May 292019
 

My name is Christine Welburn, I am the thromboprophylaxis clinical nurse specialist (CNS) at Ysbyty Glan Clwyd (YGC). When I started my job in August 2017 along with my clinical lead Mr Hanna, I identified the issue of poor compliance in completing the thromboprophylaxis risk assessment. The initial audit showed that we was only 34% compliant, I discussed this with the Quality Improvement manager Mel Baker who encouraged me to complete the Silver IQT training which would equipped me with the knowledge and skills of using different methods in order to get engagement and change practice.

I enrolled on the Silver IQT training and decided to do my project on increasing compliance in completing the thromboprophylaxis risk assessment. I decided to get engagement from front line staff and drive the improvement by completing weekly thromboprophylaxis walk around.  The walk around team consists of myself (CNS), Mr Hanna (Clinical Lead) and Haimon (Lead pharmacist), this team has a lead from each discipline we wanted to be engaged in changing practice. Every week we walk around the wards (initially targeting the acute admission wards and now including in-patient wards) and randomly select 5 – 10 case notes on each ward to audit and review.  We assess if the thromboprophylaxis risk assessment has been completed (and if it is correct), if the VTE box on the drug card is completed and if the prescription is correct. We also assess if mechanical and chemical thromboprophylaxis is prescribed, given, contraindicated and any missed doses.  This gives us the opportunity to give on the spot feedback and education to all the clinical staff involved, correct any prescription errors that we find and give lessons learnt and advice in the clinical area.

After ten months of the walk around intervention our compliance had increased to 84% and after eighteen months of the intervention the acute admission wards achieved 100%.  This project was spread across site with Ysbyty Wrexham Maelor achieving the same results within six months of adopting YGC finial walk around procedure.  We adapted the walk around audit technique after several PDSA cycles until we was happy we was capturing the relevant information and feedback technique.  This quality improvement project has led Ysbyty Glan Clwyd becoming an exemplar site for VTE prevention, winning the first place award for harm free care in the BCU quality improvement and research conference and a becoming a finalist in the upcoming HSJ national award for acute service redesign award.

Prior to learning about quality improvement, I recognised what needed to change in practice but not necessarily the best way to implement the change.  After completing the Silver IQT training at YGC, it equipped me with the knowledge and skills on how to assess and implement change using different methods in order to get the desired outcome. I would advise anyone who is looking to do a quality improvement project to complete the IQT training and complete a project on their idea, as often a small change in practice can have a big impact on our patients safety.

May 292019
 

Fy enw i yw Christine Welburn ac rydw i’n nyrs glinigol arbenigol thromboproffylacsis yn Ysbyty Glan Clwyd. Pan ddechreuais y swydd ym mis Awst 2017, ar y cyd â Mr Hanna, yr arweinydd clinigol, nodais fod cydymffurfiaeth wael o ran cwblhau’r asesiad risg thromboproffylacsis. Dangosodd yr archwiliad cychwynnol mai 34% yn unig o asesiadau risg oedd yn cael eu cwblhau. Trafodais y sefyllfa gyda Mel Barker, y Rheolwr Gwella Ansawdd, a anogodd fi i fynychu hyfforddiant Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd (Arian), a fyddai’n fy arfogi gyda’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ddefnyddio dulliau gwahanol er mwyn sicrhau ymgysyllted ac i newid arferion.

Cofrestrais ar gyfer yr hyfforddiant Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd (Arian), a phenderfynais wneud prosiect ar wella cydymffurfiaeth o ran cwblhau asesiadau risg thromboproffylacsis. Penderfynais ymgysylltu ag aelodau staff rheng flaen a gyrru’r gwelliant trwy gwblhau taith gerdded thromboproffylacsis wythnosol o amgylch yr ysbyty. Mae tîm y daith gerdded yn cynnwys fi (Nyrs Glinigol Arbenigol), Mr Hanna (Arweinydd Clinigol) a Mr Haimon (Fferyllydd Arweiniol), sef arweinydd o bob maes sydd angen ymgysylltu â hwy er mwyn newid arferion. Bob wythnos, rydym yn cerdded o amgylch y wardiau (gan dargedu’r wardiau derbyn aciwt i gychwyn, ond bellach yn cynnwys wardiau cleifion mewnol) ac yn dewis 5-10 o nodiadau achos ar hap ar bob ward er mwyn eu harchwilio a’u hadolygu. Rydym yn asesu a yw’r asesiad risg thromboproffylacsis wedi cael ei lenwi (ac a yw’n gywir), a yw’r blwch thromboemboledd gwythiennol ar y cerdyn cyffuriau wedi’i lenwi ac a yw’r presgripsiwn yn gywir. Yn ogystal, rydym yn asesu a yw thromboproffylacsis mecanyddol a chemegol wedi cael ei ragnodi, ei weinyddu, ei wrthgymeradwyo ac a yw’r claf wedi methu unrhyw ddosau. Mae hynny’n rhoi cyfle i ni ddarparu adborth uniongyrchol i bob aelod staff clinigol perthnasol, cywiro unrhyw gamgymeriadau rhagnodi a rhannu gwersi a chyngor yn yr ardal glinigol.

