Mar 162017
 

Sera Llywelyn Davies, Prifysgol Bangor

Helo fy enw i ydy Sera, rwy’n fyfyrwraig nyrsio trydedd flwyddyn ym Mangor. Mae datganiad syml yn gwneud gwahaniaeth mawr i brofiadau cleifion o fewn gwasanaeth iechyd. O ran profiad, mae cyflwyno eich hun ac yn gyffredinol sgwrsio a chyfathrebu effeithiol gyda cleifion yn holl bwysig. Rydych yn magu rhyngweithio ac adeiladu perthynas rhwng y chi a’r claf gan sicrhau gwella ansawdd. Yn naturiol rydych yn dod i adnabod y claf,ble bydd hyn yn helpu i gynllunio gofal,annog i gyd weithio a gweithredu eu gofal.Wrth gyflwyno eich hunan i’r cleifion a’u teuluoedd maent yn teimlo’n werthfawr,ac yn galonogol drwy deimlo’n ddiogel.Credir fod cael eu gofalu drwy gyfrwng y Gymraeg yn holl bwysig, mae’r angerdd i rhoi gwasaneth dwy ieithog i gleifion yn bwysig.  Mae’n bwysig bod cleifion yn gallu mynegi eu hunain yn eu mamiaith.

Wrth adfyfyrio ar brofiad a ddigwyddodd imi, roeddwn ar leoliad clinigol ar ward llawfeddygol. Cefais ofalu am grŵp o gleifion, ble roedd cleifion yn derbyn gofal tuag at gofal cyn llawdriniaeth, ac ar ôl llawdriniaeth. Ar ddechrau dyletswydd,byddwn yn  mynd o gwmpas y cleifion gan eu cyfarch gyda gwen … “Bore da, ‘Helo fy enw i ydy Sera, rwy’n fyfyrwraig nyrsio, sut ‘ydych yn teimlo bore yma?”. Teimlais y cynhesrwydd rhwng y claf a mi pan roeddent yn siarad am eu hiechyd, eu bywyd ac yn sgwrsio yn gyffredinol am bywyd bob dydd.Canolbwyntiaf ar y diwrnod yma, yn y bae cefais glaf yn dod o adran adferiad ar ôl derbyn triniaeth ychydig oriau ynghynt. Mi roedd y claf dal o dan reolaeth at boen a teimlo’n anesmwyth o’r llawdriniaeth. Cyflwynais fy hunan ‘Helo fy enw i ydy Sera’ a croesawu’r claf i’r ward. Dywedodd y claf wrthai faint o ddiolchgar oeddo am gael sgwrs yn y Gymraeg. Fel rôl nyrs mae’n bwysig sicrhau gwerthoedd a credoau cleifion drwy gofal urddasol bob amser. Eglurais beth oedd yn mynd i ddigwydd o fewn yr oriau cyntaf er enghraifft angen cyflawni nifer o arsylwadau megis pwysau gwaed, pỳls, tymheredd, curiad resbiradol ac ati. Yn ail, eglurais wrth y claf iddo alw arnai os bydd ef angen rhywbeth. Ar ôl sicrhau bod y claf yn gartrefol ac yn fodlon, roeddwn wedi mynd at gweddill o’r cleifion. Wrth fynd allan o’r bae, roedd y claf wedi galw arnaf angen i gael meddyginiaeth tuag at boen. O’r sefyllfa yma,dangoswyd pa mor bwysig ac effeithiol yw dechrau sgwrs gyda’r frawddeg syml ‘Helo fy enw i ydy’. Dangosir fod pethau bychain yn gwneud gwahaniaeth mawr o fewn gofal mae’r cleifion yn eu derbyn.

Rhaid parhau i ymgyrchu ac annog eraill i ddechrau bob sgwrs gyda Helo fy enw i ydy. Yn ysbrydoledig a drwy brofiad, mi fydd hyn yn parhau imi drwy gydol fy ngyrfa fel Nyrs. Hoffwn i weld y datblygiad yma yn ehangu ac yn cael ei ddefnyddio ar draws y gwasanaeth iechyd.

Cofiwch,gyflwyno eich hunain bob amser a gwisgwch eich bathodyn adnabod #Helo fy enw i ydy…

Feb 032017
 

Kathryn Greaves, Arweinydd Prosiect Cenedlaethol yr Ymgyrch dros Feichiogrwydd Mwy Diogel

Byddaf wastad yn cofio’r fydwraig a’m tywysodd yn ofalus drwy fy meichiogrwydd, gan roi sylw i’r peryglon a’r anawsterau y byddwn yn eu hwynebu ar y daith.  Pan ddatblygais gyneclampsia yn ystod camau diweddarach fy meichiogrwydd tra roedd fy ngŵr (milwr ar y pryd) oddi cartref yn llenwi’r bylchau a grëwyd gan y streic ambiwlans yn 1990, byddaf wastad yn cofio’r gofal da a’r sylw a gefais gan fy noctoriaid ac yntau’n absennol.  Pan anwyd fy merch yn ddiogel ym mis Awst nid wyf yn credu fy mod wedi gwerthfawrogi pa mor lwcus oeddwn i o fod yn cydio yn fy merch fach iach.

Y dyddiau hyn rydym i gyd yn disgwyl rhoi genedigaeth i glamp o fabi mawr braf pan fyddwn yn feichiog.   Rydym yn byw mewn byd lle mae pobl yn cymryd yn ganiataol y bydd popeth yn iawn. Wrth gwrs, mamau a babanod iach a hapus yw’r rheswm pam rydym yn arbenigo mewn proffesiynau megis Bydwreigiaeth ac Obstetreg.  Rydym yn ymwybodol o’r peryglon, rydym yn ymwybodol o’r problemau sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd a geni plentyn, ac rydym i gyd yn gwybod mai ar ôl y digwyddiad yn unig y gellir dweud ei fod yn normal.

Mae beichiogrwydd a genedigaeth plentyn yn ddigwyddiadau ffisiolegol beunyddiol, ond y dyddiau hyn, pan nad yw pob un ohonom ar ein gorau o ran ein hiechyd corfforol a lles, nid pawb yn barod am dreialon beichiogrwydd.

Rydym i gyd yn ymdrechu i helpu menywod a’r gymuned ehangach i ddeall yr angen i baratoi ar gyfer beichiogrwydd cyn cenhedlu, ond yn poeni na fyddwn yn cyflawni hynny’n llwyr.  Y realiti yw bod menywod yn beichiogi gyda nifer o faterion iechyd a chymdeithasol y mae angen i ni eu cefnogi a’u rheoli gyda’n gilydd yn ystod beichiogrwydd.

