Nghymru:

  • Asesiad Risg – bydd pob menyw sy’n cael ei derbyn i ward a arweinir gan obstetreg yng Nghymru yn cael asesiad risg safonol ar gyfer gwaedlif ôl-enedigol, er mwyn gallu adnabod y rhai sy’n wynebu’r mwyaf o berygl.
  • Adnabod achosion yn gynnar drwy Fesur y Gwaed a Gollir – yn draddodiadol, rydym wedi amcangyfrif y gwaed a gollir yn dilyn genedigaeth, a hynny’n druenus o wael. Rydym bellach yn symud yn gyflym tuag at fesur yr holl waed a gollir yn dilyn pob genedigaeth, gyda hyfforddiant a gefnogir gan dîm y prosiect.
  • Gwaith Amlddisgyblaethol– rydym wedi datblygu offeryn 4 cam i reoli gwaedlif ôl-enedigol sy’n cefnogi dull unedig o weithio mewn tîm amlddisgyblaethol. Mae OBS Cymru yn ariannu timau hyrwyddwr ym mhob un o 7 Bwrdd Iechyd Cymru sy’n cynnwys bydwraig, anesthetydd, obstetrydd a haematolegydd. Mae’r timau hyn wedi bod yn hanfodol o ran cyflwyno negeseuon gwella ansawdd.
  • Cynnal profion ar y pwynt gofal drwy ddefnyddio ROTEM – mae peiriannau wedi cael eu gosod ym mhob ward esgor yng Nghymru er mwyn caniatáu mynediad i ganlyniadau ceulo cyflym a thywys y broses o reoli cynhyrchion gwaed.

Wrth gwrs, er mwyn dangos y newidiadau cadarnhaol rydym yn eu disgwyl, mae gennym system gadarn ar gyfer casglu data a gefnogir gan dimau hyrwyddwr lleol OBS Cymru. Mae hyn eisoes yn dechrau dangos rhai newidiadau cadarnhaol mewn ymarfer.

Mae digwyddiadau fel Cyngres Diogelwch Cleifion y DU eleni hefyd yn darparu cyfleoedd amhrisiadwy i rwydweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol ar draws y DU, a thu hwnt, sy’n rhannu diddordeb ac ymrwymiad cyffredin i wella ansawdd mewn gofal mamolaeth. Bydd y cydweithio hwn yn ein galluogi i ledaenu gwelliannau ar draws Cymru yn ogystal â gweddill y byd.

Fel un o’r bydwragedd arweiniol cenedlaethol ar gyfer OBS Cymru, rwy’n credu’n gryf y bydd y prosiect hwn yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar leihau niwed yn sgil gwaedlif ôl-enedigol.  Wedi’r cyfan, waeth pa ran y byddwn yn ei chwarae, rydym oll yn anelu at sicrhau bod y fam a’r babi’n iach.

I gael mwy o wybodaeth am ymweliad OBS CYMRU ewch i’n tudalen we

Jul 262017
 

Kate Mackenzie

Es i i redeg ar y penwythnos (“Beth am hynny?!”).

Cymerais ran mewn digwyddiad rhedeg (“O un o’r rhieni wyt ti!”).

Rhedais 104 o filltiroedd.

Nawr rwyf wedi llwyddo i ddal eich sylw. Rhedais 28 milltir ar ddiwrnod 1, 39 milltir ar ddiwrnod 2 a 37 milltir ar y diwrnod olaf.

Dylwn ychwanegu ar gyfer y mileniaid yn eich plith mai 167 km yw hynny. Neu o Aberdaugleddau i Aberteifi i ddelweddwyr a daearyddwyr.

Bydd rhai ohonoch siŵr o fod yn meddwl pam ar y ddaear y byddwn yn gwneud y fath beth. Efallai y byddwch hyd yn oed yn meddwl – Byddwn wrth fy modd yn rhoi cynnig ar rywbeth fel hyn. Ac efallai y bydd y rhai trugarog yn eich plith yn pryderu am gyflwr fy nhraed (braidd yn flinedig, wedi’u lapio mewn tâp meddygol gyda fferau chwyddedig. Mae’r bath iâ yn galw!) Mae’r un peth yn wir am brosiectau gwella.

Anaml y gallwch ddal diddordeb neu ennyn cefnogaeth rywun drwy ddweud “rwy’n gwneud ychydig o waith gwella”. Yr unig bobl y bydd eu pennau’n troi yw pobl eraill sy’n gwneud gwaith gwella. Efallai y bydd “Rwy’n gwneud prosiect gwella” yn ennyn diddordeb ychydig mwy o bobl gan ei fod yn swnio’n rhywbeth allan o’r cyffredin. Mae’r trydydd yn denu sylw pawb. Y data.

O’i wneud yn iawn, y data yw eich iaith gyffredin. Maent yn rhoi fframwaith cyfeirio ar gyfer eich taith ar unwaith. Ac maent yn esbonio maint eich cyflawniad. Maent yn ennyn ymateb.

Ac ni ddylent fod yn gymhleth neu’n feichus i’w casglu na’u hesbonio.

Mae’r geiriau “data” neu “mesurau” yn aml yn ysgogi cwynion nad oes gan rywun feddwl mathemategol neu bod y cyfan yn rhy anodd. Gall deimlo ei fod yn rhywbeth ychwanegol i’w wneud ar ben yr holl waith gwella hyfryd rydych chi’n ei wneud.

Mae cysylltiad annatod rhwng eich gwaith gwella a’r newid rydych chi’n ei wneud. Mae eich data o’ch amgylch chi. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw edrych o amgylch gyda’ch prosiect mewn golwg a meddwl sut y gallwch wirio a yw hyn wedi gwella?

Os nad ydych yn gwybod y rhifau ar y dechrau (eich llinell sylfaen), sut y gallwch wybod i sicrwydd eich bod yn canolbwyntio eich ymdrechion ar y peth cywir?

Drwy fonitro eich cynnydd (mesur rheolaidd), rydych yn ymwybodol o ganlyniadau cadarnhaol a all fod yn hwb enfawr i forâl a’ch helpu i ddal ati. Neu sut mae gwybod mai gwyriadau yw gwyriadau ynteu a oes rhywbeth mwy difrifol yn bod.

Ac yna pan ddaw’n amser i roi gwybod i’ch cydweithwyr, eich cyfoedion, eich rheolwr cyfarwyddiaeth neu’r cyfarwyddwr cyllid am eich llwyddiant. Rydych am iddynt gydnabod a dathlu eich cyflawniadau ond rhaid i chi ddweud wrthynt mewn ffordd sy’n ystyrlon iddyn nhw yn ogystal â chi.