Ar ôl deg mis o gynnal taith gerdded wythnosol, cynyddodd ein cydymffurfiaeth i 84% ac, ar ôl deunaw mis o ymyrraeth, cydymffurfiodd y wardiau derbyn aciwt 100%. Lledaenwyd y prosiect ledled y safle a chyflawnodd Ysbyty Maelor Wrecsam yr un canlyniad o fewn chwe mis o fabwysiadu gweithdrefn Ysbyty Glan Clwyd. Addaswyd ein techneg archwilio ar ôl nifer o gylchdroeon PDSA tan ein bod yn hapus gyda’r dechneg adborth ac ein bod yn casglu gwybodaeth berthnasol. Mae’r prosiect gwella ansawdd hwn wedi sicrhau bod Ysbyty Glan Clwyd yn safle blaenllaw o ran atal thromboemboledd gwythiennol, gan ennill y brif wobr ym maes gofal heb niwed yng Nghynhadledd Ymchwil a Gwella Ansawdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chyrraedd rownd derfynol Gwobr Genedlaethol HSJ (Ail-ddylunio Gwasanaeth Aciwt).

Cyn dysgu am wella ansawdd, roeddwn yn gallu adnabod beth oedd angen newid o ran arferion, ond ddim o reidrwydd y ffordd orau o weithredu’r newid. Ar ôl cwblhau hyfforddiant Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd (Arian) yn Ysbyty Glan Clwyd, cefais fy arfogi gan y wybodaeth a’r sgiliau i asesu a gweithredu newid, gan ddefnyddio dulliau gwahanol er mwyn cyflawni’r deilliant delfrydol.  Byddem yn cynghori unrhyw un sy’n chwilio am brosiect gwella ansawdd i gwblhau hyfforddiant Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd ac i gwblhau prosiect ar ei syniad, oherwydd, yn aml, gall newid bach ymarferol gael effaith pellgyrhaeddol ar ddiogelwch cleifion.

Apr 092019
 

In March over 3350 attendees from 70 different countries got together at the International Quality Forum 2019 in Glasgow to learn and share knowledge on improving the quality and safety of care for patients across the world. We catch up with Dr John Boulton, Interim Director of NHS Quality Improvement and Patient Safety, 1000 Lives Improvement to find out what his key reflections were from the event.

What were the team doing at the event this year? 

The Quality Forum is an important event for us as it provides an opportunity for us to interact with a large number of improvement experts from all over the world under the one roof. As a team we’ve attended for a number of years and always take away really valuable learning that we can bring back to Wales.

This year the 1000 Lives team had a good presence at the event. We jointly hosted a pre-day session with colleagues from Scotland, Brazil, Australia, England on designing and managing large scale collaborative quality based improvement projects, where the Welsh OBS Cymru team spoke about their experience of measurement for improvement.

Joanna Doyle, All Wales Nurse Staffing Programme Manager delivered a poster presentation on the Nurse Staffing Levels (Wales) Act and we also made some great connections on our stand where we were introducing delegates to the concept of using Lego® Serious Play® to create models of leadership.

Personally, I was delighted to host two extremely full sessions discussing leadership for improvement (utilising Lego) with Dr Sara Long, Clinical Fellow, Aneurin Bevan Continuous Improvement. In addition I co-led a plenary session on learning from failure with Dr Barbara Grey, Director of Quality Improvement and SLaM Partners, South London and Maudsley NHS Foundation Trust. We addressed identifying failure early on, what to do next, working creatively with the messiness of change and also explored the psychology of failure in QI.

It was a privilege to be there with colleagues from PHW and HEIW as part of the wider NHS Wales team.

What were your main reflections from the event? There was a vast amount of great work that was showcased at the forum that we could usefully learn from in Wales. However, we should also be increasingly taking the opportunity to learn from programmes that are less successful. At the conference Wales was well represented and I think we should be proud of the excellent work that is taking place within the country

And what will you take away from the Forum?