Nid pob beichiogrwydd sy’n cyrraedd y cyfnod llawn.  Mae deall ac, yn bwysicach, cefnogi menywod i ddeall rhai o’r ffactorau a allai sicrhau beichiogrwydd iachach a mwy diogel yn allweddol wrth fynd i’r afael ag ymwybyddiaeth o ffactorau risg hysbys mewn perthynas â cholli ffetws.

Cyhoeddwyd nifer o ddogfennau gan Lywodraeth Cymru megis  Adroddiad Strategaeth Famolaeth Llywodraeth Cymru gan yr Is-grŵp Ansawdd a Diogelwch Mehefin 2013 a Rhwydwaith Mamolaeth i Gymru Gorffennaf 2013 yn nodi pwysigrwydd mynd i’r afael ag effeithiau lloriol colli babi.  Mae Rhwydwaith Mamolaeth Cymru wedi bod yn arwain ymateb ar y cyd i fynd i’r afael â’r materion hyn i sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol, y menywod a’u teuluoedd yn rhannu’r cyfrifoldeb.

Mae angen i ni weithio gyda menywod a’r gymuned ehangach i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â cholli babi a pham y gallai rhai o’r dewisiadau a wnawn fel menywod effeithio ar ganlyniad beichiogrwydd. Codi ymwybyddiaeth a chael sgyrsiau anodd â menywod yw’r unig ffordd y gallwn effeithio ar hyn a gobeithio y gallwn leihau nifer y babanod sy’n marw bob blwyddyn.  Rydym i gyd yn defnyddio’r pecyn GAP/GROW i fonitro twf babanod. Mae’n rhaid i ni fod yn onest â menywod ynglŷn â’u ffactorau iechyd personol a’u cefnogi i ddeall eu risgiau personol eu hunain.

Felly sut mae cyflawni hyn?

Mae’r Rhwydwaith Mamolaeth, mewn cydweithrediad â 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella yn lansio ymgyrch genedlaethol “Beichiogrwydd Mwy Diogel” ar 28 Mawrth 2017 i gyflwyno bwndel gofal, sy’n cynnwys adnoddau i fenywod a gweithwyr iechyd proffesiynol a fydd yn cyflawni’r hyn a ddywedir ary label, sef “codi ymwybyddiaeth” a sicrhau bod y dewisiadau a’r ffactorau iechyd sy’n dylanwadu ar feichiogrwydd mwy diogel yn hysbys i’r cyhoedd.

Mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod menywod a gweithwyr proffesiynol yn cael y llwyfan cywir i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar feichiogrwydd iach. Fel Arweinydd Prosiect Cenedlaethol yr ymgyrch dros Feichiogrwydd Mwy Diogel, mae gwaith a mewnbwn y Byrddau Iechyd a phartneriaid cefnogi wrth greu bwndel o ofal i’w rannu â’r gymuned ehangach yn destun balchder sylweddol i mi. Ac ar ôl dwy flynedd o waith ar y cyd rydym yn barod i rannu a chydweithio â’n teuluoedd fel partneriaid cyfartal wrth gymryd cyfrifoldeb am ddiogelu ein babanod.


Mae tudalen ymgyrch Beichiogrwydd Mwy Diogel yn cael ei lansio ar 28 Mawrth. Cysylltwch â Kathryn ar Kathryn.Greaves2@wales.nhs.uk

Os oes gennych unrhyw bryderon yn ystod eich beichiogrwydd siaradwch â’ch bydwraig ar unwaith. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r hyn y gallwch ei wneud yn ystod beichiogrwydd, darllenwch “Eich canllaw i feichiogrwydd a’ch baban”

Dolenni defnyddiol:

Nov 162016
 
Paul Myres, Programme Lead, Choosing Wisely Wales

Paul Myres, Dewis Doeth Cymru

Pan oeddwn yn fachgen, os oeddech yn sâl roeddech yn rhoi cynnig ar feddyginiaethau cartref yn gyntaf – ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn erchyll. Pan gefais annwyd ynghyd â pheswch a “snot” gwyrdd, rhoddodd y meddyg wrthfiotigau i mi. Wnes i ddim cwestiynu hynny.

Pan hyfforddais i fod yn feddyg cefais lawer o wybodaeth dechnegol a meithrin sgiliau diagnostig ardderchog gan ddysgu pa driniaeth oedd yn cyd-fynd â pha ddiagnosis.

Fel meddyg teulu roeddwn yn arfer gofyn i gleifion beth oedden nhw’n credu oedd yn bod arnynt. Roedd y rhan fwyaf yn ateb gan ddweud mai fi ddylai ddweud hynny wrthyn nhw ac yna rhagnodi’r bilsen gywir. Weithiau roeddwn yn dweud wrth gleifion am sgil-effeithiau ac weithiau roedden nhw’n gwrando, ond roedden nhw’n synnu’n aml pan fyddent yn dioddef y sgil-effeithiau hynny.

Roeddwn yn arfer penderfynu pa brofion oedd eu hangen ac roedd cleifion yn cadw’r apwyntiadau hynny fel arfer. Weithiau mae profion yn creu mwy o ansicrwydd nag o atebion.

Felly “y meddyg sy’n gwybod orau”.  Dwi ddim yn credu rhywsut. Ac nid yw Dewis Doeth Cymru‘n credu hynny ychwaith na sawl un arall.

Choosing Wisely Wales

Y clinigydd (nid dim ond y meddyg) yw’r arbenigwr ar ddiagnosis a gwybod pa brofion a thriniaethau all helpu. Y claf (neu’r unigolyn gyda’r broblem iechyd) yw’r arbenigwr ar ei gorff, ei fywyd a’i gymuned.

Gall y ddau gael gafael ar wybodaeth am iechyd, clefydau, profion a thriniaeth oddi ar y rhyngrwyd, drwy lyfrau a chylchgronau a chan ffrindiau. Mae gan y clinigydd yr arbenigedd wrth asesu pa mor dda neu berthnasol yw’r wybodaeth honno a’r claf sydd yn y sefyllfa orau i allu cymhwyso hynny i’w amgylchiadau ei hun ar yr amod ei fod yn deall y geiriau a’r negeseuon.

Beth pe bai clinigwyr a chleifion yn cael sgyrsiau mwy cyfartal yn fwy aml? Sgyrsiau sydd efallai’n fwy agored a gonest lle mae’r claf yn cael y cyfle i egluro sut mae’n teimlo, sut mae ei broblem yn effeithio ar ei fywyd, am beth mae’n poeni, yr hyn sy’n bwysig iddo a beth mae’n ei ddisgwyl neu’n gobeithio y bydd (neu na fydd) yn digwydd.

Mae’r clinigydd yn esbonio beth yw’r broblem debygol a’r hyn y mae tystiolaeth (ymchwil) yn ei awgrymu y dylid ei wneud. Mae hefyd yn egluro pa welliant i’w ddisgwyl ond hefyd beth yw’r risgiau a pha mor hawdd fydd hi i ddarparu’r gofal.