Gallech feddwl am enghraifft arall – mae llawer o bobl yn ymgymryd â phrosiect gwella personol ar ryw adeg yn ystod eu bywydau, er mwyn colli ychydig o bwysau. Yn yr achos hwn, gwneir penderfyniadau ynghylch pa amser o’r dydd i bwyso, pa mor aml, neu a ddylid troi at glwb lleol am gymorth. Y pwynt allweddol yw nad oes neb yn dechrau heb wybod eu pwysau cychwynnol a heb gofnodi eu cynnydd bob tro y byddan nhw’n pwyso eu hunain. Mesur yw sut rydych yn cadw eich hun ar y trywydd iawn, sut rydych yn parhau i wthio ymlaen gyda’ch prosiect.

Yn gryno, DATA YW EICH FFRIND.

Dyma sut rydych yn profi i’r difriwyr bod eich ymdrechion yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Dyma sut y byddwch yn argyhoeddi’r rhai ar y lefelau uwch i’ch cefnogi ac i fuddsoddi.

A phan fyddwch yn edrych yn ôl, dyma fydd yn crisialu eich llwyddiant.

Mwynhewch y mesur!

Jun 072017
 

Sera Llewelyn Davies

Yn ddiweddar cefais y fraint o fynychu Fforwm Rhyngwladol ar Ansawdd a Diogelwch mewn Gofal Iechyd yn Llundain. Cefais ddewis naw sesiwn i gyd â oedd ymlaen ystod y ddau ddiwrnod. Roeddwn gyda  llawer o ddiddordeb ym mhob un ohonynt, ac felly yn anodd dewis rhai gan fod yna llawer o bethau diddorol ymlaen.

Ar ôl trafeilio o Ogledd Cymru i Lundain ar brynhawn Mercher, mi roeddwn yn edrych ymlaen at fynychu’r fforwm bore Iau. Mi roedd yr adeilad yn llawn o unigolion o bob man o’r byd ac roeddwn yn hynod lwcus i gael dysgu, rhannu syniadau.

Dechreuodd y diwrnod gydag Agoriad o groesawu a chyhoeddiadau gan ddilyn ymlaen i’r sesiwn cyntaf sef ‘International Quality and Safety where are we now and where we going to?’ o dan ofal Donald Berwick ac Lord Darzi. Roedd y sesiwn yn cynnwys beth fydd angen a sut i newid hyn ymhen blynyddoedd.

Wrth fynd i amrywiaeth o sesiynau dros y ddau ddiwrnod, sesiwn â wnaeth sefyll allan oedd yr ail sesiwn ar y dydd Iau, ‘How leaders navigate the way’. Prif beth dysgais o’r sesiwn yma oedd ‘ I’ve got the gift’ sef diwylliant o fewn arweinyddiaeth er mwyn gwella ansawdd ei fod yn anrheg. Mae’r anrheg hynny yn cael ei basio ymlaen lawr llwybr i’r person nesaf. Rhaid cofio mae llwybr ydyw ac nid map, sy’n golygu ei bod yn cymryd amser i fynd lawr y llwybr hynny i roi pethau ar waith. Mae yna bwysau mawr o fewn y maes iechyd a gofal. Dysgais er mwyn gwella ansawdd hyn yw’r anrheg, gyda ‘empoweremnet, engagment + culture’ yn rhan fawr o sut byddem yn arweinio o fewn lleoliad. Byddaf yn sicr mynd ar neges hyn yn ôl drwy ei weithredu ar y ward yn y dyfodol, er mwyn newid rhywbeth a’r pwysigrwydd fod pawb yn gyd weithio ac yn cynnwys pawb yn y weithred. Rhaid cwestiynu ar gyfer sut i asesu, gwella diogelwch, gwella’r gwasanaeth a drwy hynny angen profiadau. Er mwyn gwneud gwahaniaeth syniadau bach ar gyfer helpu staff newydd ar y ward drwy wneud llyfryn gwybodaeth a bwrdd hysbysfwrdd addysgol ar y ward. Dysgais gan gofio mynd ar ddyfyniad hyn yn ôl i le rwy’n gweithio bod newid a gwella ansawdd yn broses fel coginio ar hyn sydd yn rhoi blas yw’r cyd weithio i wneud rhywbeth weithio yn llwyddiannus.

Ar ddiwedd y ddau ddiwrnod, roeddwn wedi dysgu llawer o bethau. Gyda syniadau yn dod yn fyw yn fy meddwl, er mwyn mynd a nhw nôl i’r lleoliad lle rwy’n gweithio fel Nyrs Newydd Gofrestredig.

Rwy’n hynod o falch fy mod wedi ymgeisio am y gystadleuaeth #Helofyenwiydy, gan barhau gyda’r gwaith o ymgyrchu yn y ward. Os ydych yn fyfyriwr nyrsio neu myfyriwr meddygaeth ymgeisiwch ac mi fyddwch yn hynod ffodus o gael fynychu fforwm fel hyn yn y dyfodol. Mewn amser rwy’n edrych ymlaen eto i fynychu yn rhan o’r gwaith fel nyrs. Mae angen parhau gyda gwella ansawdd cleifion er mwyn iddyn nhw gael bob gofal gorau posib. Roedd y fforwm a chyd weithio gyda gweithwyr 1000 o fywydau yn hynod o ysbrydoledig.

Emma Morgan-Williams

Waw! Mae’n fraint ac anrhydedd meddwl bod fy nghais i’r gystadleuaeth “Helo fy enw i ydy…” wedi arwain at y cyfle i fynd i Fforwm Rhyngwladol ar Ansawdd a Diogelwch mewn Gofal Iechyd yn Excel Llundain eleni. Roedd y siaradwyr o’r radd flaenaf ac roeddwn i wedi gwirioni arnynt; roedd yn rhaid imi binsio fy hun. Fel myfyrwraig nyrsio blwyddyn gyntaf roedd yn anrhydedd cael mynd i’r sesiynau mewn cynhadledd mor enwog.

Rhoddwyd y brif araith agoriadol gan Dr Donald Berwick, a’r Athro yr Arglwydd Ara Darzi a ddilynwyd gan banel a oedd hefyd yn cynnwys Margaret Murphy, Cynghorydd Arweiniol Allanol Rhaglen Diogelwch Cleifion ar gyfer Cleifion Sefydliad Iechyd y Byd ac Anya De Longh, hyfforddwr hunanreoli a chlaf. Cytunodd y panel mai sicrhau mwy o gyfranogiad gan gleifion yw’r ffordd ymlaen.