That improvement science in healthcare is perhaps more important than ever. This has spurred us on even more to finalise and share our framework for improvement and our plan for how we are going to work with health and social care to support them to deliver improvements for Wales. It’s going to be a significant year for improvement in Wales and we look forward to working with our many partners together on this.

 

Apr 092019
 

Ym mis Mawrth, daeth 3350 o fynycheion o 70 o wledydd gwahanol at ei gilydd yn Fforwm Ansawdd Rhyngwladol 2019 yng Nglasgow, i ddysgu a rhannu gwybodaeth am wella ansawdd a diogelwch gofal ar gyfer cleifion ledled y byd. Rydym ni wedi bod yn siarad â Dr John Boulton, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG, 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella, i ddarganfod beth oedd ei fyfyrdodau allweddol am y  digwyddiad.

Beth oedd y tîm yn ei wneud yn y digwyddiad eleni?

Mae’r Fforwm Ansawdd yn ddigwyddiad pwysig i ni gan ei fod yn rhoi cyfle i ni ryngweithio â nifer fawr o arbenigwyr gwella o bob cwr o’r byd, o dan un to. Fel tîm, rydym ni wedi mynychu’r digwyddiad ers nifer o flynyddoedd, a bob amser yn dysgu pethau gwerthfawr iawn y gallwn ni ddod nôl gyda ni i Gymru.

Eleni, roedd gan dîm 1000 o Fywydau bresenoldeb da yn y digwyddiad. Cynhaliom sesiwn ymlaen llaw ar y cyd â chydweithwyr o’r Alban, Brasil, Awstralia, a Lloegr, ar ddylunio a rheoli prosiectau gwella cydweithredol, ar sail ansawdd, ar raddfa fawr, lle siaradodd tîm OBS Cymru am eu profiad o fesur er gwella.

Cyflwynodd Joanna Doyle, Rheolwr Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan, gyflwyniad poster ar Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru), a llwyddom i wneud cysylltiadau gwych ar ein stondin, lle buom yn cyflwyno cynrychiolwyr i’r cysyniad o ddefnyddio Lego® Serious Play® i greu modelau arweinyddiaeth.

Yn bersonol, roeddwn wrth fy modd yn cael cynnal dwy sesiwn lawn iawn, yn trafod arweinyddiaeth er gwella (gan ddefnyddio Lego) gyda Dr Sara Long, Cymrawd Clinigol, Gwelliant Parhaus Aneurin Bevan. Hefyd, arweiniais sesiwn lawn ar y cyd, ar ddysgu yn sgil methu, gyda Dr Barbara Grey, Cyfarwyddwr Gwella Ansawdd, a SLaM Partners, South London and Maudsley NHS Foundation Trust. Fe aethom i’r afael ag amlygu methiant yn gynnar, beth i’w wneud nesaf, gweithio’n greadigol ag aflerwch newid, ac archwilio seicoleg methiant wrth wella ansawdd.

Roedd yn fraint cael bod yno gyda chydweithwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Addysg a wella Iechyd Cymru, fel rhan o dîm ehangach GIG Cymru.

Beth oedd eich prif fyfyrdodau am y digwyddiad?

Roedd llawer iawn o waith gwych yn cael ei arddangos yn y fforwm, y gallem ni ddysgu oddi wrtho yng Nghymru. Fodd bynnag, dylem ni hefyd fod yn achub ar y cyfle yn gynyddol i ddysgu o raglenni sy’n llai llwyddiannus. Yn y gynhadledd, roedd cynrychiolaeth dda o Gymru, a chredaf y dylem ni fod yn falch iawn o’r gwaith gwych a gyflawnir yn y wlad.

Beth ddysgoch chi o’r Fforwm?

Efallai bod gwyddor gwella ym maes gofal iechyd yn bwysicach nag erioed. Mae hyn wedi ein hysgogi ni hyd yn oed yn fwy i orffen a rhannu ein fframwaith gwella, a’n cynllun ar gyfer sut i weithio gydag iechyd a gofal cymdeithasol i’w cefnogi nhw i gyflwyno gwelliannau yng Nghymru. Bydd yn flwyddyn arwyddocaol ar gyfer gwella yng Nghymru, ac rydym ni’n edrych ymlaen at gydweithio â’n partneriaid niferus ar hyn.

 

 

Jul 312018
 

Amy Howells

During my work placement with the 1000 Lives Improvement team, I have enjoyed a variety of sessions in different areas in the department and have learned about the ways that the team improve outcomes for NHS Wales service users.