Mae’r claf yn gofyn am ragor o wybodaeth. Beth arall y gallem ei wneud? Pa niwed a allai ddigwydd? Pa mor debygol ydw i o wella? A fyddaf yn gallu gwneud beth sydd angen i mi ei wneud yr wythnos nesaf neu’r wythnos ar ôl hynny? Beth fydd yn digwydd os byddwn yn gwneud dim? Beth alla i ei wneud i helpu fy hun?

Ni fydd atebion pendant bob tro ac weithiau ni fydd digon o amser ond bydd y sgwrs hon yn helpu i sicrhau bod penderfyniadau ar y cyd yn dod yn fwy cyffredin. Mae’n golygu bod y claf a’r clinigydd yn cymryd cyfrifoldeb dros y dewisiadau a wneir gan werthfawrogi, er bod canlyniad da yn debygol, bod risg y gall rhywbeth nas bwriadwyd ddigwydd.

Gwyddom y gall llawer o driniaethau yn y GIG achosi niwed. Nid dyna’r bwriad, ond mae’n digwydd. Gwyddom pa fathau o driniaethau neu brofion sy’n fwy tebygol o achosi problemau newydd yn hytrach na datrys rhai cyfredol. Mae’n gwneud synnwyr osgoi’r rheini y rhan fwyaf o’r amser.

Mae Dewis Doeth Cymru yn rhan o fudiad rhyngwladol a arweinir gan glinigwyr mewn partneriaeth â chleifion. Ei nod yw newid neu ailgydbwyso’r sgyrsiau clinigol gan gydnabod bod y claf a’r clinigydd yn bartneriaid cyfartal sy’n cyfrannu gwybodaeth a sgiliau gwahanol er mwyn gwella llesiant un ohonynt.

Mae’n argymell bod cleifion yn dod yn fwy hyderus wrth ofyn pedwar cwestiwn am brofion a thriniaeth a awgrymir. Mae’n annog clinigwyr i esbonio’r opsiynau neu’r dewisiadau ar gyfer cleifion sy’n seiliedig ar dystiolaeth briodol, a rennir yn y sgwrs.

Mae Dewis Doeth Cymru yn awgrymu nifer o brofion a thriniaethau y dylid eu hosgoi fel arfer gan mai prin yw’r budd sy’n deillio ohonynt ond a allai fod o werth o bryd i’w gilydd. Mae’n awgrymu dewisiadau eraill i’w trafod ac yn cydnabod bod y dewis terfynol yn gorffwys gyda’r clinigydd a’r claf ar y cyd.


 

Dr Paul Myres yw arweinydd y rhaglen Dewis Doeth Cymru a Chadeirydd Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru. Mae hefyd yn feddyg teulu yn Wrecsam.

Lansiwyd Dewis Doeth Cymru ym mis Medi ac mae’n rhan o fudiad rhyngwladol. Caiff ei arwain yng Nghymru drwy bartneriaeth sy’n cynnwys Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru, Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  www.choosingwisely.wales.nhs.uk  neu dilynwch @ChoosingWiselyW ar Twitter, neu ei hoffi ar Facebook: ChoosingWiselyWales

Sep 132016
 

tdg-tronY tro cyntaf i mi weld neu glywed am Sepsis oedd ar dystysgrif marwolaeth. Tystysgrif marwolaeth fy mrawd oedd hi. Dw i’n cofio craffu dros fwrdd y cofrestrydd ar y gair bach wrth ymyl “prif achos marwolaeth”. Doedd yn golygu dim i mi.

Mark oedd…yw…fy mrawd. Roedd yn 41 oed, yn briod a chando ferch 3 oed. Roedd ganddo deulu a dyfodol.

Am hanner dydd, ddydd Mawrth 31 Mai 2012, cerddodd Mark i mewn i’r Uned Damweiniau ac Achosion Brys (Llundain) gyda phoenau yn ei stumog. Erbyn 17.15pm roedd wedi cael ataliad ar y galon. Erbyn 19.00 roedd ar beiriant anadlu gyda siawns o 50% y byddai’n goroesi. Erbyn 01.00 ddydd Gwener 1 Mehefin roedd ei arennau wedi methu, roedd ei siawns o oroesi wedi lleihau ac roedd ei deulu ar yr M4 ar ôl derbyn yr alwad ffôn nad oes neb ei heisiau. Drannoeth roedd ei galon yn rhy wan i gael dialysis. Rydym yn gwybod nawr ei fod mewn sioc sepsis. Methiant nifer o organau. Brwydrodd yn galed ar ei ddiwrnod olaf fel y gwnaeth holl staff yr Uned Therapi Dwys. Rhoddodd bawb bopeth o fewn eu gallu, ond sepsis a enillodd y dydd. Bu farw’n dawel amser cinio ddydd Sadwrn 2 Mehefin.

Doedden ni ddim yn credu sut roedd hyn wedi digwydd. Byg stumog oedd ganddo. Sut gallen ni fod wedi colli mab, brawd, gŵr, a Sophie ei thad? Wel, yr hyn rwy’n ei wybod nawr nad oeddwn i’n ei wybod ar y pryd yw ei fod yn gallu digwydd, a’i fod yn digwydd yn rhy aml o lawer. Yn wir mae’n digwydd 44,000 gwaith y flwyddyn yn y DU. 2,200 gwaith yng Nghymru. Roeddwn i’n meddwl ein bod ni’n un mewn miliwn. Ond doedden ni ddim.

Mae sepsis yn salwch sy’n cael ei ddisgrifio fel damwain car. Nid yw’n gwahaniaethu a gall effeithio ar unrhyw un. Mae’n lladd traean o’r bobl y mae’n eu cyffwrdd . Mae hynny’n fwy na chanser y fron, y coluddyn a’r prostad gyda’i gilydd. Mae’n syfrdanol yn tydi? A wyddoch chi beth arall sy’n syfrdanol? Os caiff ei ganfod yn gynnar, mae modd ei drin a’i atal.

Mae’n deg dweud bod sepsis wedi newid fy mywyd. Mae’n gwneud hynny i fywydau.

Ychydig ar ôl i Mark farw mi wnes i gwrdd â Ron Daniels o Ymddiriedolaeth Sepsis y Deyrnas Unedig a dechreuais godi ymwybyddiaeth yng Nghymru. Rwyf nawr yn Gyfarwyddwr Gweithredol Ymddiriedolaeth Sepsis yng Nghymru. Rwyf wedi cwrdd â Gweinidogion, wedi seiclo o Orllewin Cymru i San Steffan i godi arian, rwy’n siarad mewn ysgolion, mewn ysbytai, gyda phobl mewn siopau ac ar fysiau. Rydym wedi cynnwys Llywodraeth Cymru yn ein gwaith, ac mae grŵp hollbleidiol wedi ei sefydlu. Mae pobl yn gwrando.