Canolbwyntiodd prif sesiwn arall ar ‘Gleifion sy’n Arloesi’ a sut mae effaith technoleg yn galluogi cleifion i arloesi a gweiddi’n falch #NidYdymYnAros i’r farchnad fawr ddod o hyd i atebion ar gyfer eu cyflyrau.

Yn lle hynny mae’r cleifion hyn yn ymchwilio i atebion cadarnhaol drwy hunanreoli er mwyn gwella eu bywydau a bywydau eraill â chyflyrau iechyd tebyg a datblygu’r atebion hyn. Rwyf wedi bod ar leoliad cleifion allanol mewn clinig diabetig yn ddiweddar, ac nid oeddwn yn gallu aros i rannu arloesedd Tim Omer, Eiriolwr Diabetes a ddatblygodd fesurydd glwcos ‘Tic tac’ a System Pancreas Artiffisial. Rwyf wedi rhannu â chydweithwyr ar fy lleoliad waith arloesol Sara Riggare, myfyrwraig PhD yn Karolinska Instituet yn Sweden ac arbenigwraig hunanofal, sydd wedi datblygu offeryn mapio hunanofal i reoli ei chlefyd Parkinson ei hun.

Roedd y brif araith ar fore dydd Gwener gan Jason Leitch, Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol yn Llywodraeth yr Alban a Derek Feely, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol IHI, a anogodd ni i ofyn i’n cleifion ‘Beth sy’n bwysig i chi?’ Roedd y cysyniad syml hwn wedi fy ysbrydoli cymaint ac ers hynny rwyf wedi awgrymu bod ein Cymdeithas Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cymryd rhan mewn “Diwrnod beth sy’n bwysig i chi 2017”. Gall y cwestiwn syml, ond effeithiol hwn ein helpu i ddarparu gofal mwy cyfannol sy’n canolbwyntio ar y person. Fel mam plentyn sy’n fyddar gallwn uniaethu â hyn yn hawdd; rwy’n gwybod pe bawn yn gofyn i fy mab “Beth sy’n bwysig i ti?” nid apwyntiadau ysbyty na chymhorthion clyw fyddai’r ateb. Yr ateb fyddai pêl-droed a nofio, gan ddangos yn hyfryd bod cleifion yn fwy na dim ond eu cyflyrau.

Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd gwrando ar Ingrid Brindle, claf Canolfannau Meddygol Haughton Thornley a Chadeirydd Grŵp Cyfranogi Cleifion Haughton Thornley, ynghyd â Dr Amir Hannan, meddyg teulu yng Nghanolfannau Meddygol Haughton Thornley a Chadeirydd Uwchgynhadledd Arloesi Iechyd y Byd, a siaradodd y ddau am y claf #empowerlution – chwyldro o ran grymuso. Gwnaethant eirioli ar gyfer datgelu llawn a mynediad unigol i gofnodion meddygol, a fydd, yn eu barn hwy, yn arwain at well gofal cleifion yn y pen draw.

Cefais y cyfle hefyd i siarad â llawer o bobl am amrywiaeth o faterion. Roedd y rhain yn cynnwys y rhaglenni 1000 o Fywydau a Mwy – Gwasanaeth Gwella ar lefelau staffio diogel, sepsis a’r ymgyrch beichiogrwydd mwy diogel i enwi ond ychydig. Ni fyddai’r cyfle hwn wedi codi pe na bawn wedi mynd i’r gynhadledd. Fel myfyrwraig gwnes ddefnydd llawn o’r deunyddiau darllen ac rwy’n gwybod y byddaf yn eu defnyddio er mwyn adeiladu fy ngwybodaeth ac fel deunyddiau cyfeirio ar gyfer fy aseiniadau ysgrifenedig.

Yn ogystal, drwy wrando ar y Cyrnol Chris Hadfield, cyn-beilot prawf milwrol a gofodwr, llwyddais i greu argraff ar fy mhlant, a dysgais nad oes terfyn wrth gyflwyno gofal o ansawdd sy’n canolbwyntio ar y claf.

Diolch 1000 o Fywydau a Mwy – Gwasanaeth Gwella am brofiad mor wych! Rwy’n siŵr y bydd effaith y gynhadledd hon yn parhau drwy gydol gweddill fy ngyrfa broffesiynol. Gobeithio y byddwch yn cynnal cystadleuaeth debyg y flwyddyn nesaf, er mwyn rhoi cyfle dysgu i fyfyriwr arall, cyfle na ellir ei gymharu ag unrhyw beth yn fy mhrofiad i fel myfyrwraig.

Jun 062017
 

Mae Kathryn Topple yn fyfyrwraig nyrsio oedolion yn ei hail flwyddyn ac yn aelod o Gymuned Prifysgol Bangor.

Roeddwn am fynd i Gynhadledd Genedlaethol 1000 o Fywydau oherwydd roeddwn yn teimlo y byddai hyn yn hybu fy ngwybodaeth a’m profiad o ofal integredig yn y gwasanaeth iechyd.

Braint fawr oedd cael cyfle i fod yn bresennol oherwydd bod hyn hefyd wedi datblygu fy nealltwriaeth o sut mae gweithio tîm amlddisgyblaethol yn GIG Cymru yn gwella ansawdd y gofal mae cleifion yn ei dderbyn.

Uchafbwynt fy niwrnod oedd cael cyfle i gyfarfod â Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a gefnogodd ddatblygu 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella hefyd. Roedd hyn yn eithriadol o ddiddorol am ein bod yn gallu trafod sut y cafodd y gwasanaeth gwella ei sefydlu, ei ymgyrch i wella gofal cleifion, gan arwain at arbed bywydau yn y pen draw.

Roedd y profiad hwn yn bleserus iawn ac yn werth chweil a byddwn yn annog nyrsys sy’n fyfyrwyr yn y dyfodol i wneud cais i fynd i gynadleddau dilynol os bydd y cyfle yn codi.

Mae Fern Williams yn fyfyrwraig nyrsio maes oedolion sydd yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor.

Roeddwn yn ffodus iawn cael mynd i Gynhadledd Genedlaethol 1000 o Fywydau yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd ddydd Mercher 29 Mawrth. Roedd y gynhadledd yn cynnwys nifer o siaradwyr gwadd i gyd yn cyflwyno o amgylch y thema integreiddio gofal a’r cysylltiadau i wireddu hynny. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall gofal integredig gynorthwyo wrth wella darnio mewn gofal iechyd, ond y gall gynorthwyo hefyd wrth wella ansawdd bywyd cleifion (Sun, Tang, Ye, Zhang, Bo a Zhang, 2014).

Roedd y diwrnod yn ddiddorol iawn, ond roedd dwy sesiwn lawn benodol yn rhagori.