My learning around IQT…

A particular highlight for me was discussing IQT training with Keely McCarthy (Improvement Manager) and being able to complete the Bronze level IQT later on that day. I learned about the different levels of IQT training that can be carried out by NHS staff. I felt that the way the levels are taught by enhancing lateral thinking, would greatly improve confidence and teamwork. Using evidence-based practice by collecting data before, during and after small changes were made to departments, helps massively with implementing a change on a larger scale, if successful, and making adjustments if necessary. The most important thing I learned was that any member of NHS staff could take part and implement changes to make improvements to patients and staff-wellbeing. It is great that all staff members can be involved in improving quality, rather than this solely happening at a senior level.

The All Wales Nurse Staffing Programme…

I thoroughly enjoyed my time at the Prince of Wales hospital, where I was able to watch Dawn Parry (Paediatric Project Lead of the All Wales Nurse Staffing Programme) talk to paediatric nurses, doctors and healthcare assistants about patient acuity and the All Wales Nurse Staffing Programme. I was unaware of patient acuity levels (grading patients 1 to 5 based on the level of care needed and the time it takes to provide this care) before spending the morning with Dawn. The importance of correctly grading patients to ensure safe levels of Nursing staff on wards was emphasised in the presentation, and I found the interactive nature of these sessions really interesting and informative. I also spent the day at Singleton Hospital watching Joanna Doyle (All Wales Nurse Staffing Programme Manager) run a Nurse Staffing information day. Different bands of healthcare professionals and other areas of the health board attended this staffing day, and it was extremely interesting to listen to how the All Wales Nurse Staffing Act currently runs in adult acute medical and surgical inpatient divisions.

During the week, I also had some insight into different programmes relating to antimicrobial resistance and healthcare associated infections, which I found very interesting. In meetings with Helen Ronchetti (HCAI Programme Manager) and Paul Gimson (National Primary Care Programme Manager) I learned about the initiatives in community care and within hospitals that aim to reduce the number of healthcare associated infections, and subsequently antimicrobial resistance. Actions including limiting the time that invasive devices such as catheters and cannulas are used for, reducing the over-prescription of medications, including antibiotics, and increasing hydration in the elderly to reduce UTI instances all aim to reduce infections within healthcare. It was interesting to see how these small changes could have a huge impact on healthcare associated infections and antimicrobial resistance.

Jul 182018
 

Owen Hughes Consultant Counselling Psychologist and Head of Pain and Fatigue Management Service, Powys Teaching Health Board

The Q community has opened its doors to new members again and you may be wondering how this community is dissimilar to the other improvement organisations that are available in health. For me, the Q community IS different. It brings together a unique group of people and has led to learning and opportunities that I just haven’t found elsewhere.

In days gone by one could be forgiven for thinking that improvement or organisational development was the sole job of people who were brought in to fix problems. Now, however, it is very much part of the day job for us all. As a clinician and service lead, I am constantly looking for resources and networks to help me come up with ways of meeting the needs of our population, without having to spend more money, and for me the Q community has been a fantastic opportunity to meet some great people and hear some truly inspirational ideas.

The Q community is run by the Health Foundation. It is a network of people who are interested in improving the health and wellbeing in all its facets. Whilst there are many members who work in the field of continuous improvement or organisational development there are also plenty of professionals from health, care and housing and third sector organisations as well as the people using services themselves.

I joined approximately two years ago and almost immediately got involved in the first of the “Q Labs” which was focused on developing peer support. I have always been a fan of people working with their peers to overcome their challenges. People who are willing to share their lived experience can be so powerful but too often peer support schemes have ended prematurely. The Q Lab enabled me to network with a diverse range of people with a huge amount of combined experience and allowed me to learn some better ways forward. To this end we are now working with Digital Communities Wales to help service users become more confident and proficient at using online resources to support their self management.

I have been impressed by the time and thought that has been put into the design of the Q labs. The materials used in the workshop and the way the process has been put together has been so provoking that I have never left an event with anything other than a head full of ideas and contacts. It has really given me pause for thought with regard to the materials I use in workshops and meetings with service users and colleagues and has shown me what an important part that design plays in improvement. They say good design releases dopamine in the brain and it goes some way to explaining why the process feels so worthwhile.

Recently, I have been participating in the Q Exchange process. At the end of the process is the possibility of receiving up to £30,000 to support a project but equally valuable has been the process of putting together the bid with the support and challenge of other members of the Q community. The input of the community has meant that the project has developed from an initial idea to a much more robust concept that may be worthy of funding. The projects that will be funded will be chosen by the community in September after another round of development. If we are lucky enough to be selected I know that there will be further support to maximise its chance of success.