Rydw innau’n gwrando hefyd;  ar oroeswyr a sut maen nhw wedi brwydro ar ôl sepsis, ac i’r rhai sydd wedi cael profedigaeth a sut maent hwythau hefyd yn brwydro.

Ymwybyddiaeth ac addysg yw popeth. Mae angen i bobl wybod beth yw sepsis a’r hyn y mae’n gallu ei wneud. Rydym angen cyrraedd pwynt ble mae’r cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol fel ei gilydd yn meddwl am sepsis ac yn ei adnabod. Mae angen iddyn nhw ei weld yn dod  oherwydd mae’n cuddio’n dda. Fel y dywedodd Mohamed Ali, “Ni all ei ddwylo daro’r hyn na all ei lygaid ei weld”. Yn eironig iawn, bu yntau farw o sepsis yn ddiweddar.

Rwyf wedi cael cymorth ar hyd y daith gan bobl hyfryd o fewn y maes gofal iechyd a’r tu allan iddo. Rwy’n aelod o grŵp llywio RRAILS. O ganlyniad, rwyf wedi gweld drosof fi fy hun y gwaith anhygoel o galed a wneir gan staff ymroddedig GIG Cymru  sydd wedi hymrwymo i wella ymarfer er mwyn gwella canlyniadau. Mae’r rhaglen yn gwneud gwaith da o ran ymdrechu i addysgu staff GIG Cymru ar sepsis. Rydym ni oll eisiau’r un peth.

Rydym hyd yn oed wedi ennill gwobr! Roedd yn wych bod Cynghrair Sepsis y Byd wedi cydnabod a gwobrwyo GIG Cymru am ei fentrau codi ymwybyddiaeth a’i fentrau addysgol.

Ond..

Ni allwn fforddio colli momentwm. Ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Dylem ddathlu’r hyn sydd wedi ei wneud hyd yma, ymfalchïo yn hynny ond hefyd parhau i herio a hyrwyddo yr hyn sydd angen ei wneud . I mi, mae’n rhaid cael ymdrech ar y cyd o’r Gymuned i’r Cabinet. Mae angen iaith gyffredin arnom ar gyfer cleifion ac ymarfer. Mae angen llwybr ar gleifion, llwybr Cymru Gyfan. Os byddwn yn siarad am sepsis yn yr un ffordd, gallwn feddwl am sepsis yn yr un ffordd. Mae’n dod â ni ynghyd ac fel y dywedwn yma yng Nghymru “gorau chwarae, cyd chwarae”.

Ydych chi eisiau bod yn rhan?

@TCTRON

terence@sepsistrust.org

https://www.justgiving.com/fundraising/cycle4sepsis16

Aug 022016
 
Amanda Wilkinson, nursing student at Bangor Univeristy

Amanda Wilkinson, nursing student at Bangor Univeristy

Roeddwn mor falch o gael y cyfle i fynychu’r Gynhadledd Diogelwch Cleifion. Rwyf wedi bod yn awyddus i gymryd rhan a chael gwybod mwy am 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella ac roedd hwn yn gyfle i dreulio amser gydag aelodau o’r tîm a dysgu oddi wrth weithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob cwr o’r byd a fyddai’n bresennol yn y gynhadledd. Roedd yn wych cwrdd â chyd-fyfyriwr nyrsio Bianca Jourdain o Brifysgol Abertawe.

O’r cychwyn cefais fy ngrymuso gan Dr Suzette Woodward, cyfarwyddwr ‘Sign up to Safety‘, a oedd yn rhoi pwys ar falchder mewn diogelwch cleifion ac yn cydnabod y dylai staff gael gofal pan oeddent yn gysylltiedig â digwyddiadau. Siaradodd Dr Woodward am dosturi, ymddiriedaeth a sgyrsiau dynol sy’n cysylltu â’r hanfodion gofal rwy’n dysgu amdanynt yn ystod fy mlwyddyn gyntaf fel myfyriwr nyrsio oedolion. Y geiriau a atseiniodd gyda mi fwyaf yw:

 “Dysgwch gymaint ag y bo modd a pheidiwch byth â barnu”

Esboniodd Dr Claire Gordon, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Aciwt yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Lothian sut mae cynllunio’n bwysig o ran gofal cleifion gyda chyfraniad gan y claf a’r tîm amlddisgyblaethol. Dylid defnyddio cynlluniau clir waeth pa mor fach ydynt, fel ‘heddiw Mrs Jones y cynllun yw i chi gerdded deg cam’. Soniwyd am y defnydd o gynllunio a ‘dangosyddion arweiniol’ hefyd gan yr Athro Maxine Power, Cyfarwyddwr Haelo, a oedd hefyd yn rhoi pwysau mawr ar gyfathrebu gyda’r tîm cyfan wrth gynllunio gwelliant. “Mae angen i staff fod yn ymwybodol o’r hyn y maent yn ei fesur a pham”. Mae cael adborth yn golygu bod y staff yn gallu gweld bod y broses yn werth chweil a pharhau i fesur. Aeth Always Events® â hyn gam ymhellach ac awgrymodd y dylai’r broses o gynllunio gwelliannau gynnwys cleifion, teuluoedd, gofalwyr a staff.

Rhoddwyd sylw amlwg i dechnoleg yn y Gynhadledd. Roedd llawer o gwmnïau’n cynnig cyfleusterau cofnodi electronig ar gyfer arsylwi cleifion a oedd yn cyfeirio cleifion yn awtomatig at feddyg gan gynnig awgrymiadau, nodiadau atgoffa a chyfleuster rheoli tasgau. Roedd Datix hefyd yn bresennol, gan ddangos eu dull cofnodi digwyddiadau i Bianca a minnau. Yna cawsom y sgôr uchaf ond un ar y cwis, gan ddod yn ail i’w rheolwr – buddugoliaeth arall i ni ac aethom adref gyda @thedatixbear yn wobr.

Myfyrwyr Amanda a Bianca â’r ‘Datix Bear’

Daeth themâu cryf o ymddiriedaeth a gwaith tîm i’r amlwg yn y trafodaethau yn ystod y ddau ddiwrnod ac ystyriwyd eu bod yn hyrwyddo amgylchedd agored a dewrder i staff adrodd am ddigwyddiadau heb boeni am gael eu beio, a dysgu o’r digwyddiadau hynny. Er bod ymchwilio i dechnoleg ar gyfer casglu a dadansoddi data yn agwedd fawr ar y Gynhadledd; roedd yn amlwg i mi bod y diwylliant o fewn y timau yn hollbwysig er mwyn cyflawni hyn. Rhoddwyd pwys mawr ar yr angen am gymhwysedd a barn: peidio â gorddibynnu ar restrau gwirio a rhifau – weithiau dyw claf ‘jest ddim yn iawn’ ac ni ddylem ofni gweithredu ar hyn.