Roedd y gyntaf gan Anna Sussex sy’n Rheolwr Llwyth Achosion Mynychwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a ddatblygodd Brosiect Mynychwyr. Nododd Anna yn ei chyflwyniad fod yr Adran Frys lle mae wedi’i lleoli yn cynnwys 8,000 o gleifion sy’n cael eu dosbarthu fel mynychwyr, ac sydd wedi cynhyrchu bron 32,000 o ymweliadau yn y 12 mis diwethaf, am gost sylfaenol o £3.2miliwn i’r Bwrdd Iechyd. O ran y prosiect, sefydlodd Anna dîm Amlddisgyblaethol, gan gynnwys aelodau staff yr adran frys, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’r gwasanaeth y tu allan i oriau ac roedd hefyd yn cynnwys gwasanaethau eraill fel trydydd partïon a gwirfoddolwyr, sy’n cydweithio gyda’i gilydd.

Helpodd y prosiect i nodi cleifion sy’n cael mynediad amhriodol i’r gwasanaethau o ganlyniad i nifer o resymau. Oherwydd hyn, mae gweithiwr allweddol yn cael ei neilltuo i fynychwr sy’n ddibynnol yn ei angen fel arwahanrwydd cymdeithasol.

Nododd Anna ei hun ar y diwrnod fod y prosiect wedi helpu i hyrwyddo annibyniaeth ac ailintegreiddio’r unigolion yn ôl i mewn i’w cymuned. Dangosodd ystadegau ar ei sleid fod gostyngiad o 84% o ran mynychwyr gwasanaethau brys a gostyngiad o 95% o ran costau.

Roedd gennyf ddiddordeb hefyd yn y sgwrs a arweiniwyd gan Brendan Martin ar ran Jos De Blok, sylfaenydd Model Gofal Buurtzorg, nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn anffodus. Sefydlwyd Model Gofal Buurtzorg yn 2006/2007 gan Jos De Blok ei hun. Mae model gofal Buurtzorg yn cynnwys timau nyrsio gyda 12 ym mhob un a chyda rhwng 40 a 60 o gleifion ym mhob tîm. Deallwyd bod y timau’n golygu bod gweithwyr proffesiynol yn gweithio’n fwy effeithlon ac effeithiol, gan helpu i wella gofal sy’n canolbwyntio ar y person. Rwy’n hoffi’r syniad o tua 60 o gleifion rhwng 12 o nyrsys gan ei fod yn golygu bod 5 claf gan bob nyrs. Mae Jos De Blok ei hun wedi dweud ei fod yn galluogi’r staff i dreulio mwy o amser gyda’u cleifion. Rwy’n teimlo y bydd hyn yn helpu i feithrin perthynas therapiwtig. Yn ogystal â pherthynas therapiwtig, bydd yn darparu parhad gofal. Mae Barker (2017) yn mynegi bod parhad gofal yn helpu gyda boddhad cleifion ac yn gwella ansawdd bywyd i’r cleifion hynny â chyflyrau hirdymor.

Cefais hefyd gyfle i siarad â Chadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Athro Syr Mansel Aylward ac roedd ganddo ddiddordeb mewn gwybod amdanom fel nyrsys sy’n fyfyrwyr a’r hyn sy’n bwysig i ni. Esboniais wrth Syr Mansel fy mod yn dwlu gweithio gyda’r henoed ac rwy’n hynod angerddol ynghylch darparu gofal a hyrwyddo annibyniaeth mewn cleifion â dementia. Dywedais wrtho, fel poblogaeth sy’n heneiddio, ei bod yn bwysig y dylai pobl gael ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia a sut y gall nid yn unig effeithio ar yr unigolyn ond ar aelodau o deulu’r unigolyn hefyd. Mae Palmer (2012) yn esbonio sut mae perthnasau yn aml wedi gofalu am eu hanwyliaid am flynyddoedd ac yn arbenigwyr ond gall fod yn straen seicolegol a chorfforol.

Yn y dyfodol rwy’n gwybod y byddwn yn bendant yn hoffi gwneud rhywbeth i helpu’r unigolion hynny â dementia. Er enghraifft, mae syniad sydd gennyf eisoes ar gyfer fy nhraethawd hir yn ymwneud â maethiad a dementia (sef yr hyn a ddewisais ar gyfer fy aseiniad PCAN). Rwyf wedi darllen sut mae gan gleifion â dementia gynnydd o 25% o ran y maeth maent yn ei gael pan fydd eu bwyd yn cael ei weini ar blât coch. Oherwydd bod cleifion â dementia yn aml yn amharod i fwyta am nifer o resymau. Rwy’n teimlo gyda’r ymchwil a’r amser priodol bod hwn yn rhywbeth y gallwn ei weithredu o fewn fy mwrdd iechyd lleol.

Cyfeiriadau

Barker, I. (2017) Association between continuity of care in general practice and hospital admissions for ambulatory care sensitive conditions: cross sectional study of routinely collected, person level data. British Medical Journal. http://www.bmj.com/content/356/bmj.j84

Palmer, J. (2012) Caregivers’ Desired Patterns of Communication with Nursing Home Staff—Just TALKKK! Journal of Gerontological Nursing. https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC3670746/

Sun X., Tang, W., Ye, T., Zhang, Y., Bo, W., Zhang, L (2014). Integrated care: a comprehensive bibliometric analysis and literature review. International Journal of Integrated Care. http://www.ijic.org/articles/10.5334/ijic.1437/

May 182017
 

Os ydych chi, fel finnau, yn ymddiddori mewn gwella ansawdd ym maes gofal iechyd, rydych fwy na thebyg mewn un o ddwy sefyllfa. Efallai eich bod eisoes yn rhan o rwydwaith o bobl o’r un meddylfryd, p’un a yw hynny ar ffurf rhwydwaith ffurfiol megis Rhwydwaith Lefel Aur Gwella Ansawdd gydan Gilydd neu’n rhwydwaith anffurfiol gyda chydweithwyr. Neu efallai bod gennych wir ddiddordeb mewn gwella ansawdd a bod gennych lawer o syniadau a phrofiad, ond eich bod yn teimlo’n ynysig heb wybod ble i fynd i gael cymorth, ysbrydoliaeth nac i rannu syniadau. Pa bynnag un o’r rhain sydd fwyaf cyfarwydd, gall fod yn addas i chi.

Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn rhan o garfan sefydlu Q. Yn ystod 2015, cydweithiodd 231 ohonom ledled y DU gyda’r Sefydliad Iechyd er mwyn helpu i gynllunio, mireinio a phrofi Q cyn dechrau recriwtio’n ehangach yn 2016. Mae’n deg dweud mai profiad diddorol oedd cyd-gynhyrchu rhywbeth gyda chymaint â hyn o bobl.  Roedd yn ddryslyd a hyd yn oed yn rhwystredig ar adegau.  Fodd bynnag, roedd bob amser yn ysgogi’r meddwl, gan fy ngalluogi i fod yn rhan o sawl sgwrs anhygoel ac yn bwysicach, roedd yn llawer o hwyl!

Bellach mae Q wedi symud i recriwtio’n ehangach, ac mae’n gyffrous gweld y gymuned yn tyfu ac yn datblygu, a bydd yn dda gweld cynnydd yn nifer y bobl o Gymru. Os ydych yn pwyso a mesur a yw Q yn addas i chi ac yn ansicr a yw’n werth gwneud cais i ymuno, dyma fy marn i. Gyda Q, byddwch yn cael yn ôl yr hyn y byddwch yn ei roi i mewn i’r gymuned. Mae’n broses ddwy ffordd, ac yn un y gallwch gymryd rhan ynddi ar ba bynnag lefel y dymunwch. Efallai eich bod yn cyflawni’r rhan fwyaf o weithgareddau Q wrth eich desg neu yn y gweithle, boed yn ddarllen neu’n ysgrifennu blogiau, siarad ag aelodau eraill o’r gymuned drwy’r Hap-dreialon Coffi, neu drwy ymuno ag un o’r sawl grŵp â diddordeb arbennig.  Neu ceir sawl cyfle i rwydweithio wyneb yn wyneb, a cheir digwyddiadau Q rhanbarthol a chenedlaethol, ymweliadau Q a labordai Q.

I mi yn bersonol, mae Q wedi rhoi’r cyfle i gwrdd â phobl na fyddwn i wedi cwrdd â nhw fel arall, gan gyfnewid syniadau a dysgu pethau newydd. Yng Nghymru, rydym yn eithaf datblygedig o gymharu ag ardaloedd eraill gan fod gennym rwydwaith Gwella Ansawdd gyda’n Gilydd a Rhwydwaith Aur eisoes.  Gyda Q, caiff eich rhwydwaith o fewn Cymru ei gryfhau a byddwch yn ymuno â chymuned sydd ar gael ledled y DU.  Y peth gorau a gefais yn sgil Q o bell ffordd oedd cwrdd â rhywun o GIG yr Alban mewn un o’r digwyddiadau rhwydweithio cenedlaethol sy’n gwneud yr un swydd â mi.  Mae ein timau yn gwneud yr un peth, wedi’u strwythuro’r un ffordd, ac yn wynebu’r un heriau.  Rydym bellach yn cael galwadau ffôn misol, yn trafod materion, yn datrys problemau gyda’n gilydd ac yn rhannu dogfennau, atebion a syniadau.  Cynhelir ein hymweliad cyfatebol cyntaf ym mis Gorffennaf.  Mae’r ffordd y mae fy nhîm a minnau yn gweithio wedi newid yn sylweddol, er gwell, yn sgil cwrdd â’r person hwn drwy Q.

Felly, a wyf yn credu y dylech ymuno â Q? Os ydych yn teimlo’n gryf ynglŷn â gwella ansawdd ym maes gofal iechyd, ac yn barod i fod yn aelod rhagweithiol o gymuned newydd gyffrous o bobl o’r un meddylfryd, yna dylech ymuno yn bendant!

Gwnewch gais ar-lein cyn 12 Mehefin yma. gwybodaeth bellach.

Mar 162017
 

Sera Llywelyn Davies, Prifysgol Bangor

Helo fy enw i ydy Sera, rwy’n fyfyrwraig nyrsio trydedd flwyddyn ym Mangor. Mae datganiad syml yn gwneud gwahaniaeth mawr i brofiadau cleifion o fewn gwasanaeth iechyd. O ran profiad, mae cyflwyno eich hun ac yn gyffredinol sgwrsio a chyfathrebu effeithiol gyda cleifion yn holl bwysig. Rydych yn magu rhyngweithio ac adeiladu perthynas rhwng y chi a’r claf gan sicrhau gwella ansawdd. Yn naturiol rydych yn dod i adnabod y claf,ble bydd hyn yn helpu i gynllunio gofal,annog i gyd weithio a gweithredu eu gofal.Wrth gyflwyno eich hunan i’r cleifion a’u teuluoedd maent yn teimlo’n werthfawr,ac yn galonogol drwy deimlo’n ddiogel.Credir fod cael eu gofalu drwy gyfrwng y Gymraeg yn holl bwysig, mae’r angerdd i rhoi gwasaneth dwy ieithog i gleifion yn bwysig.  Mae’n bwysig bod cleifion yn gallu mynegi eu hunain yn eu mamiaith.

Wrth adfyfyrio ar brofiad a ddigwyddodd imi, roeddwn ar leoliad clinigol ar ward llawfeddygol. Cefais ofalu am grŵp o gleifion, ble roedd cleifion yn derbyn gofal tuag at gofal cyn llawdriniaeth, ac ar ôl llawdriniaeth. Ar ddechrau dyletswydd,byddwn yn  mynd o gwmpas y cleifion gan eu cyfarch gyda gwen … “Bore da, ‘Helo fy enw i ydy Sera, rwy’n fyfyrwraig nyrsio, sut ‘ydych yn teimlo bore yma?”. Teimlais y cynhesrwydd rhwng y claf a mi pan roeddent yn siarad am eu hiechyd, eu bywyd ac yn sgwrsio yn gyffredinol am bywyd bob dydd.Canolbwyntiaf ar y diwrnod yma, yn y bae cefais glaf yn dod o adran adferiad ar ôl derbyn triniaeth ychydig oriau ynghynt. Mi roedd y claf dal o dan reolaeth at boen a teimlo’n anesmwyth o’r llawdriniaeth. Cyflwynais fy hunan ‘Helo fy enw i ydy Sera’ a croesawu’r claf i’r ward. Dywedodd y claf wrthai faint o ddiolchgar oeddo am gael sgwrs yn y Gymraeg. Fel rôl nyrs mae’n bwysig sicrhau gwerthoedd a credoau cleifion drwy gofal urddasol bob amser. Eglurais beth oedd yn mynd i ddigwydd o fewn yr oriau cyntaf er enghraifft angen cyflawni nifer o arsylwadau megis pwysau gwaed, pỳls, tymheredd, curiad resbiradol ac ati. Yn ail, eglurais wrth y claf iddo alw arnai os bydd ef angen rhywbeth. Ar ôl sicrhau bod y claf yn gartrefol ac yn fodlon, roeddwn wedi mynd at gweddill o’r cleifion. Wrth fynd allan o’r bae, roedd y claf wedi galw arnaf angen i gael meddyginiaeth tuag at boen. O’r sefyllfa yma,dangoswyd pa mor bwysig ac effeithiol yw dechrau sgwrs gyda’r frawddeg syml ‘Helo fy enw i ydy’. Dangosir fod pethau bychain yn gwneud gwahaniaeth mawr o fewn gofal mae’r cleifion yn eu derbyn.