If you are interested in developing your skills in improving services, want to be exposed to new ideas and challenges, and want to be a part of a kind and supportive community then I highly recommend the Q community to you.

Apply today https://q.health.org.uk/join-q/

Jul 182018
 

Owen Hughes Seicolegydd Cwnsela Ymgynghorol a
Phennaeth y Gwasanaeth Rheoli Poen a Blinder, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Mae cymuned Q wedi agor ei drysau i aelodau newydd unwaith eto, ac efallai eich bod yn meddwl tybed sut mae’r gymuned hon yn wahanol i’r sefydliadau gwella eraill sydd ar gael ym maes iechyd. I fi, mae cymuned Q YN wahanol. Mae’n dod â grŵp unigryw o bobl at ei gilydd ac mae wedi arwain at ddysgu a chyfleoedd nad ydw i wedi dod o hyd iddyn nhw yn unman arall.

Yn y gorffennol, byddai’n ddigon teg meddwl bod gwelliant neu ddatblygu sefydliadol yn gyfrifoldeb i’r bobl sy’n dod i ddatrys problemau yn unig. Fodd bynnag, erbyn heddiw, mae’n rhan o waith beunyddiol pawb. Fel clinigydd ac arweinydd gwasanaeth, rwy’n chwilio am adnoddau a rhwydweithiau o hyd i fy helpu i feddwl am ffyrdd o fodloni anghenion ein poblogaeth heb orfod gwario mwy o arian, ac i fi, mae cymuned Q wedi bod yn gyfle gwych i gwrdd â phobl wych ac i glywed syniadau gwirioneddol ysbrydoledig.

Y Sefydliad Iechyd sydd y tu ôl i gymuned Q. Mae’n rhwydwaith o bobl sydd â diddordeb mewn gwella pob elfen o iechyd a lles. Er bod nifer o aelodau yn gweithio ym maes gwella parhaus neu ddatblygu sefydliadol, mae digonedd o weithwyr proffesiynol o sefydliadau iechyd, gofal, tai a’r trydydd sector yn aelodau, yn ogystal â’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau eu hunain.

Ymunais tua dwy flynedd yn ôl, a chymerais ran fwy neu lai yn syth yn y “Q Lab” cyntaf, oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu cymorth cymheiriaid. Rwyf wastad wedi hoffi gweld pobl yn gweithio gyda’u cymheiriaid i oresgyn eu heriau. Mae pobl sy’n fodlon rhannu eu profiad bywyd yn gallu bod yn hynod bwerus, ond yn aml iawn, mae’r cynlluniau cymorth i gymheiriaid yn dod i ben yn rhy fuan. Mae’r Q Lab wedi fy ngalluogi i rwydweithio ag ystod amrywiol o bobl sydd â phrofiad helaeth gyda’i gilydd, ac mae wedi fy ngalluogi i ddysgu ffyrdd gwell o symud ymlaen. Felly, rydym bellach yn gweithio gyda Chymunedau Digidol Cymru i helpu defnyddwyr gwasanaethau i fod yn fwy hyderus a medrus wrth ddefnyddio adnoddau ar-lein i’w helpu i hunan-reoli.

Rwyf wedi cael fy mhlesio gan yr amser a’r ystyriaeth a roddwyd i ddylunio’r Q Labs. Mae’r deunyddiau a ddefnyddir yn y gweithdy a’r ffordd y mae’r broses wedi cael ei rhoi at ei gilydd wedi bod mor ysgogol, ac rwyf wedi gadael pob digwyddiad gyda thoreth o syniadau a chysylltiadau. Mae wedi gwneud i fi feddwl am y deunyddiau rwyf’n eu defnyddio mewn gweithdai a chyfarfodydd gyda defnyddwyr gwasanaethau a chydweithwyr, ac mae wedi dangos i fi pa mor bwysig yw dylunio wrth wella gwasanaethau. Maen nhw’n dweud bod dyluniad da yn rhyddhau dopamin yn yr ymennydd, ac mae hynny’n esbonio pam mae’r broses yn teimlo mor fuddiol.

Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn cymryd rhan yn y broses Q Exchange. Ar ddiwedd y broses, ceir posibilrwydd o dderbyn hyd at £30,000 i gefnogi prosiect, ond mae’r broses o roi’r cynnig at ei gilydd gyda chymorth a heriau aelodau eraill cymuned Q wedi bod yr un mor werthfawr. Mae mewnbwn y gymuned yn golygu bod y prosiect wedi datblygu o syniad dechreuol i gysyniad llawer mwy cadarn a allai fod yn deilwng o gyllid. Y gymuned fydd yn dewis y prosiectau a ariennir ym mis Medi, ar ôl rownd arall o ddatblygu. Os byddwn yn ddigon lwcus i gael ein dewis, rwy’n gwybod y bydd rhagor o gymorth ar gael i sicrhau ei fod mor llwyddiannus â phosibl.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu eich sgiliau gwella gwasanaethau, eisiau syniadau newydd a chael eich herio, ac eisiau bod yn rhan o gymuned garedig a chefnogol, rwyf yn argymell cymuned Q yn fawr.

Aug 292017
 

Allwch chi gofio pryd aethoch chi i’r theatr? Beth oedd yn gofiadwy ac yn bleserus?
Ydych chi’n edrych ymlaen at ymweld â’r theatr eto?

Petai’n theatr llawdriniaethau, a fyddech chi’n teimlo’n wahanol? Dychmygwch:

  • Pe na fyddech yn deall pam neu beth oedd yn digwydd.
  • Petai’n rhaid i chi wisgo dillad rhywun arall (gŵn ysbyty).
  • Ar eich ffordd i’r theatr, roedd pobl yn syllu/ edrych i ffwrdd.
  • Bod y theatr yn arogleuo a bod y goleuadau’n llachar iawn.
  • Yn y theatr, bod golau’n fflachio ar y peiriannau swnllyd.
  • Nad oeddech chi’n adnabod dim un o’r bobl, a oedd yn gwisgo’r un dillad.
  • Eich bod chi’n parhau i ddweud eich bod chi wedi drysu ac yn ofnus, ond bod neb yn cymryd unrhyw sylw. Eich bod chi eisiau gadael, ond eu bod nhw wedi eich atal chi. Bod y bobl yn ymddangos yn flin?

Byddai’n gofiadwy, ond a fyddech chi eisiau ymweld eto?

Allwn ni amgyffred beth yw profiad unigolyn ag anabledd dysgu o ysbyty? A ydym ni’n deall sut mae profiadau blaenorol yn dylanwadu ar ymddygiad yn y dyfodol? Efallai ei fod yn ddiwrnod nodweddiadol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd, ond yn ddiwrnod gwahanol iawn i ddefnyddwyr ysbyty. Mae’n hanfodol ein bod ni’n dangos empathi, tosturi, a deall sut gall yr amgylchedd a’r prosesau mewn ysbyty fod yn anodd iawn i bobl eraill. P’un ai a ydym ni’n ymwybodol yn sgil y pasbort ysbyty anabledd dysgu, ein gwybodaeth, neu oherwydd ein bod ni wedi gwrando ar yr unigolyn a’i ofalwyr, mae’n hanfodol ein bod ni’n bodloni’r addasiadau hanfodol, rhesymol hynny ar gyfer triniaeth.

Datblygodd ein tîm Profiad Lleddfu Pryder Cleifion (Soothing Patients Anxiety) “SPA”, i gyflwyno diwrnod llai gofidus a phrofiad cadarnhaol yn y theatr mewn ysbyty. Cyflawnom hyn trwy ddefnyddio cylchau ailadroddol Cynllunio, Gwneud, Astudio, Gweithredu, a thechnegau eraill a addysgwyd gan y cwrs IQT Arian i sicrhau y caiff ein prosesau eu mireinio’n barhaus. Mae cleifion a/neu eu gofalwyr yn bartneriaid cyfartal wrth gynllunio eu gofal. Mae myfyrio ar bob rhyngweithiad ac adborth cyson yn cynnig dysgu newydd i wella’r gwasanaeth yn barhaus. Cyflawnir diwrnod cofiadwy a phleserus trwy dechnegau tynnu sylw y mae’r claf yn eu dewis, wrth roi’r anesthetig cyffredinol, yr ydym yn ei alw’n “anaesthesia diarwybod neu anaesthesia â thema”, sy’n lleihau/osgoi tawelyddiad a/neu reoli ymddygiad yn gadarnhaol (ataliaeth). Caiff yr holl dechnegau eu hymarfer yn y theatr gyda’r claf a’i ofalwyr cyn diwrnod y llawdriniaeth, sesiwn “ymarfer”.