Nid diogelwch cleifion oedd yr unig wers i mi ei dysgu – llwyddais i feistroli’r defnydd o chopsticks pan aethom i China Town am swper!

Roeddwn yn drist pan ddaeth y Gynhadledd i ben ond cefais fy atgoffa gan Dave Hill, Rheolwr Gwella Gwasanaethau 1000 o Fywydau, mai dim ond dechrau fy nhaith yw hyn. Mae’r profiad hwn wedi cynyddu fy mrwdfrydedd a’m hymrwymiad i wella ansawdd fel rhan o’m gyrfa nyrsio. Diolch yn fawr 1000 o Fywydau am wneud hyn yn bosibl ac am wneud i Bianca a minnau deimlo’n rhan o’r tîm.

Treuliwch funud yn edrych ar y fideo arweinyddiaeth ysbrydoledig a ddangoswyd gan Advancing Quality Alliance:https://www.ted.com/talks/drew_dudley_everyday_leadership#t-315150

Aug 022016
 
Bianca Jourdain, nursing student at Swansea University

Bianca Jourdain, myfyrwyr nyrsio yn Prifysgol Abertawe

Pan benderfynais gystadlu yn y gystadleuaeth ‘Diwrnod ym mywyd claf’, roeddwn yn ei weld fel cyfle i godi ymwybyddiaeth o nyrsio pediatrig a rhoi’r hyn y gwnaethom ei ddysgu yn y brifysgol ar waith, sef rhoi eich hun yn esgidiau eich cleifion. Fodd bynnag, mae ennill wedi fy ngalluogi i ddysgu cymaint mwy na hyn. Fel un o enillwyr y gystadleuaeth cefais gyfle i fynd i’r Gynhadledd Diogelwch Cleifion ym Manceinion. Gyda thros 2,000 o weithwyr iechyd proffesiynol o gefndiroedd clinigol ac anghlinigol yn bresennol, roedd yno amrywiaeth eang o wybodaeth a phrofiad drwy gydol y ddau ddiwrnod.

Awgrymodd Dr Suzette Woodward, un o’r siaradwyr agoriadol ar y diwrnod cyntaf, y dylem ni fel gweithwyr iechyd proffesiynol “ddysgu sut i wneud y swydd wrth wneud y swydd” wrth drafod addysg a diogelwch cleifion. Roedd hyn yn amlwg drwy gydol y Gynhadledd ac roedd y stondinau a’r siaradwyr yn pwysleisio’r ffaith ein bod yn ceisio gwella gwasanaethau gofal iechyd ac ymyriadau meddygol presennol yn hytrach na’u disodli. Roedd nifer o themâu nodedig gan gynnwys y defnydd o dechnoleg i hyrwyddo ymarfer cyfredol a’r angen i fabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar y teulu a dull cyfannol, gan weithio gyda chleifion, ac nid ar eu cyfer i ddarparu’r gofal gorau posibl.

Roedd ochr ryngweithiol y Gynhadledd yn seiliedig ar y cyfryngau cymdeithasol drwy Twitter gan ganiatáu i gynadleddwyr fel fi weld beth oedd yn digwydd ar draws y Gynhadledd, ond hefyd i chwarae rhan weithredol ynddi. Ar ben hynny, roedd y defnydd o Sli.do, gwasanaeth ar y rhyngrwyd nad oeddwn wedi’i ddefnyddio o’r blaen, yn caniatáu i mi ymgysylltu’n  uniongyrchol â phob siaradwr drwy arolygon barn a chwestiynau.

Yn ystod y ddau ddiwrnod, roedd tair sesiwn benodol sy’n aros yn y cof: Cathy Sheehan, Arweinydd Clinigol ar Amddiffyn Plant yn GIG Lloegr a amlinellodd ‘Ddull integredig ar gyfer diogelu plant’; Dr Daniel Cohen a Dr Stephen Webb yn ‘Ymchwilio i ddigwyddiadau niweidiol oherwydd oedi mewn diagnosis a ‘Cronfa cyffuriau canser: Y trefniant newydd’ gan Fforwm NICE.

Roedd cyfleoedd datblygu personol yn y Gynhadledd hefyd. Gofynnais gwestiwn o flaen yr hyn a oedd yn teimlo fel cannoedd o bobl (gan ddefnyddio meicroffon) a sgwrsio â’r siaradwyr ar ôl eu cyflwyniadau am y pynciau yr oeddent wedi’u trafod. Roedd yn gyfle gwych i gwrdd â chynadleddwyr a gweithwyr proffesiynol eraill o bob cwr o’r DU, gan ddysgu am eu meysydd, eu diddordebau a’u cefndiroedd.

Nid y Gynhadledd oedd yr unig ganlyniad cadarnhaol yn sgil y gystadleuaeth. Cefais gyfle i grwydro o amgylch dinas hardd brysur nad oeddwn wedi’i gweld o’r blaen (byddwn yn argymell ymweld â’r Llyfrgell John Rylands yn arbennig). Cefais hefyd gyfle i gwrdd ag Amanda, myfyriwr nyrsio oedolion o Brifysgol Bangor a oedd yn rhannu’r un brwdfrydedd dros ein proffesiwn, ac wrth gwrs tîm 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella, a wnaeth i ni deimlo’n gartrefol ac yn rhan o bethau drwy gydol y gynhadledd.

Un o uchafbwynt ychwanegol y Gynhadledd oedd ennill y cwis diogelwch cleifion Datix gydag Amanda (a chael tedis yn wobrau!). Fe wnes i fwynhau pob munud o’r profiad hwn ac ni fyddwn wedi dod i gysylltiad â’r maes gwella ansawdd a diogelwch cleifion i’r fath raddau nac wedi gallu cael cymaint o wybodaeth amdano ag sydd gennyf yn awr heb 1000 o Fywydau, ac rwy’n ddiolchgar iawn am hynny… Diolch yn fawr!!.

 

Jul 072016
 

Dr Gethin Pugh, Ysgol Anaestheteg Cymru

Beth yw Gwella Ansawdd?Welsh Anaesth seminar

Mae Gwella Ansawdd (GA), neu Wyddor Gwella, yn defnyddio dull systematig o gynllunio newidiadau mewn gofal iechyd a’u rhoi ar waith.  Mae gwybodaeth am y fethodoleg GA yn hanfodol wrth ystyried gwelliannau i’r amgylchedd gofal iechyd cymhleth modern.  Mae GA hefyd yn cael ei gynnwys fel rhan o nifer o gwricwla hyfforddiant ôl-raddedig.

Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd AoMRC ei adroddiad: Quality Improvement – training for better outcomes, sy’n nodi argymhellion ar gyfer addysg a hyfforddiant gwella ansawdd.  Mae’r adroddiad wedi dwyn ynghyd amrywiaeth eang o sefydliadau i gysoni ymdrechion i gynnwys hyfforddiant gwella ansawdd fel cymhwysedd craidd mewn ymarfer clinigol modern, o’r cwricwla israddedig i’r cwricwla arbenigol a thu hwnt i hynny i Ymgynghorwyr.