Rhaid parhau i ymgyrchu ac annog eraill i ddechrau bob sgwrs gyda Helo fy enw i ydy. Yn ysbrydoledig a drwy brofiad, mi fydd hyn yn parhau imi drwy gydol fy ngyrfa fel Nyrs. Hoffwn i weld y datblygiad yma yn ehangu ac yn cael ei ddefnyddio ar draws y gwasanaeth iechyd.

Cofiwch,gyflwyno eich hunain bob amser a gwisgwch eich bathodyn adnabod #Helo fy enw i ydy…

Feb 032017
 

Kathryn Greaves, Arweinydd Prosiect Cenedlaethol yr Ymgyrch dros Feichiogrwydd Mwy Diogel

Byddaf wastad yn cofio’r fydwraig a’m tywysodd yn ofalus drwy fy meichiogrwydd, gan roi sylw i’r peryglon a’r anawsterau y byddwn yn eu hwynebu ar y daith.  Pan ddatblygais gyneclampsia yn ystod camau diweddarach fy meichiogrwydd tra roedd fy ngŵr (milwr ar y pryd) oddi cartref yn llenwi’r bylchau a grëwyd gan y streic ambiwlans yn 1990, byddaf wastad yn cofio’r gofal da a’r sylw a gefais gan fy noctoriaid ac yntau’n absennol.  Pan anwyd fy merch yn ddiogel ym mis Awst nid wyf yn credu fy mod wedi gwerthfawrogi pa mor lwcus oeddwn i o fod yn cydio yn fy merch fach iach.

Y dyddiau hyn rydym i gyd yn disgwyl rhoi genedigaeth i glamp o fabi mawr braf pan fyddwn yn feichiog.   Rydym yn byw mewn byd lle mae pobl yn cymryd yn ganiataol y bydd popeth yn iawn. Wrth gwrs, mamau a babanod iach a hapus yw’r rheswm pam rydym yn arbenigo mewn proffesiynau megis Bydwreigiaeth ac Obstetreg.  Rydym yn ymwybodol o’r peryglon, rydym yn ymwybodol o’r problemau sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd a geni plentyn, ac rydym i gyd yn gwybod mai ar ôl y digwyddiad yn unig y gellir dweud ei fod yn normal.

Mae beichiogrwydd a genedigaeth plentyn yn ddigwyddiadau ffisiolegol beunyddiol, ond y dyddiau hyn, pan nad yw pob un ohonom ar ein gorau o ran ein hiechyd corfforol a lles, nid pawb yn barod am dreialon beichiogrwydd.

Rydym i gyd yn ymdrechu i helpu menywod a’r gymuned ehangach i ddeall yr angen i baratoi ar gyfer beichiogrwydd cyn cenhedlu, ond yn poeni na fyddwn yn cyflawni hynny’n llwyr.  Y realiti yw bod menywod yn beichiogi gyda nifer o faterion iechyd a chymdeithasol y mae angen i ni eu cefnogi a’u rheoli gyda’n gilydd yn ystod beichiogrwydd.

Nid pob beichiogrwydd sy’n cyrraedd y cyfnod llawn.  Mae deall ac, yn bwysicach, cefnogi menywod i ddeall rhai o’r ffactorau a allai sicrhau beichiogrwydd iachach a mwy diogel yn allweddol wrth fynd i’r afael ag ymwybyddiaeth o ffactorau risg hysbys mewn perthynas â cholli ffetws.

Cyhoeddwyd nifer o ddogfennau gan Lywodraeth Cymru megis  Adroddiad Strategaeth Famolaeth Llywodraeth Cymru gan yr Is-grŵp Ansawdd a Diogelwch Mehefin 2013 a Rhwydwaith Mamolaeth i Gymru Gorffennaf 2013 yn nodi pwysigrwydd mynd i’r afael ag effeithiau lloriol colli babi.  Mae Rhwydwaith Mamolaeth Cymru wedi bod yn arwain ymateb ar y cyd i fynd i’r afael â’r materion hyn i sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol, y menywod a’u teuluoedd yn rhannu’r cyfrifoldeb.

Mae angen i ni weithio gyda menywod a’r gymuned ehangach i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â cholli babi a pham y gallai rhai o’r dewisiadau a wnawn fel menywod effeithio ar ganlyniad beichiogrwydd. Codi ymwybyddiaeth a chael sgyrsiau anodd â menywod yw’r unig ffordd y gallwn effeithio ar hyn a gobeithio y gallwn leihau nifer y babanod sy’n marw bob blwyddyn.  Rydym i gyd yn defnyddio’r pecyn GAP/GROW i fonitro twf babanod. Mae’n rhaid i ni fod yn onest â menywod ynglŷn â’u ffactorau iechyd personol a’u cefnogi i ddeall eu risgiau personol eu hunain.

Felly sut mae cyflawni hyn?

Mae’r Rhwydwaith Mamolaeth, mewn cydweithrediad â 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella yn lansio ymgyrch genedlaethol “Beichiogrwydd Mwy Diogel” ar 28 Mawrth 2017 i gyflwyno bwndel gofal, sy’n cynnwys adnoddau i fenywod a gweithwyr iechyd proffesiynol a fydd yn cyflawni’r hyn a ddywedir ary label, sef “codi ymwybyddiaeth” a sicrhau bod y dewisiadau a’r ffactorau iechyd sy’n dylanwadu ar feichiogrwydd mwy diogel yn hysbys i’r cyhoedd.

Mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod menywod a gweithwyr proffesiynol yn cael y llwyfan cywir i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar feichiogrwydd iach. Fel Arweinydd Prosiect Cenedlaethol yr ymgyrch dros Feichiogrwydd Mwy Diogel, mae gwaith a mewnbwn y Byrddau Iechyd a phartneriaid cefnogi wrth greu bwndel o ofal i’w rannu â’r gymuned ehangach yn destun balchder sylweddol i mi. Ac ar ôl dwy flynedd o waith ar y cyd rydym yn barod i rannu a chydweithio â’n teuluoedd fel partneriaid cyfartal wrth gymryd cyfrifoldeb am ddiogelu ein babanod.