  • Anaesthesia diarwybod – rhoi’r anaesthetig tra bod yr unigolyn dan sylw yn cymryd rhan yn ei hoff weithgarwch a’r dechneg tynnu sylw dewisol.
  • Anaesthesia â thema – caiff y daith ei hadeiladu o gwmpas hoff beth. Fe wnaeth dyn ag anabledd dysgu wneud sylw yn ystod ein clinig asesu cyn anaesthetig pwrpasol, bod y mwgwd wyneb anaesthetig yn ei atgoffa o beth yr oedd peilotiaid awyrennau ymladd yn eu defnyddio yn ei hoff ffilm, Top Gun. Fore’r llawdriniaeth, gwyliodd ef y ffilm. Wrth gerdded i’r theatr, gwrandawodd ar gerddoriaeth thema’r ffilm. Yn y theatr, cymerodd ran mewn rhestr wirio cyn hedfan/anaesthetig. Aeth i gysgu yn dal ei fwgwd wyneb wrth wylio golygfa hediad awyrol trwy i-pod o’i flaen. Ar ôl deffro, derbyniodd dystysgrif hedfan Top Gun.

Mae’r Gwobrau’n ymgorffori’r cyfle i rannu dysgu a dylanwadu ar ofal y tu allan i’ch sefydliad. Y llynedd, enillodd y tîm Wobr Dinasyddion wrth Wraidd Ail-ddylunio Gwasanaeth GIG Cymru, ac eleni, Tîm Anaesthesia  y Flwyddyn BMJ. Mae’n anrhydedd cael gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu a’r cyfle cynhenid i herio normau gofal iechyd. Mae ein defnyddwyr gwasanaeth amrywiol ac unigryw yn sicrhau dysgu parhaus a gwella ansawdd, gan fod pob un ohonynt yn ysbrydoli posibiliadau/dewisiadau newydd ar gyfer defnyddwyr yn y dyfodol.

Cwestiwn:

Beth fyddech chi ei angen ar gyfer ymweliad cofiadwy a phleserus â’r theatr?

I gael mwy o wybodaeth:

E-bost: Paul.Harris@wales.nhs.uk

May 182017
 

If, like me, you have an interest in quality improvement in healthcare, chances are you are in one of two situations. You may already be part of a network of likeminded people, whether this is a formal network such as the IQT Gold Network , or an informal network with colleagues. Alternatively you may have a real interest in quality improvement, and have lots of ideas and experience, but are feeling isolated and don’t know where to go for help, inspiration, or to share ideas. Whichever of these sound most familiar, Q may be for you.

 I was lucky enough to be part of the founding cohort for Q. During 2015, 231 of us from across the UK worked together with the Health Foundation to help design, refine and test Q before wider recruitment started in 2016. It is fair to say that co-producing something with this many people was an interesting experience. At times it was confusing and even frustrating. However it was always thought provoking, it enabled me to be part of lots of brilliant conversations and most importantly, it was lots of fun!

 Now Q has moved into wider recruitment, it’s exciting to see the community grow and develop, and it will be good to see the numbers of people from Wales increase. If you are wondering whether Q is for you and are not sure whether it is worth applying, these would be my thoughts. With Q, you will get out what you put in. It is a two way process, and one that you can engage in to whatever level you wish. It may be that you undertake most of your Q activity at your desk or workplace, whether that is reading or writing blogs, speaking to other community members via the Randomised Coffee Trials, or by joining one of the many special interest groups. Alternatively there are lots of opportunities for face to face networking, with regional and national Q events, Q visits and Q labs.

 For me, Q has provided the opportunity to meet people that I wouldn’t have met, to swap ideas and to learn new things. In Wales, we are quite advanced compared to other areas in that we already have IQT and the Gold Network. With Q, your network within Wales will strengthen and you will join a community from across the rest of the UK. By far the best thing that Q has given me is to meet someone at one of the national networking events from NHS Scotland who does the same job as me. And I mean, exactly the same job. It’s like we live in a parallel universe. Our teams do the same things, are structured the same way, and face the same challenges. We now have monthly phone calls, discuss issues, solve problems together and share documents, solutions and ideas. In July the first of our reciprocal visits is taking place. The way my team and I work, has changed significantly for the better because of the person I met through Q.

 So, do I think you should you join Q? If you have a passion for quality improvement in healthcare, and are willing to be a proactive member in an exciting new community of likeminded people, then absolutely, yes you should!