Mae’r adroddiad yn fan cychwyn ar gyfer datblygu yn y dyfodol a’i nod yw darparu fframwaith strwythuredig i ymgorffori methodoleg gwella fel cymhwysedd craidd ar gyfer pob meddyg.

Cydnabyddir bod rhwystrau sylweddol o hyd, gyda diffyg cydraddoldeb o ran mynediad i hyfforddiant ac adnoddau GA ar draws sefydliadau ac arbenigeddau.  I lawer o uwch feddygon ac aelodau eraill o’r tîm amlbroffesiynol, mae’r cysyniad o GA yn parhau i fod yn syniad newydd.

Mae natur gylchdro hyfforddiant meddygol yn golygu bod meddygon dan hyfforddiant, sy’n gweithio mewn timau amlbroffesiynol, mewn sefyllfa dda i rannu meysydd o arfer da a chefnogi datblygiad GA.

Hyfforddiant GA mewn Anaestheteg a Meddygaeth Gofal Dwys yng Nghymru

Mae Ysgol Anaestheteg Cymru, drwy weithio mewn partneriaeth â 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella, wedi datblygu rhaglen hyfforddi GA ar gyfer meddygon dan hyfforddiant a hyfforddwyr, i ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel mewn egwyddorion GA a mynediad i adnoddau hyfforddi GA i gefnogi arloesedd a rhagoriaeth mewn gofal iechyd.

Nod y rhaglen hon yw darparu hyfforddiant GA o ansawdd uchel drwy ddefnyddio gweithdai rhyngweithiol ar gyfer hyfforddeion a chefnogi datblygu rhwydweithiau GA o hyfforddwyr a hyfforddeion ar draws Cymru.  Ar ben hynny, y gobaith yw, fel rhan o’r rhaglen, y bydd mynediad i brosiectau GA o ansawdd uchel yn gwella a bydd unigolion yn cael cefnogaeth dda wrth ddatblygu eu prosiectau eu hunain.  Mae’r rhaglen yn cynnwys y cyrsiau a amlinellir isod:

Gwella Ansawdd mewn Anaestheteg – Gweithdy Rhyngweithiol Deuddydd i Hyfforddeion Arbenigol

Mae Ysgol Anaestheteg Cymru, drwy weithio mewn partneriaeth â Thîm 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella, yn cynnig gweithdy rhyngweithiol ar gyfer hyfforddeion mewn Anaestheteg a Meddygaeth Gofal Dwys yng Nghymru.

Mae’r cwrs yn cynnig y cyfle i ddysgu oddi wrth arbenigwyr mewn gwella ansawdd, sydd â phrofiad o brosiectau GA llwyddiannus, i hybu eich gwybodaeth a’ch sgiliau eich hun yn y maes hwn.

Caiff ymgeiswyr gyfle i ddatblygu eu prosiect GA eu hunain fel rhan o’r gweithdy, gan weithio mewn grwpiau bach i gael arweiniad ymarferol drwy brofiad uniongyrchol.  Drwy fynychu’r ddau ddiwrnod a chyflwyno prosiect a gwblhawyd yn  llwyddiannus cewch Achrediad IQT Lefel Arian.

Adborth gan y rhai a fynychodd y gweithdy diwethaf yn 2015/2016:

‘Cyfadran gredadwy sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol’

‘Mae wedi tanio fy mrwdfrydedd i wneud gwaith GA’

‘Mae’n wych ail-fframio a symud ymlaen o waith archwilio, arddull rhyngweithiol dda’

Cwblhawyd Achrediad Lefel Efydd drwy becyn e-ddysgu cyn mynychu’r gweithdy 2 ddiwrnod.

Fel rhan o’r rhaglen hon, cynhelir Gweithdy Hyfforddi GA arall ar gyfer hyfforddeion arbenigol mewn anaestheteg yr hydref hwn.  Bydd y dyddiadau’n cael eu cadarnhau cyn bo hir ac yn cael eu cyhoeddi ar wefan Ysgol Anaestheteg Cymru.

Gwella Ansawdd mewn Anaestheteg:  Cyflwyniad i Hyfforddwyr (Cwrs Undydd)

Mae’r cwrs rhagarweiniol undydd hwn ar gyfer hyfforddwyr yn canolbwyntio ar egwyddorion Gwella Ansawdd.

Mae’r cwrs yn rhoi cyfle i hyfforddwyr mewn Anaestheteg yng Nghymru adeiladu ar eu gwybodaeth o GA a’i rôl fel rhan o hyfforddiant mewn Anaestheteg a Meddygaeth Gofal Dwys.

Mae’r cwrs yn galluogi hyfforddwyr i feithrin dealltwriaeth o’r fethodoleg a’r fframwaith sy’n sail i GA a’i rôl mewn gwella gofal iechyd.  Bydd cyfranogwyr hefyd yn cael mynediad at gysylltiadau â phrofiad yn y maes hwn a fydd yn gallu rhoi cymorth pellach ar gyfer mentrau GA yn lleol.

Meysydd i’w datblygu yn y dyfodol:

Fel rhan o ddatblygiad parhaus y rhaglen addysgol i gefnogi Hyfforddiant GA yng Nghymru, bydd nifer o gyfleoedd newydd i hyfforddwyr a hyfforddeion yr hydref hwn:

  • Diwrnod Astudio i Oruchwylwry Addysg gan Ysgol Anaestheteg Cymru, Hydref 2016

Bydd y gweithdy yn darparu rhywfaint o gefndir i’r Hyfforddiant GA presennol ac yn rhoi’r cyfle i hyfforddwyr yng Nghymru feithrin dealltwriaeth o fethodoleg a fframwaith y maes hwn o hyfforddiant ôl-raddedig sy’n datblygu, fel rhan o weithdy rhyngweithiol.

Bydd Cyfarfod Hydref Cymdeithas Anesthetyddion Cymru ym mis Hydref 2016 hefyd yn cynnwys cyflwyniad ar Hyfforddiant GA mewn Anaestheteg yng Nghymru gan aelod o’r rhaglen datblygu GA, Dr. Katy Beard.

  • Gweithio mewn partneriaeth ag Ysgolion Arbenigol eraill i gefnogi Hyfforddiant GA yng Nghymru

Ar hyn o bryd, mae aelodau o’r tîm datblygu rhaglenni yn gweithio gydag Ysgol Meddygaeth Frys Cymru Gyfan i ddatblygu rhaglen hyfforddi GA ar gyfer hyfforddeion Arbenigol mewn Meddygaeth Frys.  Mae hyn yn cynnwys cefnogi hyfforddwyr i ddatblygu rhwydwaith hyfforddiant GA yn ogystal â mapio meysydd hyfforddi yn erbyn gofynion cwricwla ôlraddedig.