Mae tudalen ymgyrch Beichiogrwydd Mwy Diogel yn cael ei lansio ar 28 Mawrth. Cysylltwch â Kathryn ar Kathryn.Greaves2@wales.nhs.uk

Os oes gennych unrhyw bryderon yn ystod eich beichiogrwydd siaradwch â’ch bydwraig ar unwaith. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r hyn y gallwch ei wneud yn ystod beichiogrwydd, darllenwch “Eich canllaw i feichiogrwydd a’ch baban”

Dolenni defnyddiol:

Nov 162016
 
Paul Myres, Programme Lead, Choosing Wisely Wales

Paul Myres, Dewis Doeth Cymru

Pan oeddwn yn fachgen, os oeddech yn sâl roeddech yn rhoi cynnig ar feddyginiaethau cartref yn gyntaf – ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn erchyll. Pan gefais annwyd ynghyd â pheswch a “snot” gwyrdd, rhoddodd y meddyg wrthfiotigau i mi. Wnes i ddim cwestiynu hynny.

Pan hyfforddais i fod yn feddyg cefais lawer o wybodaeth dechnegol a meithrin sgiliau diagnostig ardderchog gan ddysgu pa driniaeth oedd yn cyd-fynd â pha ddiagnosis.

Fel meddyg teulu roeddwn yn arfer gofyn i gleifion beth oedden nhw’n credu oedd yn bod arnynt. Roedd y rhan fwyaf yn ateb gan ddweud mai fi ddylai ddweud hynny wrthyn nhw ac yna rhagnodi’r bilsen gywir. Weithiau roeddwn yn dweud wrth gleifion am sgil-effeithiau ac weithiau roedden nhw’n gwrando, ond roedden nhw’n synnu’n aml pan fyddent yn dioddef y sgil-effeithiau hynny.

Roeddwn yn arfer penderfynu pa brofion oedd eu hangen ac roedd cleifion yn cadw’r apwyntiadau hynny fel arfer. Weithiau mae profion yn creu mwy o ansicrwydd nag o atebion.

Felly “y meddyg sy’n gwybod orau”.  Dwi ddim yn credu rhywsut. Ac nid yw Dewis Doeth Cymru‘n credu hynny ychwaith na sawl un arall.

Choosing Wisely Wales

Y clinigydd (nid dim ond y meddyg) yw’r arbenigwr ar ddiagnosis a gwybod pa brofion a thriniaethau all helpu. Y claf (neu’r unigolyn gyda’r broblem iechyd) yw’r arbenigwr ar ei gorff, ei fywyd a’i gymuned.

Gall y ddau gael gafael ar wybodaeth am iechyd, clefydau, profion a thriniaeth oddi ar y rhyngrwyd, drwy lyfrau a chylchgronau a chan ffrindiau. Mae gan y clinigydd yr arbenigedd wrth asesu pa mor dda neu berthnasol yw’r wybodaeth honno a’r claf sydd yn y sefyllfa orau i allu cymhwyso hynny i’w amgylchiadau ei hun ar yr amod ei fod yn deall y geiriau a’r negeseuon.

Beth pe bai clinigwyr a chleifion yn cael sgyrsiau mwy cyfartal yn fwy aml? Sgyrsiau sydd efallai’n fwy agored a gonest lle mae’r claf yn cael y cyfle i egluro sut mae’n teimlo, sut mae ei broblem yn effeithio ar ei fywyd, am beth mae’n poeni, yr hyn sy’n bwysig iddo a beth mae’n ei ddisgwyl neu’n gobeithio y bydd (neu na fydd) yn digwydd.

Mae’r clinigydd yn esbonio beth yw’r broblem debygol a’r hyn y mae tystiolaeth (ymchwil) yn ei awgrymu y dylid ei wneud. Mae hefyd yn egluro pa welliant i’w ddisgwyl ond hefyd beth yw’r risgiau a pha mor hawdd fydd hi i ddarparu’r gofal.

Mae’r claf yn gofyn am ragor o wybodaeth. Beth arall y gallem ei wneud? Pa niwed a allai ddigwydd? Pa mor debygol ydw i o wella? A fyddaf yn gallu gwneud beth sydd angen i mi ei wneud yr wythnos nesaf neu’r wythnos ar ôl hynny? Beth fydd yn digwydd os byddwn yn gwneud dim? Beth alla i ei wneud i helpu fy hun?

Ni fydd atebion pendant bob tro ac weithiau ni fydd digon o amser ond bydd y sgwrs hon yn helpu i sicrhau bod penderfyniadau ar y cyd yn dod yn fwy cyffredin. Mae’n golygu bod y claf a’r clinigydd yn cymryd cyfrifoldeb dros y dewisiadau a wneir gan werthfawrogi, er bod canlyniad da yn debygol, bod risg y gall rhywbeth nas bwriadwyd ddigwydd.

Gwyddom y gall llawer o driniaethau yn y GIG achosi niwed. Nid dyna’r bwriad, ond mae’n digwydd. Gwyddom pa fathau o driniaethau neu brofion sy’n fwy tebygol o achosi problemau newydd yn hytrach na datrys rhai cyfredol. Mae’n gwneud synnwyr osgoi’r rheini y rhan fwyaf o’r amser.

Mae Dewis Doeth Cymru yn rhan o fudiad rhyngwladol a arweinir gan glinigwyr mewn partneriaeth â chleifion. Ei nod yw newid neu ailgydbwyso’r sgyrsiau clinigol gan gydnabod bod y claf a’r clinigydd yn bartneriaid cyfartal sy’n cyfrannu gwybodaeth a sgiliau gwahanol er mwyn gwella llesiant un ohonynt.

Mae’n argymell bod cleifion yn dod yn fwy hyderus wrth ofyn pedwar cwestiwn am brofion a thriniaeth a awgrymir. Mae’n annog clinigwyr i esbonio’r opsiynau neu’r dewisiadau ar gyfer cleifion sy’n seiliedig ar dystiolaeth briodol, a rennir yn y sgwrs.

Mae Dewis Doeth Cymru yn awgrymu nifer o brofion a thriniaethau y dylid eu hosgoi fel arfer gan mai prin yw’r budd sy’n deillio ohonynt ond a allai fod o werth o bryd i’w gilydd. Mae’n awgrymu dewisiadau eraill i’w trafod ac yn cydnabod bod y dewis terfynol yn gorffwys gyda’r clinigydd a’r claf ar y cyd.


 

Dr Paul Myres yw arweinydd y rhaglen Dewis Doeth Cymru a Chadeirydd Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru. Mae hefyd yn feddyg teulu yn Wrecsam.