 More info here, apply today here 

May 182017
 

Os ydych chi, fel finnau, yn ymddiddori mewn gwella ansawdd ym maes gofal iechyd, rydych fwy na thebyg mewn un o ddwy sefyllfa. Efallai eich bod eisoes yn rhan o rwydwaith o bobl o’r un meddylfryd, p’un a yw hynny ar ffurf rhwydwaith ffurfiol megis Rhwydwaith Lefel Aur Gwella Ansawdd gydan Gilydd neu’n rhwydwaith anffurfiol gyda chydweithwyr. Neu efallai bod gennych wir ddiddordeb mewn gwella ansawdd a bod gennych lawer o syniadau a phrofiad, ond eich bod yn teimlo’n ynysig heb wybod ble i fynd i gael cymorth, ysbrydoliaeth nac i rannu syniadau. Pa bynnag un o’r rhain sydd fwyaf cyfarwydd, gall fod yn addas i chi.

Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn rhan o garfan sefydlu Q. Yn ystod 2015, cydweithiodd 231 ohonom ledled y DU gyda’r Sefydliad Iechyd er mwyn helpu i gynllunio, mireinio a phrofi Q cyn dechrau recriwtio’n ehangach yn 2016. Mae’n deg dweud mai profiad diddorol oedd cyd-gynhyrchu rhywbeth gyda chymaint â hyn o bobl.  Roedd yn ddryslyd a hyd yn oed yn rhwystredig ar adegau.  Fodd bynnag, roedd bob amser yn ysgogi’r meddwl, gan fy ngalluogi i fod yn rhan o sawl sgwrs anhygoel ac yn bwysicach, roedd yn llawer o hwyl!

Bellach mae Q wedi symud i recriwtio’n ehangach, ac mae’n gyffrous gweld y gymuned yn tyfu ac yn datblygu, a bydd yn dda gweld cynnydd yn nifer y bobl o Gymru. Os ydych yn pwyso a mesur a yw Q yn addas i chi ac yn ansicr a yw’n werth gwneud cais i ymuno, dyma fy marn i. Gyda Q, byddwch yn cael yn ôl yr hyn y byddwch yn ei roi i mewn i’r gymuned. Mae’n broses ddwy ffordd, ac yn un y gallwch gymryd rhan ynddi ar ba bynnag lefel y dymunwch. Efallai eich bod yn cyflawni’r rhan fwyaf o weithgareddau Q wrth eich desg neu yn y gweithle, boed yn ddarllen neu’n ysgrifennu blogiau, siarad ag aelodau eraill o’r gymuned drwy’r Hap-dreialon Coffi, neu drwy ymuno ag un o’r sawl grŵp â diddordeb arbennig.  Neu ceir sawl cyfle i rwydweithio wyneb yn wyneb, a cheir digwyddiadau Q rhanbarthol a chenedlaethol, ymweliadau Q a labordai Q.

I mi yn bersonol, mae Q wedi rhoi’r cyfle i gwrdd â phobl na fyddwn i wedi cwrdd â nhw fel arall, gan gyfnewid syniadau a dysgu pethau newydd. Yng Nghymru, rydym yn eithaf datblygedig o gymharu ag ardaloedd eraill gan fod gennym rwydwaith Gwella Ansawdd gyda’n Gilydd a Rhwydwaith Aur eisoes.  Gyda Q, caiff eich rhwydwaith o fewn Cymru ei gryfhau a byddwch yn ymuno â chymuned sydd ar gael ledled y DU.  Y peth gorau a gefais yn sgil Q o bell ffordd oedd cwrdd â rhywun o GIG yr Alban mewn un o’r digwyddiadau rhwydweithio cenedlaethol sy’n gwneud yr un swydd â mi.  Mae ein timau yn gwneud yr un peth, wedi’u strwythuro’r un ffordd, ac yn wynebu’r un heriau.  Rydym bellach yn cael galwadau ffôn misol, yn trafod materion, yn datrys problemau gyda’n gilydd ac yn rhannu dogfennau, atebion a syniadau.  Cynhelir ein hymweliad cyfatebol cyntaf ym mis Gorffennaf.  Mae’r ffordd y mae fy nhîm a minnau yn gweithio wedi newid yn sylweddol, er gwell, yn sgil cwrdd â’r person hwn drwy Q.

Felly, a wyf yn credu y dylech ymuno â Q? Os ydych yn teimlo’n gryf ynglŷn â gwella ansawdd ym maes gofal iechyd, ac yn barod i fod yn aelod rhagweithiol o gymuned newydd gyffrous o bobl o’r un meddylfryd, yna dylech ymuno yn bendant!

Gwnewch gais ar-lein cyn 12 Mehefin yma. gwybodaeth bellach.