May 202016
 
Stephanie Morris, Student Nurse at Bangor University

Stephanie Morris

Fel myfyriwr nyrsio ar leoliad clinigol, roeddwn yn bresennol pan ddatgelodd defnyddiwr gwasanaeth i’r nyrs a oedd yn ei dderbyn i’r ysbyty ei fod yn ddigartref. Roedd yn wael ei iechyd o ganlyniad i yfed gormod o alcohol. Yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty gofynnodd y defnyddiwr gwasanaeth droeon am gymorth gyda thai, fodd bynnag, ni chafodd ei atgyfeirio ac ni wnaed unrhyw alwadau i’r Awdurdod Tai Lleol neu’r Sector Gwirfoddol yn gofyn am gyngor. Cafodd anghenion meddygol y defnyddiwr gwasanaeth eu diwallu yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty, fodd bynnag, cafodd ei ryddhau i wynebu bywyd ar y strydoedd gan fod y staff yn ystyried ei fod yn feddygol iach. Gwnaeth hyn i mi deimlo’n drist iawn ac felly penderfynais edrych ar y broses o ryddhau defnyddwyr gwasanaethau digartref. Roedd y dystiolaeth yn y llenyddiaeth yn nodi bod rhyddhau pobl i fyw ar y strydoedd yn beth cyffredin ac yn aml yn deillio o ddiffyg gwybodaeth y nyrsys am y broses ryddhau ar gyfer y grŵp hwn, ac roedd hynny’n help i mi ddeall pam y gallai staff fod wedi gwneud y penderfyniad hwn.

Fel ysgrifennydd Cymdeithas Myfyrwyr Prifysgol Bangor, rwyf wedi bod yn rhan o brosiectau gwella ansawdd ac mae’r wybodaeth hon wedi fy helpu i ddechrau meddwl am ffyrdd y gellid gwella

Bwrdd Arddangos Hybu Iechyd yn y Ganolfan Iechyd

Bwrdd Arddangos Hybu Iechyd yn y Ganolfan Iechyd

gwasanaethau ar gyfer y digartref. Dechreuais ystyried meysydd ar gyfer gwella a chanfod y gallai hybu iechyd fod yn ddull o godi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd yn ogystal â gwella agweddau tuag at y grŵp bregus hwn. Ers hynny rwyf wedi cynnal gweithgareddau hybu iechyd mewn canolfan iechyd leol drwy ddylunio ac arddangos bwrdd posteri iechyd i’r digartref i godi ymwybyddiaeth ac addysgu’r staff am ddigartrefedd. Rwy’n defnyddio Twitter yn gyson a phenderfynais ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel llwyfan i rannu tystiolaeth, cyfnodolion, newyddion a diweddariadau ar fy mhrosiect. Mae hyn wedi bod yn fuddiol o ran codi proffil fy mhrosiect a chysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymgymryd â gwaith i wella canlyniadau ar gyfer y digartref.

Mae gennyf ddiddordeb brwd mewn ymchwil ac roeddwn yn awyddus i gasglu gwybodaeth am ddigartrefedd a oedd yn cynnwys barn unigolion digartref eu hunain i sicrhau bod gan fy mhrosiect sylfaen dystiolaeth gref. Cysylltais â chanolfan galw heibio leol i’r digartref gyda’r syniad o gynnal sesiynau celf ar gyfer eu defnyddwyr gwasanaethau digartrefedd er mwyn darparu gwasanaeth therapiwtig a chael gwybodaeth i gefnogi fy mhrosiect. Roedd rheolwyr y ganolfan yn gefnogol iawn ac yn teimlo’n gyffrous gan fy mhrosiect ac roeddent yn awyddus i ganiatáu i mi ymgymryd â’r gwaith hwn. Rwyf nawr yn cynnal sesiynau therapi celf wythnosol i annog defnyddwyr gwasanaethau i fynegi eu hunain yn greadigol a rhannu eu profiadau bywyd a’u straeon yn ystod y sesiynau. Rwy’n defnyddio’r sesiynau celf fel dull o gasglu data i ganfod eu profiadau fel cleifion, ac rwy’n cael cyfoeth o wybodaeth yr wyf yn bwriadu ei defnyddio i wella’r gwasanaethau iechyd i unigolion digartref. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn llwyddiant ac yn ddiweddar cafodd ei ariannu gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sy’n fy helpu i ddatblygu a defnyddio’r wybodaeth rwy’n ei chael ar gyfer mentrau gwella ansawdd.

Ni allwn byth fod wedi dychmygu cymaint y gallai’r digwyddiad yn ystod fy lleoliad fod wedi dylanwadu arnaf a’m taith gwella ansawdd. Mae’r sesiynau celf rwy’n eu cynnal wedi dysgu cymaint i

Cyflwyno fy ngwaith yng Nghynhadledd Staff/Myfyrwyr Prifysgol Bangor, 2015

Cyflwyno fy ngwaith yng Nghynhadledd Staff/Myfyrwyr Prifysgol Bangor, 2015

mi am ddigartrefedd ac rwy’n gallu ymgysylltu â’r grŵp yr wyf mor awyddus i’w helpu. Mae syniad bach a gefais yn ystod fy mlwyddyn gyntaf o nyrsio bellach wedi datblygu’n brosiect llawer mwy lle rwy’n teimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth i wasanaethau i’r digartref. Rwy’n teimlo fy mod wedi cael fy ngrymuso ac yn falch o ba mor bell rwyf wedi dod ac rwy’n teimlo’n gyffrous ynglŷn â datblygiad y prosiect hwn yn y dyfodol. Rwy’n gobeithio am ddyfodol mwy disglair a chanlyniadau iechyd gwell ar gyfer y grŵp bregus hwn y mae angen cymorth arno’n ddybryd.

Dilynwch fy mhrosiect Health4Homeless prosiect ar Twitter: @HHMatters

Apr 302016
 
myfyriwr radiograffeg ym Mhrifysgol Bangor

Catrin Pink, myfyriwr
radiograffeg ym Mhrifysgol Bangor

Roedd y daith o Ganolbarth Cymru i Gothenburg yn un hir a blinedig, ond roedd gwybod bod 3 diwrnod cyffrous o’m blaen yn fy nghadw i fynd.

Roedd y neuadd dan ei sang ar gyfer sesiwn lawn agoriadol y Fforwm gyda Dr Don Berwick. Roedd hwn yn gyflwyniad gwych i wella ansawdd drwy “The Red Bead Game” a ddangosodd waeth pa mor galed rydych yn ceisio ysgogi staff i wella, ni fydd dim yn newid oni bai bod gwelliannau’n cael eu gwneud i’r system y maent yn gweithio ynddi. Roedd yr araith yn ddiddorol iawn ac erbyn y diwedd roeddwn yn teimlo bod gennyf well dealltwriaeth o’r wyddor y tu ôl i wella ansawdd, gan fy mharatoi ar gyfer gweddill y gynhadledd.