Lansiwyd Dewis Doeth Cymru ym mis Medi ac mae’n rhan o fudiad rhyngwladol. Caiff ei arwain yng Nghymru drwy bartneriaeth sy’n cynnwys Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru, Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  www.choosingwisely.wales.nhs.uk  neu dilynwch @ChoosingWiselyW ar Twitter, neu ei hoffi ar Facebook: ChoosingWiselyWales

Sep 132016
 

tdg-tronY tro cyntaf i mi weld neu glywed am Sepsis oedd ar dystysgrif marwolaeth. Tystysgrif marwolaeth fy mrawd oedd hi. Dw i’n cofio craffu dros fwrdd y cofrestrydd ar y gair bach wrth ymyl “prif achos marwolaeth”. Doedd yn golygu dim i mi.

Mark oedd…yw…fy mrawd. Roedd yn 41 oed, yn briod a chando ferch 3 oed. Roedd ganddo deulu a dyfodol.

Am hanner dydd, ddydd Mawrth 31 Mai 2012, cerddodd Mark i mewn i’r Uned Damweiniau ac Achosion Brys (Llundain) gyda phoenau yn ei stumog. Erbyn 17.15pm roedd wedi cael ataliad ar y galon. Erbyn 19.00 roedd ar beiriant anadlu gyda siawns o 50% y byddai’n goroesi. Erbyn 01.00 ddydd Gwener 1 Mehefin roedd ei arennau wedi methu, roedd ei siawns o oroesi wedi lleihau ac roedd ei deulu ar yr M4 ar ôl derbyn yr alwad ffôn nad oes neb ei heisiau. Drannoeth roedd ei galon yn rhy wan i gael dialysis. Rydym yn gwybod nawr ei fod mewn sioc sepsis. Methiant nifer o organau. Brwydrodd yn galed ar ei ddiwrnod olaf fel y gwnaeth holl staff yr Uned Therapi Dwys. Rhoddodd bawb bopeth o fewn eu gallu, ond sepsis a enillodd y dydd. Bu farw’n dawel amser cinio ddydd Sadwrn 2 Mehefin.

Doedden ni ddim yn credu sut roedd hyn wedi digwydd. Byg stumog oedd ganddo. Sut gallen ni fod wedi colli mab, brawd, gŵr, a Sophie ei thad? Wel, yr hyn rwy’n ei wybod nawr nad oeddwn i’n ei wybod ar y pryd yw ei fod yn gallu digwydd, a’i fod yn digwydd yn rhy aml o lawer. Yn wir mae’n digwydd 44,000 gwaith y flwyddyn yn y DU. 2,200 gwaith yng Nghymru. Roeddwn i’n meddwl ein bod ni’n un mewn miliwn. Ond doedden ni ddim.

Mae sepsis yn salwch sy’n cael ei ddisgrifio fel damwain car. Nid yw’n gwahaniaethu a gall effeithio ar unrhyw un. Mae’n lladd traean o’r bobl y mae’n eu cyffwrdd . Mae hynny’n fwy na chanser y fron, y coluddyn a’r prostad gyda’i gilydd. Mae’n syfrdanol yn tydi? A wyddoch chi beth arall sy’n syfrdanol? Os caiff ei ganfod yn gynnar, mae modd ei drin a’i atal.

Mae’n deg dweud bod sepsis wedi newid fy mywyd. Mae’n gwneud hynny i fywydau.

Ychydig ar ôl i Mark farw mi wnes i gwrdd â Ron Daniels o Ymddiriedolaeth Sepsis y Deyrnas Unedig a dechreuais godi ymwybyddiaeth yng Nghymru. Rwyf nawr yn Gyfarwyddwr Gweithredol Ymddiriedolaeth Sepsis yng Nghymru. Rwyf wedi cwrdd â Gweinidogion, wedi seiclo o Orllewin Cymru i San Steffan i godi arian, rwy’n siarad mewn ysgolion, mewn ysbytai, gyda phobl mewn siopau ac ar fysiau. Rydym wedi cynnwys Llywodraeth Cymru yn ein gwaith, ac mae grŵp hollbleidiol wedi ei sefydlu. Mae pobl yn gwrando.

Rydw innau’n gwrando hefyd;  ar oroeswyr a sut maen nhw wedi brwydro ar ôl sepsis, ac i’r rhai sydd wedi cael profedigaeth a sut maent hwythau hefyd yn brwydro.

Ymwybyddiaeth ac addysg yw popeth. Mae angen i bobl wybod beth yw sepsis a’r hyn y mae’n gallu ei wneud. Rydym angen cyrraedd pwynt ble mae’r cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol fel ei gilydd yn meddwl am sepsis ac yn ei adnabod. Mae angen iddyn nhw ei weld yn dod  oherwydd mae’n cuddio’n dda. Fel y dywedodd Mohamed Ali, “Ni all ei ddwylo daro’r hyn na all ei lygaid ei weld”. Yn eironig iawn, bu yntau farw o sepsis yn ddiweddar.

Rwyf wedi cael cymorth ar hyd y daith gan bobl hyfryd o fewn y maes gofal iechyd a’r tu allan iddo. Rwy’n aelod o grŵp llywio RRAILS. O ganlyniad, rwyf wedi gweld drosof fi fy hun y gwaith anhygoel o galed a wneir gan staff ymroddedig GIG Cymru  sydd wedi hymrwymo i wella ymarfer er mwyn gwella canlyniadau. Mae’r rhaglen yn gwneud gwaith da o ran ymdrechu i addysgu staff GIG Cymru ar sepsis. Rydym ni oll eisiau’r un peth.

Rydym hyd yn oed wedi ennill gwobr! Roedd yn wych bod Cynghrair Sepsis y Byd wedi cydnabod a gwobrwyo GIG Cymru am ei fentrau codi ymwybyddiaeth a’i fentrau addysgol.

Ond..

Ni allwn fforddio colli momentwm. Ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Dylem ddathlu’r hyn sydd wedi ei wneud hyd yma, ymfalchïo yn hynny ond hefyd parhau i herio a hyrwyddo yr hyn sydd angen ei wneud . I mi, mae’n rhaid cael ymdrech ar y cyd o’r Gymuned i’r Cabinet. Mae angen iaith gyffredin arnom ar gyfer cleifion ac ymarfer. Mae angen llwybr ar gleifion, llwybr Cymru Gyfan. Os byddwn yn siarad am sepsis yn yr un ffordd, gallwn feddwl am sepsis yn yr un ffordd. Mae’n dod â ni ynghyd ac fel y dywedwn yma yng Nghymru “gorau chwarae, cyd chwarae”.

Ydych chi eisiau bod yn rhan?

@TCTRON

terence@sepsistrust.org

https://www.justgiving.com/fundraising/cycle4sepsis16