Un o’r sesiynau mwyaf diddorol a fynychais oedd yr un ar Gêmeiddio (Gamification) – cymhwyso ysgogwyr a syniadau o gemau fideo i sefyllfaoedd go iawn. Derbynnir yn gyffredinol bod gwahanol ddulliau dysgu sy’n addas ar gyfer gwahanol bobl, ond amlygodd y sesiwn hon bwysigrwydd y gwahanol ffyrdd o ennyn diddordeb ac ysgogi pobl.

Mae rhai unigolion yn cael eu hysgogi gan y nod terfynol, megis yr ymdeimlad o gyflawniad yn sgil cyrraedd eu nod neu’r wobr a gânt; mae eraill yn cael eu hysgogi gan y sgiliau y maent yn eu dysgu ar hyd y ffordd neu’r ffrindiau a wnânt. Yn ystod y sesiwn roedd yn rhaid i ni ymrannu’n grwpiau yn ôl yr hyn sy’n ein hysgogi a dod o hyd i atebion i rai problemau gofal iechyd a fyddai’n apelio atom. Roedd yn wych clywed meddyliau a syniadau unigolion o broffesiynau iechyd gwahanol gyda nodau tebyg i mi, ac yna cael y cyfle i weithio gyda’n gilydd i ddatrys y broblem. Fe wnes i hyd yn oed gymryd y meicroffon a rhoi adborth i weddill y grŵp, a oedd yn brofiad brawychus gan fod cymaint o bobl yno!

Clywais gymaint o ddyfyniadau ysbrydoledig a oedd yn ysgogi’r meddwl gan siaradwyr gwahanol drwy gydol y gynhadledd, nes ei bod hi’n anodd cofnodi’r holl syniadau da a’r gwahanol safbwyntiau mewn rhai sesiynau. Un neges benodol a arhosodd yn y cof oedd: “Os na allwn drin ein hunain yn dda, sut gallwn ni drin ein cleifion yn dda?” oherwydd roedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyfathrebu da a gofal rhwng aelodau o staff fel sylfaen ar gyfer gwella ansawdd.

Cynhaliodd Meddygon yn Hyrwyddo Diogelwch Cleifion (DAPS) sesiwn wedi’i hanelu at fyfyrwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ifanc gan egluro ei bod yn haws i staff sydd newydd gymhwyso neu sydd ar fin cymhwyso feddwl y tu allan i’r bocs oherwydd “dydyn nhw ddim hyd yn oed yn y bocs eto”. Mae’n bwysig cofio bod syniadau pawb ar gyfer gwella yn ddilys, beth bynnag eu statws neu’u rôl. Mae DAPS hefyd yn cynnal ysgol haf ar ddiogelwch cleifion i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ifanc, ac mi fyddaf yn bendant yn edrych i mewn i hyn!

Yn ogystal â’r holl sgyrsiau a chyflwyniadau diddorol, aeth Ashley, Ellie a minnau ati i gymharu astudiaethau gwella ansawdd yn ein tri chwrs iechyd gwahanol, a hyd yn oed llwyddo i gael cyfle i grwydro o amgylch y ddinas. Pe bawn yn cael y cyfle i fynychu’r Fforwm eto, byddwn yn neidio ato heb feddwl ddwywaith.

Apr 292016
 
Ellie Whittaker

Ellie Whittaker

Am brofiad! Rwy’n teimlo mor freintiedig o fod wedi cael y cyfle i fynd i’r Fforwm Rhyngwladol ar Ansawdd a Diogelwch mewn Gofal Iechyd yn Gothenburg eleni. Roedd y siaradwyr, y sesiynau, yr adeilad a’r lleoliad yn berffaith i mi gael fy nghipolwg cyntaf ar wella ansawdd.

Cafodd pob un o’r 3300 o gynadleddwyr eu cyflwyno i’r Model Gwella yn yr araith agoriadol, a gyflwynwyd gan Dr Donald Berwick, siaradwr diddorol ac ysbrydoledig iawn!

Bob dydd, cawsom ein cyflwyno i ffyrdd newydd ac arloesol y mae pobl ledled y byd wedi bod yn gweithio arnynt er mwyn gwella ansawdd eu system gofal iechyd. Yn Copenhagen maent yn annog cleifion â salwch meddwl i gymryd rhan yn eu gofal eu hunain. Maent yn gofyn i’r cleifion; ‘Beth mae urddas yn ei olygu i chi?’ gan wella gofal sy’n canolbwyntio ar y claf a lleihau’r technegau ataliaeth a ddefnyddir.

Ym Malawi, roeddent wedi creu ap symudol i Gynorthwywyr Arolygu Iechyd ei ddefnyddio i fonitro iechyd babanod newydd-anedig yn y gymuned, yn hytrach na’u cadw yn yr ysbyty. Roedd yr ap hwn eisoes yn dechrau lleihau cyfraddau marwolaeth ymysg babanod. Roeddwn wedi fy syfrdanu y gallai gwlad sy’n datblygu fod mor flaengar a rhoddodd ysbrydoliaeth i mi ddechrau fy mhrosiect fy hun.

Ar ôl gwrando ar y siaradwyr, mynychais y sesiynau i fyfyrwyr a gweithwyr iau, gan gwrdd â phobl broffesiynol iau o Awstralia, Copenhagen a Sweden. Roeddwn yn ffodus o dreulio’r noson gyda dau fyfyriwr o Awstralia a Manceinion, gan rannu syniadau a meddyliau am y gofal iechyd yn ein gwledydd gwahanol.

Ellie 2Ellie 1 Ellie 3

Gyda’r nos cawsom hefyd gyfle i grwydro o amgylch dinas Gothenburg. Ar ôl croesi nifer o lonydd beicio, llwybrau cerdded a llinellau tram, daethom o hyd i’r harbwr a lleoedd hyfryd i fwyta.

Ar y diwrnod olaf clywsom gan Maureen Bisognano a wnaeth ein grymuso i ofyn i’n cleifion ‘Beth sy’n bwysig i chi?’ sy’n gwestiwn byr hawdd sy’n caniatáu i ni ddarparu mwy o ofal personol penodol i’r rhai rydym yn darparu gofal iddynt. Ac o’r sesiwn lawn olaf, dysgais y bydd gweithio amlbroffesiwn, mewn tîm sy’n cynnwys nifer o genedlaethau a meddylfryd holistaidd yn ein galluogi i wella ansawdd y gofal a ddarparwn i gleifion.

Diolch yn fawr 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella am brofiad anhygoel!